Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Bydd yr Aelodau’n dymuno cael gwybod bod Rheoliadau drafft Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 yn cael eu gosod heddiw, 01 Tachwedd 2010.

 

Mae bagiau siopa untro yn symbol eiconaidd o’n cymdeithas ffwrdd-â-hi ac yn broblem amgylcheddol. Amcangyfrifir i ni yng Nghymru ddefnyddio tua 350 miliwn o fagiau siopa y llynedd yn y prif archfarchnadoedd yn unig.  Mae hynny’n gyfwerth â 273 o fagiau i bob aelwyd yng Nghymru.  Ac nid yw’r ffigur hwn yn dangos y darlun llawn am nad yw’n cynnwys y miliynau o fagiau a ddarperir ar y stryd fawr, mewn siopau cornel ac mewn safleoedd manwerthu eraill. Amcangyfrifir bod bagiau siopa untro yn gyfrifol am 2.7 y cant o sbwriel yn ôl eu pwysau, a’i fod yn costio tua £1 miliwn i gael gwared ar y math hwn o sbwriel yng Nghymru bob blwyddyn.  Mae’r ganran hon yn ymddangos yn weddol isel o’i chyfrifo yn ôl pwysau, ond mae bagiau siopa untro yn ysgafn, yn hynod weladwy ac yn beryglus i fywyd gwyllt.

 

Mae dau ymgynghoriad wedi’u cynnal ynglŷn â’r cynigion i gyflwyno tâl am fagiau siopa untro yng Nghymru - un ohonynt ar gyfeiriad cyffredinol y polisi, ac un diweddarach ar y manylion.  O ganlyniad i’r broses ymgynghori, mae’n bleser gennyf gyhoeddi isod rhai newidiadau allweddol i’r cynigion:

 

5c fydd y tâl isaf statudol. Rwy’n hyderus y bydd codi tâl ar y lefel hon yn newid arferion pobl yn sylweddol, heb gyflwyno rhwystr diangen os bydd unigolyn wedi anghofio ei fag amldro.

 

Daw’r tâl i rym ar 01 Hydref 2011.  Rwyf o’r farn y bydd ymestyn yr amserlen ar gyfer rhoi’r rheoliadau ar waith, ac achosi iddi fod yn gyson â’r dyddiadau cyd-gychwyn ar gyfer busnesau, yn arwain at gyflwyno’r tâl yn fwy didrafferth a llwyddiannus.  Dylai hyn olygu bod digon o amser i sicrhau bod pob manwerthwr yn ymwybodol o ofynion y ddeddfwriaeth, a’u bod wedi cael digon o amser i addasu eu siopau a newid eu systemau TG, i hyfforddi staff a gwneud unrhyw newidiadau pellach angenrheidiol i agweddau craidd ar eu busnesau yng Nghymru cyn i’r tâl ddod i rym.

 

Byddaf yn cyflwyno’r rheoliadau i’w hystyried gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 30 Tachwedd 2010.