Skip to content

Ysgrifenedig - Cyhoeddiad o Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol Cymru ar partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf, Plas Madoc

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carl Sargeant, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Yn ystod  y misoedd diwethaf, mae  Gwasanaeth Archwilio Mewnol  Llywodraeth y Cynulliad, gyda chefnogaeth Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnal ymchwiliad  manwl o faterion mewnol partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf, Plas  Madoc, Wrexham.   Mae adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy’n cynnwys copi llawn o adroddiad yr Archwiliad Mewnol, yn cael ei gyhoeddi heddiw a’i osod gerbron y Cynulliad.  Gwneuthum ddatganiad yn y Cynulliad ddoe ynglŷn â’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ehangach a chyfeiriais at y mater hwn pryd hynny.   Amlinellaf yn awr fy mwriadau yn arbennig ar gyfer y rhaglen ym Mhlas Madoc yn dilyn adroddiad yr archwilwyr.

Amlygwyd gwendidau difrifol ym Mhlas Madoc ynglŷn â threfniadau ar gyfer gwerth am arian, rheoli cyllid a materion llywodraethu ehangach - yn arbennig ymddygiad nad yw’n cydymffurfio â Safonau Ymddygiad Bywyd Cyhoeddus fel yr amlinellwyd gan Lord Nolan, Egwyddorion Nolan.

Pwysleisiaf fy mod yn gresynu wrth y gweithrediadau bwriadol  a’r  diffyg arolygaeth sydd wedi arwain at arian cyhoeddus yn cael ei ddargyfeirio oddi wrth ddibenion cyffredinol y rhaglen.    

Mae’r mater wedi ei gyfeirio at Heddlu Gogledd Cymru i’w ystyried fel trosedd.    Mae’r Comisiwn Elusennol, ynghyd â phrif gyllidwyr eraill Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc  hefyd wedi eu hysbysu o natur ein pryderon.

Fel y dywedais ddoe, mae pryderon penodol yr archwiliad yn berthnasol i gamreolaeth ariannol o ganran gymharol fechan o’r arian a aeth i Bartneriaeth Plas Madoc,  yn y bôn yr arian a oedd ar gael ar gyfer gwariant lleol dewisol ac ar gyfer rheoli mewnol.   Mae’r ardystiadau archwilio ffurfiol annibynnol y mae Llywodraeth y cynulliad yn edrych arnynt cyn rhyddhau’r arian wedi cael eu darparu’n foddhaol dros y 3 blynedd y mae partneriaeth Plas Madoc wedi bod yn dderbynnydd grant uniongyrchol.

Nid oes unrhyw arwydd fod yr arian a ddyfarnwyd wedi'i ddefnyddio at unrhyw ddibenion ar wahân i'r dibenion y'i bwriadwyd ar eu cyfer, ac mae ystod eang o wasanaethau pwysig wedi eu darparu i’r gymuned leol, gan gynnwys, yn arbennig, cefnogaeth i blant a phobl ifanc.   Yn gyffredinol mae’r gwasanaethau  yma wedi cael eu darparu i safon uchel ac maent yn cael eu gwerthfawrogi gan y gymuned.

Gweithredom yn gadarnhaol unwaith yr oeddem yn ymwybodol o’r pryderon archwilio ynglŷn â phartneriaeth Plas Madoc.  Fel yr amlinellwyd yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, gweithredodd Llywodraeth y Cynulliad ar frys i fynd i’r afael â’r gwendidau llywodraethu.  Yn ogystal ac mewn ymateb i adroddiad interim cyflwynwyd mesurau ar gyfer diogelu arian cyhoeddus hyd nes y cwblhawyd yr ymchwiliad.   Roedd hyn yn cynnwys trafodaeth gyda Bwrdd Partneriaeth Plas Madoc a’u cam dilynol o atal dau uwch-aelod o staff o’u swyddi, a throsglwyddo’r trefniadau gweinyddu cyflogau.

Nid wyf yn bwriadu i’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ym Mhlas Madog ddod i ben.   Yn wir gobeithiaf y gall y gwasanaethau a ddarparir gan y bartneriaeth i’r gymuned leol barhau.

Er hynny mae’n glir i mi nad yw partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc yn ddigon cadarn nac o dan reolaeth ddibynadwy i barhau fel Corff Derbyn Grant Cymunedau yn Gyntaf.   Yr wyf felly wedi gorchymyn swyddogion i wneud trefniadau eraill cyn gynted â phosib i sianelu’r arian drwy asiantaethau eraill er mwyn i weithgareddau’r rhaglen yn Plas Madog barhau  gyda’r ymyrraeth leiaf bosib.

Mae’n gynnar ar hyn o bryd i son am y trefniadau newydd, ond mae arwyddion oddi wrth yr asiantaethau hynny sy’n debygol o fod yn gysylltiedig, gan gynnwys Cadeirydd partneriaeth Plas Madoc, yn dangos y bydd pawb yn cydweithio er mwyn sicrhau y bydd trosglwyddo’r cyfrifoldeb ariannol yn digwydd cyn gynted a phosib.  

Er mwyn parhau yn eu rôl o ddarparu gwasanaethau, mae’n rhaid i bartneriaeth Plas Madoc ail-lunio eu trefniadau mewnol ac ymarfer gweithio, a chymryd y camau angenrheidiol i ail ennill ffydd y gymuned leol.  Mae’r materion yma yn bennaf ar gyfer y sefydliad ei hunan, a ni fydd yn digwydd dros nos ond er mwyn cynorthwyo’r broses, ag i ddangos fy nghefnogaeth ar gyfer ail adeiladu’r rhaglen ar sylfaen gryfach, yr wyf yn cynnig cefnogaeth unigryw gan Wasanaeth Cynghori Cymunedau yn Gyntaf sy’n cael ei ddarparu drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.  Yn ystod y misoedd nesaf, bydd fy swyddogion hefyd yn gweithio’n agos ar  y  broses hon.

Mae gwersi i’w dysgu o’r adroddiad hwn.  Mae adroddiad yr Archwilydd cyffredinol yn cyfeirio at y gwaith sydd ar y gweill yn barod i wella llywodraethu’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf.   Yr wyf yn cyhoeddi adroddiad ar yr Adolygiad Llywodraethu, ynghyd â’n hymateb fel rheolwyr, a’r cynllun gweithredu, sy’n cynnwys arolygiadau archwilio ychwanegol o bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf.

Yr wyf wedi gofyn yn benodol am ystod o weithrediadau, gan gynnwys adolygiad o ehangder yr ardystio a gytunwyd arno ar hyn o bryd yn flynyddol gyda Swyddfa Archwilio Cymru; adolygiad o ymarfer yr archwilwyr allanol presennol wrth edrych ar nifer cyfyngedig o dystiolaeth gwariant, y modd y mae Llythyrau Rheoli yn cael eu dosbarthu; a gwaith ar gryfhau trefniadau i ddelio â chwynion lleol.    

Gall methiannau fel y rhain ym Mhlas Madoc darddu ar enw da'r rhaglen a’r rhai sy’n gysylltiedig â hi, er bod y cyfrifoldeb am y methiannau yn aros gyda’r rhai sy’n uniongyrchol gyfrifol.  Nid wyf yn fodlon sefyll am fethiannau fel hyn.  Fodd bynnag, gall y bobl hynny sy’n gweithio ar y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, ac sy’n gweithredu’r gwasanaethau angenrheidiol yma yn ffyddlon i bobl o fewn ein cymunedau difreintiedig, fod yn sicr o fy nghefnogaeth barhaol.