Mae’n bleser gen i gyflwyno’r adroddiad hwn i chi am gyfarfod diweddaraf Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, a gafodd ei gynnal ar 28 Mehefin.
Disgrifiais wrth aelodau’r Comisiwn yr hyn y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn ei wneud i daclo achosion a chanlyniadau’r newid yn yr hinsawdd.
Rydym newydd lansio Arbed, rhaglen fuddsoddi i wella perfformiad ynni cartrefi, fesul ardal. Bydd Arbed yn ceisio cyflawni tri amcan: trechu tlodi tanwydd; lleihau nwyon tŷ gwydr; a chreu swyddi a chyfleoedd i fusnesau. Bydd y rhaglen yn helpu llawer iawn o gartrefi i ddefnyddio’u hynni yn fwy effeithlon, a hynn yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd i ddatblygu cynllun i leihau allyriadau ystad weinyddol Llywodraeth y Cynulliad, yn unol â’n hymrwymiad i’r ymgyrch 10:10.
Rydym wedi lansio hefyd ymgyrch fewnol i ennyn diddordeb staff Llywodraeth y Cynulliad a thynnu eu sylw at yr hyn y gallan nhw ei wneud i leihau ôl troed carbon y sefydliad y maen nhw’n gweithio ynddo, yn ogystal â’u hôl troed personol y tu allan i’r gwaith.
Mae’r Rhaglen Arbed Ynni yn y Cartref (HEES) yn rhaglen bwysig iawn ar gyfer trechu tlodi tanwydd a helpu pobl Cymru i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon. Mae’r broses ar gyfer dewis partneriaid i ddarparu cam nesa’r rhaglen o fis Ebrill 2011 eisoes ar waith.
Mae’r broses ar gyfer penodi cadeirydd annibynnol newydd i Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd hefyd ar waith ac rwy’n falch bod y Dr Samuel Fankhauser o Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi cytuno i fod ar y panel penodi.
Rydym wedi datblygu Siarter a Chanllawiau Datblygu Cynaliadwy i annog grwpiau, mudiadau, busnesau ac unigolion i ymroi i ymrwymiadau a newidiadau go iawn er mwyn gwireddu’r nod o Gymru un blaned.
Lansiais y Siarter a’r Canllawiau yng Ngŵyl y Gelli ar 28 Mai 2010, a daeth nifer o fudiadau oedd eisoes wedi arwyddo’r Siarter ynghyd i ddangos eu cefnogaeth.
Yn ogystal â’r Siarter Datblygu Cynaliadwy ac Wythnos Gynaliadwyedd Cymru, lansiais hefyd y Gronfa Her Datblygu Cynaliadwy i sbarduno ffyrdd newydd a chreadigol i ddatblygu prosiectau ac atebion datblygu cynaliadwy. Cafodd prosiectau eu dewis trwy gystadleuaeth tebyg i’r Dragon’s Den gan ennyn llawer iawn o ddiddordeb ac ynni.
Cynhaliodd Pwyllgor llywio’r Rhwydwaith Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy (nrg4sd) ei gyfarfod ar 20 Ebrill. Fe’i mynychais trwy fideogynhadledd. Fel y cytunwyd, ildiais fy swydd fel Cyd-Gadeirydd y Rhwydwaith a chadarnhau y bydd Cymru’n parhau’n aelod o’r Pwyllgor Llywio.
Ddechreu mis Mehefin, mynychais nifer o gyfarfodydd cynhyrchiol fel rhan o sesiwn negodi’r UNFCCC i sbarduno cydweithio a chydweithredu ar lefel isgenedlaethol, i ddatblygu ar yr ymrwymiadau a wnaed yng Nghopenhagen ym mis Rhagfyr 2009 ac i rannu profiadau o leihau allyriadau a pholisi addasu.
