Skip to content

Jeff Cuthbert AC

Dolenni perthnasol

Yn yr adran hon o’r wefan, cewch wybodaeth am ein polisïau addysg a’r cymorth y gallwn ni ei gynnig i chi.
Jeff Cuthbert AC
Manylion bywgraffyddol a chyfrifoldebau'r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.

Magwyd Jeff yn Ne Cymru a bu’n fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd. Mae ganddo radd mewn Peirianneg Mwyngloddio a bu’n Llywydd ar Undeb Myfyrwyr Coleg Prifysgol Caerdydd rhwng 1974 a 1975. Bellach, mae’n aelod gweithgar o’r undeb llafur Unite.

Cyn cael ei ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2003, bu Jeff yn gweithio i Gyd-bwyllgor Addysg Cymru fel Pennaeth yr Uned Caffaeliad i Ddiwydiant. Yr Uned hon oedd yn gyfrifol am ddatblygu cymwysterau a safonau galwedigaethol a diwydiannol.

Jeff a sefydlodd ac a gadeiriodd y Grŵp Trawsbleidiol ar yr Amgylchedd Adeiledig, y Grŵp Trawsbleidiol ar Fyw’n Iach, a’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ddiabetes. Cyd-sefydlodd a chyd-gadeiriodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gwrw a Thafarndai hefyd. Yn y Cynulliad diwethaf, roedd Jeff yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad  ac yn aelod o’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol, y Pwyllgor Menter a Dysgu a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Mae Jeff yn ymwneud â nifer o brosiectau lleol yng Nghaerffili; yn fwyaf nodedig, ef yw Cadeirydd Pwyllgor Rheoli Canolfan Gymunedol Glöwyr Caerffili.

Ar ôl ei ailethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2011, penodwyd Jeff Cuthbert yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau ac ym Mis Mawrth 2013, penodwyd yn Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.

Mae’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg yn gyfrifol am:

  • Strategaethau sgiliau sector;
  • Aildrwyddedu, perfformiad, a datblygiad y Cynghorau Sgiliau Sector;
  • Cronfeydd datblygu sgiliau sector;
  • Gweithio gyda'r Cynghorau Sgiliau Sector a rhanddeiliaid i ddatblygu a rhoi fframweithiau Prentisiaethau ar brawf, gan gynnwys y model Rhannu Prentisiaeth, System Glirio ar gyfer Prentisiaethau, Recriwtiaid Ifanc, yr Uned Brentisiaethau, llwybrau i Brentisiaethau;
  • Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru a'r Comisiwn dros Gyflogaeth a Sgiliau;  
  • Cymwysterau galwedigaethol ar gyfer pob oedran; 
  • Cymwysterau sgiliau allweddol a hanfodol ar gyfer pob oedran;
  • Rhoi Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru ar waith; 
  • Gwasanaethau Dysgu TUC Cymru a Chronfa Ddysgu Undebau Cymru;
  • Chwarae Teg;
  • Blaenoriaethau 2 a 3 Cronfa Gymdeithasol Ewrop mewn perthynas â datblygu sgiliau yn y gwaith a sgiliau lefel uwch;
  • Datblygu Sgiliau Arwain a Rheoli;
  • Buddsoddwyr mewn Pobl;
  • ProAct a'r rhaglen olynol, Sgiliau Twf Cymru;
  • Symleiddio ac integreiddio gwasanaethau sgiliau busnes a datblygu busnes; 
  • Datblygu, cadw a denu myfyrwyr ymchwil lefel uwch i Gymru;
  • ReAct ac Adapt; 
  • Rhaglen Datblygu'r Gweithlu; 
  • Gwneud y mwyaf o fanteision economaidd ymchwil a datblygu addysg uwch; 
  • Rhaglenni i gefnogi busnesau i ddatblygu sgiliau'u gweithlu. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer unigolion a busnesau, ac ar gyfer partneriaethau strategol gyda rhanddeiliaid cenedlaethol a sectoraidd allweddol;   
  • Datblygu sgiliau'r gweithlu, gan gynnwys cymorth i unigolion a busnesau, ac ar gyfer partneriaethau strategol gyda rhanddeiliaid allweddol fel Cynghorau Sgiliau Sector a Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru o ran asesu'r galw am sgiliau; 
  • WorldSkills;
  • Pobl nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEETs);
  • Cyflogaeth Ieuenctid ac Oedolion Ifanc;
  • Dysgu carcharorion;
  • Polisi a chyflenwi Prentisiaethau ac Adeiladu Sgiliau;
  • Strategaeth a Chynllun Gweithredu 'Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru';
  • Cyd-fwrdd Cyflenwi Rhaglenni Cyflogaeth Cymru, gan gynnwys Fframwaith y Farchnad Lafur; 
  • Blaenoriaeth 1 Cronfa Gymdeithasol Ewrop, a Blaenoriaeth 2 ar gyfer Cyflogadwyedd 
  • Fframwaith Effeithiolrwydd Ansawdd mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, a dysgu gydol oes;
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu a rhoi rhaglenni cyflogadwyedd ar brawf, gan gynnwys Adeiladu Sgiliau; 
  • Gwarant Pobl Ifanc;
  • Twf Swyddi Cymru
  • Cyflogadwyedd a chyngor gyrfaoedd, gan gynnwys noddi Gyrfa Cymru;
  • Addysg Bellach (ac eithrio Llywodraethu Addysg Bellach).
  • Cymru Ddigidol: cydlynu'r strategaeth TGCh drawsbynciol;
  • Seilwaith band eang a TGCh;
  • Prosiect Cyfrifiadura Perfformiad Uchel i Gymru;
  • Rhaglen A4B;
  • Cynghrair Meddalwedd Cymru;
  • GO Wales.
Mae'r Gweinidogion arweiniol yn cadw cyfrifoldeb am y swyddogaethau hynny sydd wedi'u dyrannu i Ddirprwy Weinidogion at ddibenion cynrychioli'r materion hynny yn y Cabinet.  At bob diben arall, mae Dirprwy Weinidogion yn cyflawni'r cyfrifoldebau hynny o ddydd i ddydd, gan gynnwys ateb Cwestiynau'r Cynulliad.
Mae'r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg yn atebol i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau mewn materion ynghylch Sgiliau ac Addysg Uwch, ac i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ynghylch technoleg.

Ysgrifennu at Weinidogion

Cysylltwch ag Jeff Cuthbert drwy e-bostio: gohebiaeth.jeff.cuthbert@cymru.gsi.gov.uk  

Rydym yn anelu at ymateb i ohebiaeth a anfonir at Weinidogion, gan gynnwys y post electronig, cyn pen 17 diwrnod gwaith.  Bydd y Gweinidogion yn ymateb i ohebiaeth ynghylch materion sy’n berthnasol i’w portffolios. Dilynwch yr eitem ‘Ysgrifennu at y Gweinidogion’ ar ochr chwith y dudalen fel bod eich gohebiaeth yn cyrraedd y Gweinidog cywir.