Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Datganiad Deddfwriaethol ar gyfer Mesur Arfaethedig Tai (Cymru)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio

Heddiw, cafodd Mesur Arfaethedig Tai (Cymru) ei osod.

 

Mae’r Mesur Tai arfaethedig yn gwneud newidiadau sy’n ei gwneud yn bosibl i ddarparu tai fforddiadwy mewn modd mwy effeithiol yng Nghymru.

 

Mae’r Mesur arfaethedig yn gwneud darpariaeth i:

  1. mynd i’r afael â’r ymrwymiad a wnaed yn nogfen clymblaid Cymru’n Un i alluogi Gweinidogion Cymru, ar sail cais oddi wrth Awdurdod Tai Lleol, i atal dros dro yr Hawl i Brynu, a hawliau perthnasol mewn ardaloedd sydd o dan bwysau oherwydd prinder tai er mwyn medru cynyddu’r stoc o dai fforddiadwy drwy ddulliau eraill; a
  2. rhoi rhagor o bwerau gorfodaeth a phwerau ymyrraeth i Weinidogion Cymru parthed y ddarpariaeth o dai gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y cyfarfod llawn yfory i gyflwyno’r Mesur arfaethedig.