Skip to content

Ysgrifenedig - Cynllun Achub Morgeisi

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio

Cyflwynwyd y Cynllun Achub Morgeisi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel mesur brys yn sgil y dirywiad yn yr economi. Hyd yn hyn, mae  £14.1 miliwn wedi’i wario ar y cynllun hwn sydd wedi llwyddo i helpu i atal 336 o aelwydydd, sef 680 o oedolion a 351 o blant, rhag bod yn ddigartref. Mae’r cynllun wedi rhoi cymorth i deuluoedd ym mhob ardal Awdurdod Lleol.

 

Ym mis Ionawr eleni, dywedais wrth y Cynulliad Cenedlaethol na allaf barhau i flaenoriaethu rhoi arian tuag at y Cynllun Achub Morgeisi yn ddiddiwedd, ond serch hynny bod £12 miliwn wedi’i neilltuo ar gyfer y cynllun yn y flwyddyn ariannol hon.

 

Mae’r galw am gymorth gan y Cynllun Achub Morgeisi wedi bod yn uchel iawn, ac o’r herwydd mae’r cyllid presennol o £12 miliwn bron wedi’i ddyrannu’n llwyr. Felly, rwyf wedi edrych ar y Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon i weld beth allwn ei wneud i ymateb i’r galw, ac rwy’n symud £2 miliwn o gyllideb y rhaglen Extracare at y Cynllun Achub Morgeisi yn 2010-2011. Rwy’n gwybod bod hynny’n debygol o arafu’r rhaglen Extracare yng Nghymru, ond rhaid bod yn hyblyg o ran defnyddio’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i ni ar gyfer yr agenda tai cymdeithasol yng Nghymru.

 

Bydd y £2 miliwn ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i ymateb i’r ceisiadau o dan y Cynllun Achub Morgeisi sydd wedi’u hanfon at y Gyfarwyddiaeth Dai ac sy’n aros i gael eu cymeradwyo. Bydd hefyd yn ei gwneud hi’n bosibl prosesu ceisiadau yn y dyfodol. O gofio mai dim ond hyn a hyn o adnoddau sydd ar gael a’r galw posibl amdanynt, rhaid i ni sicrhau bod y cynllun yn cael ei dargedu at y bobl fwyaf bregus gan sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithiol. Rwyf felly wedi penderfynu bod yn rhaid ychwanegu meini prawf cymhwysedd newydd, a’m bwriad yw targedu’r Cynllun Achub Morgeisi at yr ymgeiswyr hynny sy’n anabl ac mae eu cartrefi wedi’u haddasu ar gyfer eu hanghenion.  

 

Rwy’n gwybod bod cymdeithasau tai ledled Cymru wrthi ar hyn o bryd yn ystyried ceisiadau nad ydynt yn bodloni’r meini prawf diwygiedig. Fy ngobaith yw y bydd y cymdeithasau’n edrych ar ffyrdd o helpu cymaint â phosibl o’r ymgeiswyr hyn, ond serch hynny, rwy’n cydnabod mai cyfyngedig fydd eu gallu i wneud hynny.

 

Crëwyd y Cynllun Achub Morgeisi yng Nghymru i ymateb yn ymarferol i’r caledi gwirioneddol a ddaeth yn sgil y dirywiad economaidd presennol, ac rwy’n cydnabod bod y cynllun hwn wedi cael effaith sylweddol ar deuluoedd a oedd mewn perygl o fod yn ddigartref. Byddaf yn parhau i adolygu cyllidebau ar draws fy mhortffolio yn ystod y flwyddyn, ac o bosibl, byddaf yn ystyried symud rhagor o arian at y Cynllun Achub Morgeisi.

 

Mae mynd i’r afael â digartrefedd yn parhau yn un o flaenoriaethau’r Llywodraeth hon, ac mae ein gweledigaeth yn glir o ran y camau sy’n rhaid eu cymryd i achub cymaint o bobl Cymru â phosibl rhag bod yn ddigartref. Dim ond un o’n dulliau ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem hon yw’r Cynllun Achub Morgeisi. Mae ein Strategaeth Dai, y Cynllun Digartrefedd Deng Mlynedd a’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol yn gosod y fframwaith polisi ar gyfer helpu pobl sy’n cael problemau gyda dyledion tai, ac rydym yn ariannu amrywiaeth o wasanaethau cynghori, gan gynnwys y Llinell Gymorth Dyledion Tai i helpu pobl i osgoi bod yn ddigartref yn y lle cyntaf.

 

Rwy’n sylweddoli bod llawer iawn mwy i’w wneud, a byddwn yn parhau i symud yn ein blaenau o fewn cyfyngiadau’r hinsawdd economaidd bresennol, gan sicrhau bod yr Aelodau yn cael y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau yn y maes hwn.