Heddiw, rwy’n lansio dull gweithredu strategol Llywodraeth y Cynulliad mewn perthynas ag ynni, sef Chwyldro Carbon Isel.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod mai’r newid yn yr hinsawdd yw’r her amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol fwyaf sy’n wynebu’r blaned, ac yn ‘Cymru’n Un’ rydym wedi nodi ein hymrwymiad cadarn i fynd i’r afael â’r bygythiad hwn.
Yn fyd-eang, mae’r tymheredd cyfartalog wedi codi 1°C eisoes, ond yn ôl y wybodaeth wyddonol ddiweddaraf mae’n debygol y bydd y blaned yn cynhesu 3°C erbyn 2060, gan achosi risgiau llawer uwch o newidiadau trychinebus yn yr hinsawdd oni bai ein bod lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr yn fuan iawn.
Ar yr un pryd, mae’r cyflenwadau o danwydd ffosil dan bwysau cynyddol gan fod prisiau ynni’n debygol o godi a’r pryderon ynghylch diogelwch y cyflenwadau hefyd yn tyfu. O ganlyniad, mae rheidrwydd moesol ac ymarferol arnom i symud yn gyflym i sefyllfa lle byddwn yn llawer llai dibynnol ar danwydd ffosil – economi carbon isel.
Yn y frwydr fyd-eang yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, credwn y dylai Cymru fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch i newid i economi carbon isel. Mae ynni – y dulliau cynhyrchu a’r modd y’i defnyddiwn – yn allweddol o ran cyflawni’r her hon.
Rydym yn cydnabod y bydd angen i Gymru leihau ei defnydd o ynni carbon 80-90% er mwyn sicrhau gostyngiad cyffelyb yn ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Rydym yn awyddus felly i gynhyrchu cymaint ag y bo modd o ynni drwy ddefnyddio ffynonellau cynaliadwy, a lleihau’r ynni a ddefnyddiwn drwy fabwysiadu mesurau effeithlonrwydd ynni a chodi adeiladau cynaliadwy.
Mae ein Datganiad Polisi Ynni’n dangos sut y byddwn yn cyflawni hyn, gan nodi ein dyheadau ar gyfer ynni carbon isel yng Nghymru. Mae’r datganiad yn seiliedig ar ganlyniadau ein hymgynghoriadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf ynglŷn â Thrywydd Ynni Adnewyddadwy Cymru a’r Cynllun Gweithredu Bio-Ynni i Gymru, ac yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni, y Strategaeth Swyddi Gwyrdd ac adroddiad Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar yr Economi a Thrafnidiaeth ar “y Sector Ynni”.
Mae’r datganiad hefyd yn adlewyrchu polisi ynni’r DU, gwaith Comisiwn y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd a Datganiadau Polisi’r DU ar Ynni ac Ynni Adnewyddadwy.
Yn y datganiad, rhennir ein huchelgeisiau yn ôl hierarchaeth driphlyg:
Yn gyntaf, byddwn yn cynyddu arbedion ac effeithlonrwydd ynni i’r eithaf er mwyn sicrhau ein bod yn cynhyrchu’r rhan fwyaf o’r ynni sydd arnom ei angen o ffynonellau carbon isel, drwy ddulliau mwy ymarferol a llai costus.
Yn ail, bydd anghenion ynni ein cymdeithas fodern yn parhau’n sylweddol, a rhaid gallu eu diwallu’n ddiogel drwy ffynonellau carbon isel. Byddwn yn symud tuag at ddulliau mwy cydnerth o gynhyrchu ynni carbon isel drwy fanteisio ar ffynonellau adnewyddadwy cynhenid (a diogel o’r herwydd), yn lleol ac yn genedlaethol.
Yn drydydd, byddwn yn sicrhau bod y newid hwn i economi carbon isel yn cynyddu’r cyfleoedd i adnewyddu’r economi drwy swyddi a sgiliau ymarferol; yn cryfhau ein sectorau ymchwil a datblygu drwy sicrhau eu cyfranogiad; yn hyrwyddo ymgysylltiad personol a chymunedol ac yn helpu i fynd i’r afael ag amddifadedd a gwella ansawdd bywyd.
Mae’r uchelgeisiau hyn yn dangos ein hymrwymiad cyffredinol i ddatblygu cynaliadwy a bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyflenwi hyn drwy nifer o fframweithiau sy’n bodoli eisoes, megis y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni a’n Strategaeth Swyddi Gwyrdd.
