Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Adroddiad gan yr Athro Syr Steve Smith ar Ad-drefnu Addysg Uwch yn Ne-ddwyrain Cymru

Dolenni perthnasol

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru werthusiad yr Athro Syr Steve Smith o’r opsiynau ar gyfer creu un sefydliad ôl-92 yn y De-ddwyrain, ynghyd â’r dystiolaeth gysylltiedig.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Ym mis Chwefror 2012, gofynnodd fy swyddogion i’r Athro Syr Steve Smith wneud gwaith ymgynghorol ar gynigion Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i ad-drefnu Addysg Uwch yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae fy swyddogion bellach wedi derbyn adroddiad yr Athro Smith ar gynigion penodol CCAUC y dylai Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Cymru, Casnewydd uno i greu un brifysgol fetropolitan tebyg i’r rheini mewn dinas-ranbarthau o faint tebyg ledled y DU.
Rwy’n sicrhau bod adroddiad yr Athro Smith ar gael i’r cyhoedd. Mae’n crynhoi ei safbwyntiau yn dilyn ystyriaeth o’r holl dystiolaeth a chyfarfodydd gyda’r holl randdeiliaid allweddol. Mae’n adroddiad clir, cytbwys a chadarn ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Athro Smith am ei waith ar hwn. Mae ei gymorth wedi bod yn amhrisiadwy.