Skip to content

Ysgrifenedig - Cyd-gynllun Gweithredol i Gymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod Llywodraeth y Cynulliad wedi cytuno ar Gyd-gynllun Gweithredol gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Gan weithio gyda chyflogwyr, yr undebau llafur, y trydydd sector ac eraill, mae’r Cyd-gynllun Gweithredol yn ffurfioli trefniadau ar gyfer cynllunio a chyflwyno polisïau a rhaglenni lle ceir cyfrifoldeb ar y cyd. Mae hyn yn gam pwysig tuag at yr uchelgais cyffredin o gynllunio ac integreiddio gwell ar gyfer cyflogaeth, sgiliau a rhaglenni eraill.  

Ym mis Chwefror 2010, lansiais Fframwaith y Farchnad Lafur gyda’r Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau. Roedd hyn yn amlinellu’r egwyddorion craidd ynghylch sut rydym yn bwriadu datblygu’r uchelgais cyffredin hwn, gyda’r nod o: leihau nifer y bobl sy’n ddiwaith neu’n economaidd anweithgar; cynyddu enillion pobl sydd mewn gwaith; a gwella gwasanaethau i gyflogwyr. Gofynnwyd i Gyd-fwrdd Cyflenwi Rhaglenni Cyflogaeth Cymru, sydd newydd ei sefydlu, ddatblygu Cyd-gynllun Gweithredol sy’n pennu amcanion a chamau gweithredu ar lefel uchel ar gyfer 2010-11. Nod yr amcanion a’r camau yw darparu rhaglenni a gwasanaethau sy’n symlach, ond hefyd yn effeithiol ac yn amrywiol, er mwyn lleihau anweithgarwch economaidd a chynyddu cyfraddau cyflogaeth i lefel y DU. Yn benodol, rydym am ganolbwyntio ar ddarparu rhaglenni i fynd i’r afael ag anweithgarwch ymysg pobl ifanc a diweithdra hirdymor. Rydym am alluogi pob grŵp dan anfantais i ymuno â’r farchnad lafur drwy ddarparu amrywiaeth o raglenni; rydym am ddarparu’r gweithlu medrus sydd ei angen ar gyflogwyr; ac rydym am sicrhau’r cyfleoedd gorau posibl drwy adfywio.

Bydd y Cyd-fwrdd Cyflenwi Rhaglenni Cyflogaeth yn bwrw ymlaen â’r cynllun gweithredol ac yn ei fonitro, gan adrodd i’r Gweinidog yn flynyddol am ei hynt.