Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Adolygiad Llywodraeth y du o Wariant ar 20 Hydref 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Ddoe, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Hadolygiad o Wariant, sy’n amlinellu ei chynlluniau gwariant ar gyfer y pedair blynedd nesaf. Fe wnaeth y  Cabinet gwrdd fore heddiw i drafod y goblygiadau ar gyfer Cymru.

 

Y cynlluniau a gyhoeddwyd ddoe yw’r toriadau mwyaf i wariant cyhoeddus ers yr Ail Ryfel Byd.

 

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud erioed y bydd yn chwarae ei rhan i leihau’r diffyg yng nghyllideb y DU. Ond mae’r toriadau a gyhoeddwyd heddiw yn mynd yn rhy gyflym ac yn rhy ddwfn.

 

O’u hystyried ar y cyd â’r toriad o £18bn mewn budd-daliadau, byddant yn peryglu’r adfywiad economaidd bregus ac yn bygwth canlyniadau dinistriol a hirdymor i’r bobl hynny yn ein cymdeithas sydd fwyaf agored i niwed.  

 

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud dro ar ôl tro ei bod eisiau sicrhau nad yw’r Adolygiad o Wariant yn taro unrhyw ran o’r DU yn fwy na’i gilydd. Ond mewn gwirionedd bydd y toriadau hyn yn taro Cymru’n arbennig o galed ac nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud unrhyw beth o gwbl i liniaru hynny. 

 

Yn sgil yr Adolygiad o Wariant, bydd Cymru’n derbyn y toriadau mwyaf yn ei chyllideb mewn o leiaf genhedlaeth, a thoriadau mwy na’r gostyngiad yng nghyllidebau unrhyw un o’r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill.

 

Mae dyletswydd arnom i hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb wrth ddyrannu adnoddau, a hynny er lles yr economi, yn ogystal â saernïaeth gymdeithasol Cymru. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i warchod y buddsoddiad mewn ysgolion, sgiliau a gofal iechyd, yn ogystal â chadw’r hawliau cyffredinol - gan gynnwys y cynllun tocynnau teithio rhatach llwyddiannus, presgripsiynau am ddim, nofio am ddim a brecwastau a llaeth am ddim i blant ysgolion cynradd.

 

Mae toriadau Llywodraeth y DU yn golygu y bydd hanner miliwn o swyddi sector cyhoeddus yn diflannu ar draws y DU dros y pedair blynedd nesaf, gyda dros 38,000 o’r swyddi hyn yng Nghymru. Maent yn golygu na fydd prosiect Sain Tathan - y buddsoddiad mwyaf erioed yng Nghymru - yn digwydd bellach ac nid oes unrhyw gynnydd wedi’i wneud ar drydaneiddio’r rheilffordd rhwng Llundain ac Abertawe. Maent yn golygu bod annibyniaeth S4C mewn perygl ac mae trefniadau ariannu’r sianel i’r dyfodol yn ansicr. Maent yn golygu mai’r bobl hynny yng Nghymru sydd fwyaf agored i niwed fydd yn dioddef fwyaf yn sgil toriadau na welwyd eu tebyg mewn budd-daliadau - £7bn o doriadau ychwanegol ar ben y £11bn a gyhoeddwyd ym mis Mehefin - a’r cynnydd mewn TAW o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen. 

 

Yn gyffredinol bydd ein cyllideb £860m yn llai mewn termau real na’r gyllideb eleni (£15,119m – £14,259m), bydd £1.8bn yn llai mewn termau real erbyn 2014-15.

 

Er gwaetha’r rhan hanfodol y mae buddsoddiad cyfalaf yn ei chwarae yn yr economi ac wrth ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus, mae Llywodraeth y DU wedi torri cyllideb gyfalaf Cymru 40% mewn termau real erbyn 2014-15 – sy’n ostyngiad sylweddol fwy na’r gostyngiad cyffredinol mewn gwaraint cyfalaf ar draws y DU. Mae hynny’n golygu y bydd ein cyllideb gyfalaf yn is mewn termau real, erbyn 2014-15, nag ar unrhyw bryd ers y 1980au. Caiff y gyllideb ei thorri’n llym gan fwy na 25% mewn termau real yn y flwyddyn gyntaf. Mae yna berygl y bydd hyn yn gwneud niwed sylweddol i’r adfywiad economaidd yng Nghymru.

 

Roedd gan Lywodraeth y DU gyfle i liniaru effaith yr Adolygiad o Wariant ar Gymru yn rhannol drwy gymryd camau i fynd i’r afael â’r tanariannu parhaus y tynnodd y comisiwn annibynnol, Comisiwn Holtham, sylw ato. Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio gweithredu. Rydym yn edrych ymlaen at weld Llywodraeth y DU, ar y cyd â Llywodraeth y Cynulliad, yn ystyried yr argymhellion argyhoeddiadol sydd yn Adroddiad Terfynol Comisiwn Hotham, wrth i ni barhau i gael ein tanariannu - bydd y swm hwn yn fwy na £1bn dros y pedair blynedd nesaf. 

 

Mae graddfa a chyflymder toriadau Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn bwysicach fyth ein bod yn parhau i ddatblygu ein heffeithlonrwydd ac arloesedd. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn datblygu ymateb cyffredin ar draws y sector cyhoeddus i her y gostyngiad mewn cyllidebau. Mae hyn yn hanfodol os ydym am osgoi torri gwasanaethau a swyddi rheng flaen, gyda’r rhai sydd â’r anghenion mwyaf yn aml yn dioddef waethaf. Mae hyn yn annerbyniol i Lywodraeth y Cynulliad, sydd wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei gallu i leihau’r bwlch cydraddoldeb, yn hytrach na’i gynyddu.