Rhwng 29 Tachwedd ac 11 Rhagfyr 2010 yn Cancún, Mecsico, cynhaliwyd Unfed Cynhadledd y Partïon ar Bymtheg (COP16) Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd. Mae'r datganiad hwn yn tynnu sylw at ganlyniadau cadarnhaol yr uwchgynhadledd ac yn rhoi crynodeb o gyfraniad Llywodraeth y Cynulliad at y trafodaethau.
Roedd Cytgord Copenhagen, sef ffrwyth uwchgynhadledd COP15 yn 2009, yn cynnwys addewidion cyfyngedig i ostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr. Serch hynny methodd cynhadledd Copenhagen ag arwain at y fargen gyfreithiol rwymol yr oedd llawer yn gobeithio amdani. Oherwydd hynny, isel oedd y disgwyliadau ar gyfer uwchgynhadledd Cancún eleni.
Yn fy marn i, mae absenoldeb cytundeb rhwymol byd-eang ar y newid yn yr hinsawdd yn golygu ei bod mor bwysig ag erioed parhau i gael arweiniad yn y maes hwn. Felly roeddwn yn falch o gael fy gwahodd gan Chris Huhne, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd, i ymuno â dirprwyaeth y DU yn Cancún er mwyn cynrychioli buddiannau Cymru.
Mae mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yn elfen allweddol o ymrwymiad statudol Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu cynaliadwy. Mae Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, a gyhoeddwyd fis Hydref, yn cadarnhau ein hymrwymiad i sicrhau gostyngiad o 3% o flwyddyn i flwyddyn ar allyriadau nwyon tŷ gwydr, ynghyd â thoriad cyffredinol o 40% mewn allyriadau erbyn 2020 yn erbyn gwaelodlin 1990.
Roedd uwchgynhadledd Cancún yn gyfle i roi'r trafodaethau yn ôl ar y trywydd iawn a nesáu at gytuniad sy'n gyfreithiol rwymol drwy sicrhau cynnydd mewn nifer o faterion i ostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr, helpu i feithrin twf economaidd carbon isel a rheoli effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.
Pan oeddwn yn bresennol yn ystod wythnos olaf y trafodaethau, ceisiais:
hyrwyddo'r rôl y gall llywodraethau is-genedlaethol ei chwarae yn mynd i'r afael â'r ffactorau sy'n achosi'r newid yn yr hinsawdd a goblygiadau'r newid hwnnw
hyrwyddo Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, rhannu arferion da â llywodraethau rhanbarthol eraill a dysgu wrth eraill
gwella cysylltiadau Llywodraeth y Cynulliad â rhwydweithiau allweddol, llywodraethau rhanbarthol ac asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig.
Yn ogystal â'n Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd a'r ymrwymiad cadarn rydym wedi ei wneud i dorri allyriadau, llywiwyd fy nghyfraniad at y trafodaethau gan ddatganiad o fwriad Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer Cancún. Roedd y datganiad hwn yn galw ar y rheini oedd yn negodi i sicrhau cynnydd yn y meysydd hynny y gellid cytuno arnynt er mwyn helpu i adennill ffydd ym mhroses negodi'r Cenhedloedd Unedig. Wrth gyfleu'r neges hon roeddwn yn awyddus i dynnu sylw at y cyfleoedd economaidd a ddaw yn sgil bygythiad y newid yn yr hinsawdd, drwy drosi i economi carbon isel a chreu swyddi gwyrdd.
Roedd cynrychiolaeth o blith nifer fawr o lywodraethau is-genedlaethol, fel ein un ni, yn yr uwchgynhadledd. Roedd hyn yn dangos bod yr angen i weithredu ar y cyd i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd eisoes yn cael ei gydnabod gan lawer. Yn wir, mae'r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif y bydd rhwng 50% ac 80% o'r camau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yn cael eu cyflawni ar lefel islaw lefel yr aelod-wladwriaeth.