Ar 1 Mehefin, cadeiriais ddigwyddiad yr UNFCCC ar gyfer y Rhwydwaith Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy ym Monn ar y strategaethau addasu sy’n cael eu datblygu ar lefel isgenedlaethol. Arweiniais hefyd ddirprwyaeth ar y cyd o aelodau’r nrg4SD a’r Grŵp Hinsawdd mewn trafodaethau â Margaret Mukahanana-Sangarwe, Cadeirydd Gweithgor Ad Hoc yr UNFCCC ar Gydweithredu Tymor Hir (AWG-LCA).
Hwn oedd cyfarfod ffurfiol cyntaf y llywodraethau isgenedlaethol â Chadeirydd y Gweithgor a byrdwn y trafod oedd rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol o’r rhan bwysig iawn y mae llywodraethau isgenedlaethol yn ei chwarae wrth weithredu ar lefel fydeang yn erbyn newid hinsawdd.
Cafwyd adroddiadau gan aelodau’r Comisiwn ar waith diweddaraf eu sectorau a’u mudiadau a chyfrannodd dau o Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd diweddaraf Cymru, Nathan Sutcliffe a Huda Zahid, at y cyfarfod a rhoi adroddiadau am eu gwaith, gan gynnwys y prosiect i blannu 100,000 o goed yng Nghymru eleni a phrosiect i wneud rhaglen ddogfen ddiddorol a hawdd ei deall am y newid yn yr hinsawdd.
Prif ffocws sesiwn boreol y Comisiwn oedd y Strategaeth Newid Hinsawdd a’r cynlluniau cyflenwi cysyltiedig ar gyfer Lleihau Allyriannau ac Addasu. Roedd y Comisiwn yn eithaf bodlon â’r Strategaeth ond cynigiodd nifer o syniadau ar sut i gryfhau rhai penodau gan gynnwys rhoi mwy o fanylion ar y fethodoleg y seilir y targed arni a mwy o wybodaeth yn adran sector cyhoeddus y Strategaeth.
Bydd y Strategaeth yn cael ei lansio ym mis Hydref.
Cafwyd adroddiad ar waith diweddaraf y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd ar ei ail adroddiad cynnydd a gyhoeddwyd ar 30 Mehefin.
Enw’r cyflwyniad oedd Carbon Budgets ensuring a low carbon recovery. Esboniai’r tueddiadau o ran allyriannau mewn sectorau gwahanol gan ddod i’r casgliad y bu lleihad mewn allyriannau yn 2009, ond yn bennaf oherwydd y dirwasgiad. Cafodd meysydd polisi yr oedd angen eu cryfhau’n fawr eu hystyried, gan gynnwys amaethyddiaeth a thrafnidiaeth.
Clywodd y Comisiwn gyflwyniad hefyd gan yr Athro Lynda Warren ar adroddiad y Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol Adapting Institutions to Climate Change. Lansiodd y Comisiwn Brenhinol ei adroddiad ar 30 Mawrth 2010. Edrychai’r adroddiad ar y problemau sy’n wynebu sefydliadau sy’n ceisio addasu i’r newid yn yr hinsawdd, gan ystyried eu trefniadau presennol mewn tri maes enghreifftiol: dŵr croyw, bioamrywiaeth a chadwraeth natur, a pharthau arfordirol. Mae’r adroddiad yn gwneud cyfraniad arwyddocaol at ein dealltwriaeth o ymdrechion sefydliadau Prydain i addasu, yn awr ac yn y dyfodol.
Prif ffocws y dydd oedd trafodaeth am rôl, cylch gwaith a blaenraglen waith y Comisiwn yn y dyfodol. Dyma’r prif themâu a godwyd:
- Pwysigrwydd chwalu ffiniau a rhwystrau.
- Pwysigrwydd arweiniad a chyfathrebu.
- Eglurder ynghylch uchelgeisiau.
- Gweithio’n agos â Phwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i gael tystiolaeth i fwydo trafodaethau.
- Pwysigrwydd dod yn gorff annibynnol a chael cefnogaeth yr holl bleidiau.
Daw’r Comisiwn â’r drafodaeth hon am ei waith yn y dyfodol i ben yn y cyfarfod nesaf ym mis Hydref, a byddwn yn paratoi rhaglen waith derfynol yn sgil penodi Cadeirydd newydd annibynnol.