Mae Trywydd Ynni Adnewyddadwy Cymru, a gyhoeddwyd yn 2008, wedi archwilio lleoliad, daearyddiaeth a hinsawdd Cymru yn fanwl, gan nodi bod gennym ddigonedd o adnoddau cynhenid – a diogel o’r herwydd – y gall technoleg fodern eu cipio’n effeithiol. Daeth y trywydd ynni i’r casgliad ei bod yn gwbl bosibl o fewn 20 mlynedd inni gynhyrchu rhagor o ynni nag a ddefnyddiwn, sef tua 35TWhr y flwyddyn, o ffynonellau adnewyddadwy.
Ers cyhoeddi’r Trywydd Ynni, bu datblygiadau pellach, yn enwedig o ran ynni gwynt ar y môr, sy’n awgrymu y gallai’r ffigur fod yn uwch fyth. Bydd y Datganiad Ynni yn dangos bod gan Gymru’r potensial i gynhyrchu mwy na dwywaith yr ynni adnewyddadwy nag a ddefnyddiwn fel cenedl erbyn 2025 – tua 40 y cant ohono’n ynni o’r môr, traean ohono’n ynni gwynt a’r gweddill yn dod o bŵer biomas neu brosiectau gwres a thrydan llai sy’n defnyddio ynni gwynt, yr haul, dŵr neu fiomas cynhenid, ar lefel leol.
Amcangyfrifwn fod potensial i fuddsoddi cyfanswm o £50 biliwn mewn prosiectau ynni adnewyddadwy mawr a thrydan carbon isel yng Nghymru dros y 10-15 mlynedd nesaf. Mae hyn yn ychwanegol at y buddsoddiad posibl o £350 miliwn ym mherfformiad ynni cartrefi Cymru dros y 3 blynedd nesaf drwy’r Rhaglen Buddsoddi Perfformiad Ynni Strategol, Arbed.
Ni ddylid tanbrisio pwysigrwydd cynhyrchu ynni ar lefel leol a chymunedol o ran yr uchelgeisiau hyn - dylem oll ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael i hyrwyddo ynni carbon isel. Yn ddiweddar, fe wnaethom lansio prosiect i gynhyrchu ynni ar lefel gymunedol – un a fydd yn rhoi cefnogaeth a chymorth ariannol i asesu dichonoldeb cynlluniau cymunedol i gynhyrchu trydan â gwynt, biomas a dŵr.
Mae’r Datganiad Ynni hefyd yn nodi manteision posibl ‘tariffau bwydo i mewn’ ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol. Elfen allweddol o’n Strategaeth ni ar y Newid yn yr Hinsawdd yw helpu cymunedau i gymryd camau a fydd yn lleihau eu hôl troed carbon ac yn eu gwneud yn fwy hunangynhaliol yn o ran ynni ac adnoddau eraill.
Mae Cymru’n ddigon ffodus i feddu ar arfordir sy’n mesur 1,200 o filltiroedd ac â photensial sylweddol o ran ynni’r môr. I fanteisio’n llawn ar hyn, mae’n hanfodol cefnogi gwaith ymchwil a datblygu. Rydym hefyd yn parhau i weithio ar astudiaeth Fframwaith Strategol Ynni Adnewyddadwy’r Môr, sy’n cydgasglu’r holl ddata amgylcheddol perthnasol ar gyfer moroedd Cymru.
Mae’r potensial o ran ynni’r môr yng Nghymru’n cynnwys amrediad llanw anferth Aber Hafren, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar astudiaeth ddichonoldeb Ynni’r Llanw yn Aber Afon Hafren. Rydym hefyd wedi cyfrannu cyllid i Gynllun Technoleg Embryonig Ynni’r Llanw yn Aber Afon Hafren, ac rydym yn gobeithio y bydd modd cymhwyso’r dechnoleg newydd hon mewn lleoliadau eraill lle ceir llanw a thrai, neu hyd yn oed i harneisio pŵer llif afonydd.
Ar un adeg, roedd Cymru’n arwain y byd mewn ynni carbon. Bellach, ein nod yw arwain y ffordd ym maes ynni carbon isel. Er mwyn ymateb i her y newid yn yr hinsawdd a chyflawni ein holl amcanion, bydd angen ymdrechion cydunol a chyffredinol – nid yn unig gan holl adrannau Llywodraeth y Cynulliad ond gan bobl, cymunedau a sefydliadau ledled Cymru.