Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Adolygiad o’r ddarpariaeth Orthodontig yng Nghymru a threialu modelau newydd o ofal deintyddol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Orthodonteg

 

Ym mis Medi 2009, sefydlais grŵp arbenigwyr o dan gadeiryddiaeth yr Athro Stephen Richmond, Athro Orthodonteg yn Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd, i edrych ar yr orthodonteg a ddarperir yng Nghymru.  Gwnaed hyn mewn ymateb i’r anawsterau y clywyd bod cleifion yn eu cael i gael triniaeth orthodontig mewn rhannau o Gymru ac yn dilyn argymhelliad Grŵp Adolygu Gorchwyl a Gorffen Contractau Deintyddol y GIG bod orthodonteg yn faes y mae angen ei ystyried ymhellach.

 

Ymhlith aelodau’r grŵp orthodontig yr oedd cynrychiolwyr y proffesiwn deintyddol, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (Cymru), orthodontwyr arbenigol, grwpiau cleifion, Byrddau Iechyd Lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill.  Amcan yr adolygiad oedd cynnig argymhellion i wella’r gwasanaethau a’r ffordd y byddent yn cael eu darparu.

 

Rwyf bellach wedi cael copi o adroddiad y grŵp a mawr yw fy nghroeso iddo.  Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i’r Athro Richmond ac aelodau eraill y grŵp am eu gwaith.  Mae’n adroddiad cynhwysfawr a manwl sy’n cynnig 17 o argymhellion eang eu cwmpas ar gyfer gwella gwasanaethau orthodontig, i’w hystyried gan Lywodraeth y Cynulliad, Byrddau Iechyd Lleol a’r proffesiwn deintyddol.

 

Mae’r adroddiad wedi dod i gasgliadau diddorol ac anodd. Mewn cyfnod o sialensiau economaidd, mae’n dda gweld bod y grŵp yn credu bod y gwariant cyfredol ar orthodonteg yng Nghymru – rhyw £12.7 miliwn bob blwyddyn – fwy neu lai’n ddigon i ddiwallu anghenion orthodontig cleifion Cymru.  Mae’r adroddiad yn ei gwneud yn glir hefyd mai ychydig iawn o driniaeth ddiangen sy’n cael ei rhoi er bod angen dilysu a chadarnhau ymhellach ansawdd y gwasanaethau.

 

Peth arall sy’n dod drosodd yn glir yw bod anghysonderau ac aneffeithlonrwydd yn y system gyfredol ar gyfer darparu a rheoli gwasanaethau orthodontig.  Hefyd, nid yw’r gwasanaethau ar gael yr un mor rhwydd ym mhob man.  Mae’r adroddiad yn awgrymu y gellid datrys hynny, ac arbed arian, trwy wella’r trefniadau caffael, y dulliau rheoli contractau/gwasanaethau a’r gymysgedd sgiliau.

 

Rwy’n cytuno ag argymhelliad yr adroddiad bod angen datblygu proses weithredu i sicrhau yr eir â gwaith y grŵp yn ei flaen.  Mae hyn yn neilltuol o bwysig er mwyn gallu caffael gwasanaethau orthodontig yn effeithiol ac effeithlon.  Mae’r adroddiad yn awgrymu hefyd y dylid sefydlu fforwm cynghori strategol ar orthodonteg.  Rwy’n credu y gellid cyfuno gwaith y grŵp gweithredu a’r fforwm, yn y lle cyntaf i gefnogi’r gwaith gweithredu ac yna i baratoi adroddiad blynyddol ar wasanaethau orthodontig yng Nghymru.  Rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried sefydlu grŵp, gyda chymorth Pwyllgor Deintyddol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Mae’r adroddiad yn haeddu cael ei ddosbarthu a’i ystyried yn eang, a dylai’r proffesiwn deintyddol gael y cyfle i ystyried y casgliadau ac ymateb i’r argymhellion.  I’r perwyl hwn, gwnaf yn siwr bod deintyddion Cymru sy’n darparu gofal GIG, Byrddau Iechyd Lleol a charfanau eraill â diddordeb, gan gynnwys Aelodau’r Cynulliad, yn cael ei weld.

 

Mae Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol wrthi’n ymchwilio i wasanaethau orthodontig yng Nghymru.  Mae eisoes wedi gweld tystiolaeth ysgrifenedig ac mae bellach yn dechrau clywed tystiolaeth lafar.  Bydd adroddiad y grŵp orthodontig arbenigol yn allweddol o ran llywio trafodaethau’r Pwyllgor, ac wrth ystyried argymhellion yr adroddiad orthodontig, rwyf am i unrhyw faterion eraill a godir gan y Pwyllgor gael eu hystyried fel rhan o’r broses weithredu.

 

Modelau gofal newydd

 

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i’ch hysbysu am y gwaith diweddaraf sy’n cael ei wneud i ystyried newidiadau posibl i system Unedau gweithgarwch Deintyddol y contract deintyddol.  Mae’r gwaith hwn yn deillio o’r adolygiad gwreiddiol o’r contract deintyddol ac o’n dymuniad i sicrhau mwy o degwch i gleifion a chontractwyr tra’n gwella ansawdd a gwaith ataliol.

 

Mae’r rhain yn bynciau cymhleth ac anodd a rwyf wedi cytuno â’r grŵp sy’n ystyried modelau posibl bod angen treialu a gwerthuso unrhyw gynigion yn drylwyr.

 

Rydym bellach wedi cyrraedd sefyllfa lle byddwn yn dechrau treialu dau fodel gofal newydd o Ebrill 2011.  Rwy’n disgwyl i’r treialon barhau am 2 flynedd.

 

Y model cyntaf yw’r Peilot Ansawdd a Defnyddioldeb Canlyniadau i dreialu ffordd newydd o weithio, i fynd i’r afael â phroblemau mynediad, ansawdd ac atal salwch.  Mae hyn yn golygu treialu tîm monitro contractau, mesur pa mor rwydd yw hi i gleifion gael at wasanaethau deintyddol y GIG gan ddefnyddio nifer o feini prawf a fformiwla i addasu gweithgarwch contract y practisau. Ar ôl proses ddewis drylwyr, mae pedwar practis wedi’u dewis i dreialu’r model, yn y Fenni, Caerdydd, Dolgellau ac Abertawe.

 

Mae’r ail beilot yn ymdrin â Gofal Deintyddol Ataliol i Blant a Phobl Ifanc a bydd yn golygu newid y ffordd y mae deintydd yn cael ei dalu i drin plant.  Caiff taliad y pen ei gyflwyno ar gyfer cleifion 0-18 oed.  Yn sail i hwnnw bydd cynllun cofrestru gyda thaliad ychwanegol amrywiol fydd wedi’i gysylltu ac yn dibynnu ar amddifadedd lleol.  Amcanion y peilot fydd rhoi cymhelliant i roi gofal ataliol ar gyfer dannedd cynradd a deintiad cymysg, ategu rhaglen iechyd dannedd y Cynllun Gwên a chloriannu dangosyddion ansawdd a mynediad.  Dewiswyd pum practis i dreialu’r model hwn, yn Aberdâr, Conwy, Cwmbrân, Casnewydd ac Abertawe.