Skip to content

Datganiad Llafar - Gemau’r Gymanwlad 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth

Yr wyf yn siŵr y gwnewch i gyd ymuno â mi i longyfarch Tîm Cymru ar ei lwyddiant yng Ngemau’r Gymanwlad 2010 yn Delhi. Mae Gemau’r Gymanwlad yn ddigwyddiad arbennig iawn ym myd y campau.  Maent wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd a hwythau bellach yw’r gemau aml-gamp mwyaf yn y byd ar ôl y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Daeth rhyw 6,000 o athletwyr o 71 o wledydd ynghyd i gystadlu yng ngemau 2010. Dyna ddangos anferthedd y digwyddiad a’r cystadlu a fu. I Gymru, mae Gemau’r Gymanwlad yn arbennig o bwysig oherwydd dyma’r unig gemau yr ydym yn cael cystadlu ynddynt fel gwlad. I lawer o athletwyr, dyma’r unig gyfle i gynrychioli Cymru ar y lefel uchaf.

 

Anfonodd Tîm Cymru 175 o athletwyr i’r gemau i gynrychioli’r wlad, sef un o’r timau mwyaf a anfonwyd gennym erioed, a hoffwn longyfarch pob un ohonynt am ennill yr anrhydedd i gynrychioli eu gwlad mewn digwyddiad mor aruchel. Yr wyf yn edrych ymlaen at fynd i’r seremoni i’w croesawu adref ddechrau mis Tachwedd. Rhyngddynt, llwyddodd athletwyr Cymru i ennill cyfanswm o 19 o fedalau, gan gynnwys dwy fedal aur. Yr oedd hyn yn ganlyniad calonogol iawn o sawl safbwynt. Cafodd y dynion a’r menywod lwyddiant a chafodd medalau eu hennill mewn amrywiaeth dda o gampau, gan gynnwys nofio, beicio, codi pwysau, athletau, saethu, paffio, bowls a gymnasteg. Daethom yn bymthegfed ar dabl y medalau, ond yn ôl Chwaraeon Cymru, mae gan Gymru fwy o fedalau fesul pen o’r boblogaeth na phob un o wledydd eraill Prydain, a ni sydd ar flaen y ras i guro Awstralia a Seland Newydd.

 

Cawsom berfformiadau rhagorol gan ein hathletwyr ifanc addawol ac mae hynny’n argoeli’n dda i Gymru yn y dyfodol. Yn ogystal â’r athletwyr hynny sydd wedi adeiladu ar eu proffil rhyngwladol, fel y rhedwr dros y clwydi ac enillydd y fedal aur Dai Greene a’r nofiwr Jazz Carling, tynnodd y gemau sylw hefyd at genhedlaeth newydd o Gymry, fel y beiciwr Becky James, y gymnast Frankie Jones a’r paffiwr Sean McGoldrick. Yr wyf am sôn hefyd am rywun ychydig yn hŷn sydd â record ryfeddol, sef y bowliwr Robert Weale, a lwyddodd o’r diwedd i ennill medal aur ar ôl ennill medalau arian ac efydd yng Ngemau’r Gymanwlad yn y gorffennol. Yr wyf hefyd am enwi Non Evans sydd wedi cynrychioli Cymru mewn tair camp wahanol, sydd yn dipyn o gamp.

Hoffwn hefyd longyfarch capten Tîm Cymru, Michaela Breeze, sydd, ar ôl ennill medal arian am godi pwysau yn y Gemau, wedi penderfynu ymddeol o’r llwyfan rhyngwladol.  Mae Michaela wedi bod yn gampwraig ryfeddol.  Cafodd yr alwad i gystadlu dros Brydain Fawr pan oedd hi prin 14 oed ac mae hi wedi gwisgo fest Cymru â balchder am 18 mlynedd ar lefelau uchaf ei champ.  Mae hi’n esiampl wych ac yn ysbrydoliaeth i fenywod eraill ym myd y campau.