Yn y digwyddiadau y bûm i ynddynt, roedd ymrwymiadau Llywodraeth y Cynulliad, ein dull strategol o weithredu a'n cynlluniau cyflenwi yn cael eu hystyried yn batrwm i eraill. Roedd modd inni hyrwyddo'r fersiwn gryno newydd o'n Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd, sydd wedi'i pharatoi yn arbennig ar gyfer ein partneriaid rhyngwladol.
Yn ystod y trafodaethau, cadeiriais a chymerais ran mewn amryw o gyfarfodydd a digwyddiadau, a chefais gyfres o gyfarfodydd dwyochrog ag unigolion allweddol o bedwar ban byd yn ogystal â phartneriaid yn y DU. Hefyd, bûm yng nghyfarfod llawn agoriadol y negodiadau Gweinidogol â Chris Huhne a Jim Mather, y Gweinidog dros Ynni, Mentergarwch a Thwristiaeth yn Llywodraeth yr Alban, yn ogystal ag mewn sesiynau diweddarach o'r negodiadau hynny.
Yn fy anerchiad yn yr Uwchgynhadledd Arweinwyr ar yr Hinsawdd - sef digwyddiad a drefnwyd gan y Grŵp Hinsawdd ar gyfer Llywodraethwyr a Phenaethiaid Gwladwriaethau a Rhanbarthau - amlinellais ddull strategol Cymru o weithredu a thynnais sylw at rai o'r rhaglenni allweddol sy'n helpu i gyflawni ein hymrwymiadau i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Er enghraifft mae Arbed, y Rhaglen Buddsoddi Strategol mewn Perfformiad Ynni gan Lywodraeth y Cynulliad, yn mynd i'r afael â heriau economaidd a chymdeithasol dybryd yn ogystal ag yn gostwng allyriadau. Mae'r rhaglen yn gwneud hynny drwy osod technolegau microgynhyrchu a mesurau i ddefnyddio ynni'n effeithlon mewn cartrefi yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
Dangosodd yr Uwchgynhadledd Arweinwyr ar yr Hinsawdd imi sut y mae dinasoedd, gwladwriaethau, rhanbarthau a busnesau eisoes yn mynd ati i wireddu'r chwyldro carbon isel byd-eang, ac rwy'n falch bod Cymru yn rhan o'r gynghrair flaengar hon.
Siaradais mewn digwyddiad allweddol - a drefnwyd gan Rwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy (nrg4SD) - gan sôn am strategaethau datblygu carbon isel ar y lefel is-genedlaethol. Tynnais sylw at fenter newydd Cymru, Ynni'r Fro, sydd wedi'i chynllunio i ehangu prosiectau ynni adnewyddadwy yn y gymuned. Cymru yw un o sylfaenwyr nrg4SD ac mae'r rhwydwaith hwn yn rhoi llwyfan i weinyddiaethau is-genedlaethol rannu gwybodaeth ac arferion da. Rwy'n credu bod hyn yn allweddol er mwyn ymateb mewn ffordd gydgysylltiedig i'r her hon i'r byd cyfan.
Roeddwn yn arbennig o falch o gyflwyno un o ddigwyddiadau'r Swyddfa Dywydd, lle roeddent yn cyflwyno peth o'u hymchwil ddiweddaraf sy'n rhoi mwy o dystiolaeth ynghylch y newid yn yr hinsawdd. Mae'r gwaith ymchwil hwn yn dangos bod yr arwyddion o'r newid yn yr hinsawdd yr un mor gryf ag y buont erioed. Mae'r gwaith ymchwil newydd hwn yn dangos bod y dystiolaeth wyddonol ar y newid yn yr hinsawdd yn dal i ymgasglu. Mae'n atgyfnerthu'r cysylltiad rhwng gweithgarwch dynol a'r newidiadau yn yr hinsawdd.
