Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Adroddiad am ymweliad â Dwyrain Uganda

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
John Griffiths, Y Cwnsler Cyffredinol

Yn ystod toriad hanner tymor mis Hydref teithiais ar ran Prif Weinidog Cymru i ymweld â rhanbarth Mbale, Uganda er mwyn cefnogi rhaglen ‘Cymru o blaid Affrica’ Llywodraeth y Cynulliad.

 

Pwrpas yr ymweliad hwn oedd lansio’r Prosiect Gweithredu Tiriogaethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (TACC) ac ymweld â phrosiectau a phartneriaid a gefnogir gan Gymru.

 

Bûm yn gwrando ar ffermwyr cynhaliaeth yn disgrifio sut mae’r newidiadau ym mhatrymau’r tywydd yn ei gwneud yn anos darogan dechrau a diwedd y tymhorau sych a gwlyb, gan eu gwneud yn ansicr ynghylch pa adeg y dylent blannu cnydau. Yn ogystal, cefais hanes y tirlithriad trasig a gladdodd bentrefi cyfan yn y mynyddoedd – tirlithriad a achoswyd yn rhannol gan ddatgoedwigo.

 

Bydd y prosiect TACC, a gynhelir dros gyfnod o dair blynedd, yn asesu effaith y newid yn yr hinsawdd yn Mbale ac yn paratoi cynllun i helpu’r rhanbarth i addasu i’r newid hwn.  Gellir defnyddio’r cynllun wedyn i gyrchu cyllid rhyngwladol er mwyn addasu i’r newid yn yr hinsawdd a chymryd camau lliniarol. Cynghorau Dosbarth a Chyrff Anllywodraethol sy’n cyflawni’r prosiect TACC yn Nwyrain Uganda, mewn partneriaeth â Llywodraeth y Cynulliad. Mae Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig yn rheoli’r prosiect ac fe’i cyllidir yn rhannol gan Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol llywodraeth y DU.

 

Un o amcanion y prosiect yw plannu coedwigoedd a helpu cymunedau lleol a ffermwyr coffi i ymdopi â’r newid yn yr hinsawdd. Bydd yn rhoi gwell dealltwriaeth o oblygiadau’r newid yn yr hinsawdd i drigolion Mbale ac yn galluogi’r rhanbarth i gymryd y camau angenrheidiol.

 

Cafodd y lansiad gyhoeddusrwydd sylweddol yn Uganda ac roedd y digwyddiad yn gyfle i sicrhau bod yr holl bartneriaid yn gwbl ymrwymedig ac yn gwneud cynnydd amserol.

 

Mae’r gwaith o blannu miliwn o goed, sef cam cyntaf y prosiect TACC, eisoes wedi dechrau, ac yn cael ei gyllido gan Sefydliad Waterloo o Gymru. Cefais ymweld â’r pedwar Corff Anllywodraethol sy’n gwneud y gwaith, a chlywais am yr heriau niferus a wynebir ganddynt. Mae pob un o’r partneriaid wedi dechrau plannu amrywiaeth eang o goed. Bydd y coed yn amsugno carbon, yn rhoi cysgod i gnydau ac yn darparu ffrwythau a chnau, yn ogystal â chadw’r pridd rhag golchi i ffwrdd a’i wneud yn fwy ffrwythlon.

 

Yn ystod gweddill fy ymweliad, cefais weld amrywiaeth o brosiectau eraill oedd â pherthynas â Chymru. Es i gymunedau lleol oedd â chysylltiadau â Phontypridd/Rhondda Cynon Taf, y Drenewydd, Llanfyllin a Thongwynlais, lle mae ymyriadau arloesol ar raddfa fach yn gwella bywoliaeth y bobl ac yn cryfhau’r cymunedau.  Cefais gwrdd â nifer o bobl ymroddedig o Gymru a oedd naill ai ar leoliad gyda’r rhaglen Cymru o Blaid Affrica neu’n gweithio ar gynlluniau eraill.

 

Roeddwn wedi fy mhlesio gan yr effaith y mae Cymru’n ei gael yn Mbale, ac yn synnu at yr amrywiaeth o gymorth oedd yno – o hyfforddi ffermwyr mewn mentrau cymdeithasol  i weithio gyda phlant mewn slym yn y ddinas. Roedd yn amlwg hefyd bod yr unigolion a grwpiau o Gymru’n elwa’n fawr ar eu profiadau.

 

Ar ddiwedd fy nhaith, es i ymweld ag Ysgol Uwchradd Bubutu yn Manafwa, sydd wedi’i gefeillio ag Ysgol Uwchradd Pontypridd. Gwelais yr adeiladau, cyfarpar a llyfrau a brynwyd ag arian a godwyd ym Mhontypridd a chefais gwrdd â 2 athro a 4 myfyriwr o Bontypridd oedd yno ar ymweliad. Mae cyfeillgarwch gref wedi datblygu rhwng y ddwy ysgol a’r ardaloedd o’u cwmpas ac roedd natur drawsnewidiol y berthynas hon yn wirioneddol ysbrydoledig.

 

Cefais groeso Affricanaidd gwresog gan bawb yn ddi-wahân, ac rwyf wedi gweld drosof fy hunan y manteision sylweddol y mae gwaith ac ymroddiad Cymru wedi’i wneud i addysg, iechyd, cymunedau ac economi Mbale.

 

Mae Cymru o Blaid Affrica’n parhau i helpu i ddiwallu angen mawr y cyfandir hwnnw, gan gydnabod y ddyletswydd foesol sydd arnom ni yng ngwledydd mwy llewyrchus y byd. Drwy feithrin ein cysylltiadau a dal ati gyda’r gwaith, gallwn sicrhau bod datganoli’n edrych at allan ac yn rhyng-genedlaetholaidd, gan agor y byd i Gymru a Chymru i’r byd.