Skip to content

Ysgrifenedig - Ymateb i Argymhellion Hargreaves ynglŷn â Chymru Ddigidol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau

Ym mis Gorffennaf 2009, galwodd y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant am adolygiad annibynnol o weithgareddau Llywodraeth Cynulliad Cymru ym maes y diwydiannau creadigol. Comisiynwyd yr Athro Ian Hargreaves ar y cyd gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros Dreftadaeth i gynnal yr adolygiad hwnnw. Cyhoeddwyd Adroddiad Hargreaves ar 25 Mawrth 2010. Cytunodd y Cabinet y dylid sefydlu Grŵp Llywio Gweinidogol Cyflawni Cymru Digidol i fwrw ymlaen â’r elfen ddigidol o Adroddiad Hargreaves.

 

Er mai ar gefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad i’r diwydiannau creadigol y mae Adroddiad Hargreaves yn canolbwyntio, ceir rhai cyfeiriadau at Gymru Ddigidol hefyd. Yn benodol, roedd Adroddiad Hargreaves yn nodi ac yn argymell fel a ganlyn: “Dylai Gweinidogion sicrhau bod strategaeth newydd Cymru Ddigidol yn diffinio ymagwedd at agenda Prydain Ddigidol sy’n uno strategaeth a gwaith darparu ar draws yr economi ddigidol gyfan. Dylai’r gwaith hwn gael ei oruchwylio ar y lefel wleidyddol a gweinyddol uchaf posibl a’i gefnogi gan Fwrdd Cymru Ddigidol, sy’n

cael ei arwain gan swyddog ar lefel Cyfarwyddwr a’i gadeirio gan

unigolyn profiadol addas o’r tu allan i’r Llywodraeth”.  Roedd yr Athro Hargreaves yn bresennol mewn cyfarfod eithriadol o’r Grŵp Llywio Gweinidogol a gynhaliwyd ar 26 Ebrill er mwyn i’r Gweinidogion gael clywed ganddo a thrafod yr argymhellion sy’n ymwneud â Chymru Ddigidol.   

 

Mae’n bleser gen i gyhoeddi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penderfynu derbyn argymhelliad yr Athro Hargreaves i greu Bwrdd Cymru Ddigidol, gyda Chadeirydd annibynnol. Sefydlir y Bwrdd am ddeuddeg mis yn y lle cyntaf, a’i swyddogaeth fydd cynghori Gweinidogion ynghylch agweddau allweddol ar yr agenda ddigidol, yn enwedig materion yn ymwneud â seilwaith, sgiliau, cystadleurwydd, cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus a chynhwysiant digidol. Bydd disgwyl i’r rhai a benodir gyfrannu at waith y Bwrdd yn ddi-dâl, ar sail pro bono. Byddaf yn gwneud datganiad pellach am aelodaeth y Bwrdd maes o law.

 

Roedd yr Athro Hargreaves yn argymell hefyd y dylid dynodi Cyfarwyddwr Digidol i arwain y gwaith ar yr agenda ddigidol o fewn Llywodraeth y Cynulliad. Mae’r Gweinidogion wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw, a dylai hynny sicrhau bod y gwaith ar yr agenda ddigidol yn cael ei arwain gan unigolyn sydd â gwybodaeth ac arbenigedd briodol.

 

Sefydlwyd y Grŵp Llywio Gweinidogol ar Gymru Ddigidol yn gynharach eleni, ac mae wedi cyfarfod bedair gwaith ers mis Chwefror. Mae’r agenda ddigidol yn berthnasol i bob portffolio Gweinidogol, a bydd nifer o adrannau’n gyfrifol am wireddu’r polisïau a phrosiectau amrywiol. Bydd dogfen a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni yn rhoi crynodeb o’r gweithgareddau amrywiol ac yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad yn y maes digidol. Bwrdd Cymru Ddigidol fydd â’r gwaith pwysig o sicrhau bod unrhyw strategaethau a chynlluniau yn rhan o ddull gweithredu holistig, gan roi Cymru wrth galon  datblygiadau technolegol y dyfodol. Byddaf yn gwneud datganiad pellach am strategaeth a blaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad yn ddiweddarach yn y flwyddyn.