Bûm mewn digwyddiad ar y cyd rhwng ANAAE a CONAGO (sef rhwydweithiau datblygu cynaliadwy yng Nghanolbarth a De America) i rannu arferion gorau o ran gweithgarwch i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Yn y sesiwn hon, roeddwn yn awyddus i dynnu sylw at ein Prosiect Gweithredu Tiriogaethol ar y Newid yn yr Hinsawdd, sy'n brosiect mewn partneriaeth â rhanbarth Mbale yn Uganda. Mae'r fenter hon, sy'n cael ei chynnal gyda Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig (UNDP) a'r Adran dros Ddatblygu Cynaliadwy yn Llywodraeth y DU, yn helpu cymunedau yn Mbale i asesu mannau allai ddioddef yn waeth na'i gilydd yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Bydd hefyd yn helpu i fonitro newidiadau mewn patrymau tywydd a chynllunio sut orau i ymaddasu i amodau amgylcheddol newydd. Ar yr un pryd, bydd y prosiectau yn rhoi cyfleoedd newydd i fusnesau yng Nghymru.
Fe'm gwahoddwyd i gadeirio cyfarfod o Bwyllgor Llywio nrg4SD a chynhaliais gynhadledd i'r wasg ar ran llywodraethau rhanbarthol yn y trafodaethau, ar y cyd ag ICLEI (Llywodraethau Lleol o Blaid Cynaliadwyedd).
Mae Cymru a Québec eisoes wedi meithrin perthynas gref a manteisiais ar y cyfle i gwrdd â'u Gweinidog newydd dros yr Amgylchedd, Pierre Arcand. Gwahoddodd y Gweinidog fi i annerch cynhadledd yn sgil uwchgynhadledd Cancún, i'w chynnal yn Llundain yn y flwyddyn newydd, ac fe wnaethom gytuno i archwilio cyfleoedd economaidd sydd o fudd i Gymru ac i Québec fel ei gilydd yn 2011.
Cefais gyfarfodydd dwyochrog â Llywydd rhanbarthol Llydaw, Jean-Yves Le Drian, ac â Mike Rann, Pennaeth Llywodraeth De Awstralia, i drafod ein dull o fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac i ddatblygu'r cysylltiadau rhwng ein rhanbarthau. Rwyf wedi bod yn awyddus i ehangu aelodaeth rhwydweithiau cydweithredol ac yn sgil ein cyfarfodydd cytunodd Mike Rann y byddai De Awstralia yn ymuno ag nrg4SD. Mae De Awstralia yn ranbarth sydd bron i chwarter maint Ewrop gyfan.
Cefais gyfle i gwrdd â Monyane Moleki, y Gweinidog dros Adnoddau Naturiol yn Lesotho. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig clywed am ymdrechion Lesotho i ddefnyddio ynni'r haul i ddarparu trydan ar gyfer golau a TG mewn ysgolion. Mae gan Gymru eisoes gysylltiadau cryf â Lesotho a chytunodd y Gweinidog a minnau i adeiladu ar ein perthynas drwy archwilio cyfleoedd i gydweithredu ar faterion technegol yn ymwneud â'r newid yn yr hinsawdd, ynni adnewyddadwy a defnyddio ynni'n effeithlon, drwy ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica.
Hefyd, cefais gyfarfod â Linda McAvan, ASE Swydd Efrog a'r Humber, sy'n eistedd ar Bwyllgorau Senedd Ewrop ar yr Amgylchedd a Datblygu. Fe wnaethom gytuno i rannu mwy o wybodaeth am safbwynt Cymru ar faterion amgylcheddol a'r newid yn yr hinsawdd, fel y gellir adlewyrchu'r rhain yn well yn nhrafodaethau Senedd Ewrop.
Cefais wahoddiad gan Lysgennad y DU i Fecsico, Judith MacGregor, i agor digwyddiad a drefnwyd i wella cyfleoedd i fusnesau o Brydain ym Mecsico. Gwnes hynny gan dynnu sylw at rai o'r cysylltiadau cryf rhwng Cymru a Mecsico megis CEMEX, cyflenwr mawr o ddeunyddiau adeiladu sydd â chyfleusterau yng Nghymru, digwyddiad Gŵyl y Gelli a gynhaliwyd ym Mecsico yn gynharach eleni, a'r cysylltiadau academaidd cryf rhwng y ddwy wlad.
