Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Memorandwn Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidogion Cymru a’r Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr (Ofwat)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Rwy’n falch o hysbysu bod Memorandwm Cyd-ddeallwtwtriaeth rhwng Gweinidogion Cymru a’r Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr (Ofwat) wedi’i gyhoeddi.

 

Mae’r Memorandwm yn gytundeb statudol, sy’n ofynnol o dan adran 27B o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003. Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac Ofwat i wneud trefniadau gyda’i gilydd, gyda’r nod o hyrwyddo cydweithrediad, rhannu gwybodaeth a thrin materion sy’n effeithio ar y ddwy ochr yn gyson.

 

Atodir copi o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth er gwybodaeth.

Mae’r ddogfen ar gael hefyd ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae copïau caled wedi eu rhoi yn y Llyfrgell.

 

Byddaf yn hapus i wneud datganiad llafar os yw Aelodau'r Cynulliad yn dymuno hynny cyn gynted ag y caf gyfle yn y sesiwn newydd.