 

Wrth gwrs, mae cynrychioli’ch gwlad ar y cae chwarae a chael llwyddiant ar lwyfan y byd yn anrhydedd enfawr i unigolion.  Yr ydym oll yn sylweddoli bod gorchest ein hathletwyr yn ffrwyth llawer iawn o waith caled ac ymroddiad.  Er hynny, yr wyf yn siŵr mai hwy fyddai’r cyntaf i gydnabod bod eu llwyddiant yn ganlyniad hefyd i waith penigamp Tîm Cymru. Rhaid imi ganmol, felly, gyfraniad cyrff rheoli’r campau yng Nghymru a’r hyfforddwyr fu’n allweddol i’n hathletwyr allu gwireddu eu llawn botensial.  Mae Laura McAllister a’i thîm yn Chwaraeon Cymru wedi chwarae rhan bwysig iawn ac wedi gweithio’n glòs â Chyngor Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, sy’n gyfrifol am ddewis a darparu Tîm Cymru.  Yr wyf yn gwybod y bu Chris Jenkins, y Chef de Mission, Ann Ellis, y Llywydd a Gareth John, y Cadeirydd, ynghyd â’u staff cymorth, yn gweithio’n ddiflino i sicrhau  y gallai’r tîm berfformio’u gorau glas.

 

Yn anffodus, methais â mynd i’r Gemau ond yr wyf wedi mwynhau gwylio rhai digwyddiadau ar y teledu a pherfformiadau o’r safon orau gan Gymry. Newydd fod y mae seremoni cau’r Gemau ond eisoes, mae ein meddyliau’n troi at y dyfodol. Gwlad fach yw Cymru ond mae ein huchelgais yn fawr.  Yr ydym eisiau mwy o lwyddiant ac rydym eisiau ennill medalau mewn digwyddiadau mawr fel y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd a Gemau’r Gymanwlad.  Yr ydym am ennill Pencampwriaethau’r Byd ac Ewrop a bod yn adnabyddus ledled y byd am ein gorchestion ar y meysydd chwarae. Yr ydym am geisio efelychu Awstralia a Seland Newydd, lle mae llwyddiant yn rhywbeth sydd i’w ddisgwyl, a lle mae popeth yn cael ei wneud er mwyn sicrhau llwyddiant mewn pencampwriaethau rhyngwladol.

 

Mae athletwyr elite y byd yn ymestyn ffiniau eu gallu at lefelau newydd ac mae’r safon ymhob camp yn aruthrol o uchel.  Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i’n safonau ninnau godi os ydym am gystadlu ar yr un lefel.  Un elfen allweddol o hynny yw gofalu bod gennym y strwythurau a’r polisïau iawn.  Yn gynharach eleni, lansiais y Strategaeth Chwaraeon Elite sy’n rhoi cyfeiriad clir a thargedau uchelgeisiol ar gyfer chwaraeon elite yng Nghymru ac yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael i ni wrth inni barhau i anelu at ragoriaeth.

 

Mae hefyd yn allweddol ein bod yn annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y campau, yn enwedig pobl ifanc.  Mae gweithgarwch corfforol yn hanfodol er budd ein hiechyd a’n lles ar hyd ein hoes ac mae hynny i’w weld yn uchelgais Chwaraeon Cymru i gael pob plentyn yng Nghymru i wirioni ar chwaraeon.  Rhaid i bawb ddechrau yn rhywle a does dim amheuaeth y bydd rhai o athletwyr elite y dyfodol yn cael eu cyflwyno i’r campau trwy’r rhaglenni 5x60 neu Campau’r Ddraig, y fenter nofio am ddim neu drwy weithgareddau cymunedol sy’n cael eu trefnu gan glybiau a chyrff rheoli.

 

Nid oes llawer o bethau all ysbrydoli a dod â gwlad ynghyd cystal â chwaraeon.  Roedd Cwpan Ryder yn ddigwyddiad gwirioneddol aruthrol a gallwn oll ymfalchïo fel Cymry am ei gynnal cystal.  Yr ydym yn awr wedi gweld ein hathletwyr yn perfformio ac yn llwyddo yng Ngemau’r Gymanwlad. Rhaid inni sicrhau ein bod ni’n manteisio i’r eithaf ar y digwyddiadau hyn i ysbrydoli pobl Cymru i gymryd rhan mewn chwaraeon. Bydd Gemau Olympaidd Llundain 2012 a Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 ar ein gwarthaf cyn hir.  Rhaid inni fod yn uchelgeisiol ac anelu am y gorau.  Mae ein perfformiad yn y gemau diweddaraf hyn yn dangos bod gennym sylfaen ragorol i adeiladu arni.