Tua diwedd yr uwchgynhadledd, cefais drafodaeth â Mohamed Aslam, y Gweinidog dros yr Amgylchedd yn Ynysoedd y Maldives, am y rhagolygon o ganlyniad llwyddiannus i'r trafodaethau. Mae ynysoedd y Maldives eisoes yn wynebu goblygiadau andwyol y newid yn yr hinsawdd, a chroesawodd y Gweinidog gefnogaeth Cymru i fargen gadarn yn sgil ein presenoldeb fel rhan o ddirprwyaeth y DU.
Nid oedd gwarant y byddai canlyniad llwyddiannus i uwchgynhadledd Cancún. Serch hynny yn dilyn negodiadau hirfaith, ac anodd ar adegau, dan lywyddiaeth effeithiol Llywodraeth Mecsico, llwyddwyd i daro bargen ar becyn sylweddol o fesurau. Nid yw'r cytundeb hwn yn gytuniad rhwymol, ond mae'n sicr yn gam mawr ymlaen.
O fewn fframwaith o gyfyngu cynhesu byd-eang i lai na 2°C, mae Cytundeb Cancún yn galw ar wledydd datblygedig i ostwng eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr fel a addawyd yng Nghytgord Copenhagen, ac i wledydd datblygol i gynllunio i ostwng eu hallyriadau hwythau. Mae'r Cytundeb yn cynnwys cronfa arfaethedig, Cronfa Werdd yr Hinsawdd, gwerth £64 biliwn y flwyddyn, er mwyn helpu gwledydd tlawd i ariannu ymdrechion i ostwng allyriadau ac ymaddasu, yn ogystal â darparu fframwaith i'r gwledydd sy'n talu i warchod fforestydd.
Rwy'n arbennig o falch bod ein hymdrechion yn ystod y trafodaethau wedi helpu i sicrhau cydnabyddiaeth i rolau llywodraethau is-genedlaethol a rhanbarthol yng Nghytundeb Cancún. Byddwn nawr yn ceisio adeiladu ar y gydnabyddiaeth hon wrth baratoi at yr uwchgynhadledd nesaf yn Ne Affrica yn 2011, a byddwn yn parhau i weithio â Llywodraeth y DU a'n partneriaid rhanbarthol i glosio at gytundeb rhyngwladol rhwymol.
Mae'r wyddoniaeth ddiweddaraf yn dangos bod angen targedau gwleidyddol uwch ar gyfer allyriadau er mwyn osgoi cynhesu 2°C neu ragor, ac mae Cytundeb Cancún yn cydnabod bod angen cynnydd yn yr addewidion presennol o ran allyriadau. Nid yw'r Cytundeb yn egluro'r mecanweithiau ar gyfer toriadau dyfnach i allyriadau, na statws cyfreithiol unrhyw gytundeb byd-eang yn y dyfodol, ond rwy'n credu ei fod yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer mwy o negodiadau ac mae ganddo botensial go iawn i arwain at gytundeb rhwymol yn y dyfodol.
Cenedl fach yw Cymru, ond mae gennym rôl amlwg i'w chwarae yn mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac mae gennym gyfle i arwain drwy esiampl wrth inni gyflawni ein hymrwymiadau ni ein hunain. Cawn ein hystyried, ledled y byd, fel ceffyl blaen ymysg y llywodraethau rhanbarthol ac is-genedlaethol ym meysydd y newid yn yr hinsawdd a datblygu cynaliadwy. Byddwn yn parhau i rannu'r gwaith cyffrous rydym yn ymgymryd ag ef yma yng Nghymru, a dysgu o ddulliau gweithredu eraill ledled y byd.
Ar y cyfle cyntaf yn y sesiwn newydd, byddaf yn gwneud datganiad llafar i Aelodau'r Cynulliad ar ganlyniadau'r uwchgynhadledd a'r Comisiwn diweddar ar y Newid yn yr Hinsawdd.