Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Datblygu ReAct II

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau

Heddiw rwy’n cyhoeddi lansiad ReAct II a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2011 i gymryd lle’r rhaglen ReAct bresennol.  

Caiff ReAct ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a’i nod yw mynd i’r afael ag anghenion pobl y mae’u swyddi wedi cael eu dileu, neu o dan hysbysiad dileu swydd, drwy gyfres o fesurau i’w helpu i ddychwelyd i’r gwaith yn fuan. Mae ReAct yn targedu dau faes allweddol lle mae’n bosibl bod angen cymorth i weithiwr di-waith gael swydd newydd. Un yw rhoi cymhelliannau i ddarpar gyflogwyr gyflogi a hyfforddi gweithiwr di-waith, a’r llall yw diweddaru sgiliau gweithiwr di-waith a chael gwared ar unrhyw rwystrau i hyfforddiant a chyflogaeth.

Yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r Llywodraeth wedi gwario, neu wedi ymrwymo, cyfanswm o £32 miliwn i fodloni’r galw digynsail am gymorth yn sgil y cwymp yn yr economi. Roedd y gweithgarwch hwn yn llawer mwy na’r disgwyl yn sgil cynnydd cyfatebol mewn gwariant a phwysau ar gyllideb gyffredinol y rhaglen. Mae £13.5 miliwn wedi’i ymrwymo i’r rhaglen i sicrhau bod ReAct yn parhau i gefnogi unigolion a busnesau o leiaf tan ddiwedd prosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn 2014.

Mae’r rhaglen newydd yn newid pwyslais o hyfforddiant i ddiweddaru sgiliau gweithwyr di-waith i strwythur cymorth gwell er mwyn annog mwy o gwmnïau i gyflogi pobl sydd wedi colli’u swyddi, a chreu swyddi.

Er mwyn gwneud hyn, byddaf yn cynyddu’r cymhorthdal cyflogau sydd ar gael i gyflogwyr sy’n recriwtio person di-waith, cyn belled â bod y swydd yn cynnig o leiaf 25 awr yr wythnos. Bydd y cymhorthdal yn cynyddu o £2,080 i £3,000 a bydd yn parhau i gael ei dalu yn ystod y flwyddyn gyntaf o gyflogaeth. Rwy’n cadw’r uchafswm cyfraniad o £1,000 tuag at gostau hyfforddi gweithwyr newydd, a byddwn ni’n cyfrannu 50% yn hytrach na 70%. £1500 fydd y cymhorthdal i gyflogwyr sy’n recriwtio gweithiwr di-waith yn rhan amser, rhwng 16 a 24 awr yr wythnos. Yn olaf, £1,500 fydd uchafswm y grant hyfforddiant galwedigaethol i unigolion, yn hytrach na’r £2,500 sydd ar gael ar hyn o bryd drwy ReAct.

Mae hon yn ffordd fwy cynaliadwy o gefnogi unigolion a chyflogwyr fel ei gilydd. Rwyf o’r farn y bydd y cymorth cynyddol hwn yn rhoi mwy o gymhelliant i fusnesau greu swyddi newydd hanfodol.

Gyda’r pwysau cynyddol ar gyllidebau’r sector cyhoeddus, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn defnyddio’n hadnoddau mor effeithiol ac effeithlon â phosibl a chynnig y manteision gorau posibl i gynifer o bobl â phosibl. Rwy’n hyderus y bydd rhaglen newydd ReAct II yn gwneud hynny ac yn sicrhau bod y cyllid sydd ar gael yn cynnig yr effaith orau bosibl. Bydd y dull mwy trylwyr hwn a’r cymorth i greu swyddi drwy gymhorthdal cyflogau mwy yn helpu mwy o bobl i gael gwaith.