Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Papur Gwyn – Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2012

Dolenni perthnasol

Bwriedir y bydd y cynigion hyn yn ffurfio Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) a gaiff ei gyflwyno yn 2012.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Ar 12 Gorffennaf 2011, gwnaed datganiad gan y Prif Weinidog ynghylch Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Yn y datganiad hwnnw cyhoeddodd y byddai Bil Addysg yn 2012. 

Heddiw [10 Hydref 2011] yr wyf yn cyhoeddi Papur Gwyn yn gofyn am sylwadau ynghylch y cynigion ar gyfer Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru).  Yr wyf yn cynnig bod y Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer y meysydd canlynol:

  • Ymyrryd mewn ysgolion sy'n achosi pryder;
  • Canllawiau ar Wella Ysgolion;
  • Trefniadaeth ysgolion; 
  • Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg;
  • Cyfarfodydd Blynyddol â'r Rhieni;
  • Dysgwyr ôl-16 ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) mewn ysgolion;
  • Brecwast am ddim mewn ysgolion;
  • Cwnsela mewn ysgolion;
  • Codi taliadau hyblyg am brydau ysgol.

Dyma newidiadau pwysig sy'n rhan o'r pecyn o ddiwygiadau yr wyf yn bwriadu eu cyflwyno ym maes addysg yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 5 Ionawr 2012, a byddaf yn cymryd yr ymatebion i ystyriaeth wrth baratoi'r ddeddfwriaeth. Yr wyf yn gobeithio cyflwyno'r Bil i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod gwanwyn 2012.