Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Cyllideb Ddrafft 2011-2012

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Am 3.00pm heddiw, cyhoeddais Gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2011-12. Cyflwynir Cynigion y Gyllideb Ddrafft yn unol â’r Rheolau Sefydlog.

 

Bydd Cynigion y Gyllideb Ddrafft, dogfen naratif y Gyllideb Ddrafft a’r tablau manwl sy’n ategu’r gyllideb ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar wefan Llywodraeth y Cynulliad.

 

Mae’r Gyllideb Ddrafft hon yn amlinellu ein hymrwymiad i gyflwyno cynlluniau gwariant cyfrifol a chynaliadwy, er gwaetha’r setliad mwyaf heriol ers datganoli. Wrth baratoi ein Cyllideb Ddrafft, rydym wedi mabwysiadau dull unigryw Gymreig er mwyn adlewyrchu anghenion Cymru, amgylchiadau Cymru a blaenoriaethau Cymru. Mae ein cynlluniau gwariant yn adlewyrchu ein hymrwymiad i warchod gwasanaethau rheng flaen, cynnal buddion cyffredinol, cefnogi’r adferiad economaidd, gwarchod pobl sy’n agored i niwed a hyrwyddo cyfleoedd a chanlyniadau cyfartal ar gyfer pobl Cymru.