Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Ymateb i argymhellion Adolygiad Mathias o adolygiadau etholiadol y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru

Dolenni perthnasol

Mae’r adroddiad hwn yn argymell gweithredu i sicrhau gwelliannau i’r broses o adolygu trefniadau etholiadol yn y dyfodol agos, a sicrhau y rhoddir newidiadau deddfwriaethol tymor hwy ar waith.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Ym mis Rhagfyr 2010 fe gyhoeddais benderfyniad i sefydlu adolygiad annibynnol o’r materion amserlennu ac ansawdd sy’n gysylltiedig â rhaglen adolygu etholiadol y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ac i nodi’r camau gweithredu sy’n ofynnol er mwyn sicrhau bod yr adolygiadau’n cael eu cynnal mewn da bryd ar gyfer etholiadau 2016. Ym mis Mawrth y llynedd fe ofynnais i Glyn Mathias gynnal yr adolygiad ac i lunio adroddiad ar fy nghyfer erbyn mis Mehefin.

Ar 22 Mehefin, ar ôl derbyn adroddiad yr adolygiad, fe wnes i ddatganiad i’r Cynulliad yn ymateb i’r casgliad cyffredinol nad oedd y Comisiwn yn ‘addas at y diben’, ac fe gyhoeddais gamau gweithredu priodol. Ymrwymais i wneud datganiad arall yn amlinellu’r camau nesaf. 

Dyma argymhellion llawn yr adroddiad, ynghyd â’m hymateb i. (Gwelir atodyn isod) (Nodyn: Mae’r rhifau mewn cromfachau yn cyfeirio at baragraffau yn adroddiad Mathias, a gyhoeddwyd yn Saesneg.)