Skip to content

Ysgrifenedig - Lansio’r ymgynghoriad ar y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Heddiw rwy'n lansio'r broses ymgynghori ar gynnwys Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru.

 

Mae un o bob chwe eiddo yng Nghymru eisoes yn wynebu perygl llifogydd ac mae rhagfynegiadau'r Newid yn yr Hinsawdd yn awgrymu y bydd y risgiau hyn yn cynyddu yn y dyfodol wrth i batrymau glawio newid ac wrth i lefel y môr godi.  Wrth i'r perygl o lifogydd o ganlyniad i ddŵr wyneb yn benodol gynyddu, ni fydd codi amddiffynfeydd traddodiadol yn ddigonol bellach i'n diogelu rhag canlyniadau llifogydd, felly mae'n rhaid i ni edrych ar ddulliau eraill o reoli'r peryglon yr ydym yn eu hwynebu.

 

Bydd y Strategaeth Genedlaethol yn pennu amcanion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf. 

 

Dyma un o ofynion canolog y Strategaeth fel y nodwyd yn Adran 8 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, ac yn yr ymgynghoriad rydym yn ceisio barn ar bedwar o'r amcanion arfaethedig:

  • lleihau effeithiau llifogydd ac erydu arfordirol ar unigolion, cymunedau a busnesau
  • codi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd ac erydu arfordirol a'u cynnwys yn yr ymateb i'r perygl hwnnw
  • darparu ymateb effeithiol a pharhaus i lifogydd a digwyddiadau erydu arfordirol
  • blaenoriaethu buddsoddi yn y cymunedau sy'n wynebu'r perygl mwyaf.

O dan bob un o'r amcanion hyn y mae cyfres o gamau gweithredu y mae'n rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r Awdurdodau Rheoli Risg yng Nghymru, gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd, yr awdurdodau lleol, y Byrddau Draenio Mewnol a'r Cwmnïau Dŵr eu cymryd.

 

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn cydnabod yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni y bydd angen i ni ystyried yn ofalus sut a lle y byddwn yn buddsoddi yn y dyfodol.  Gofynnir cwestiynau o ran sut y dylwn ni flaenoriaethu buddsoddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru ac a ddylwn ni fod yn ceisio cyfraniadau oddi wrth y rhai fydd yn manteisio o ganlyniad i fesurau rheoli risg. 

 

Bydd y broses ymgynghori yn dechrau ar 16 Gorffennaf ac yn dod i ben ar 8 Hydref, ac rwy'n annog pob un i ystyried yr amcanion hyn a rhoi sylwadau arnynt.