Skip to content

Ysgrifenedig - Dosbarthu Cronfa yr UE i Ffermwyr Godro yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig

Ym mis Hydref 2009, cyhoeddodd Marianne Fischer-Boel, y cyn Gomisiynydd Amaethyddiaeth, gronfa gwerth €300 miliwn i gynorthwyo’r diwydiant godro.  Pleidleisiodd yr Aelod Wladwriaethau o blaid hyn ar 3 Rhagfyr 2009.  O ganlyniad i hyn, cyhoeddwyd Rheoliad y Comisiwn 1233/2009 ar 15 Rhagfyr 2009, a phennodd hwn y terfynau amser caeth ar gyfer dosbarthu’r gronfa.  Roedd y rheoliad hwn yn nodi bod yn rhaid i’r gronfa gael ei dosbarthu erbyn 30 Mehefin 2010, ac y dylai roi cymorth i’r ffermwyr llaeth yr oedd yr argyfwng llaeth wedi effeithio arnynt yn ddifrifol, ar sail meini prawf gwrthrychol ac mewn ffordd anwahaniaethol.  Roeddwn yn falch o weld bod ychydig dros €3.5 miliwn o’r €29.26 a ddyfarnwyd i’r DU wedi’i ddyrannu i Gymru.

 

Lansiais ymgynghoriad ar 20 Ionawr 2009 i benderfynu sut i ddosbarthu’r arian hwn yng Nghymru.  Roedd dau opsiwn yn yr ymgynghoriad:

  • Opsiwn 1; taliad o 0.2 ceiniog y litr i bob ffermwr godro  am bob litr a gynhyrchwyd yn ystod y cyfnod o 12 mis pan oedd y farchnad ar ei mwyaf ansefydlog (1 Hydref 2008 hyd at 30 Medi 2009)
  • Opsiwn 2; taliad dwy haen yn cynnwys taliad o 0.5 y litr am y 100,000 litr cyntaf a gynhyrchwyd ynghyd â thaliad o 0.15 y litr yn fras am unrhyw gynnyrch dros 100,000 litr yn ystod y cyfnod penodedig.

Gan bod cysylltiad agos rhwng llaeth a gynhyrchir a chwotâu llaeth, sy’n cael eu gweinyddu ledled y DU gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig, cytunais ar y cyd â Defra a’r Gweinyddiaethau Datganoledig y byddai’r gronfa’n cael ei dosbarthu drwy’r DU gan yr Asiantaeth, ar yr amod bod yr un opsiwn yn cael ei ddewis ledled y DU.  Byddai hyn yn sicrhau bod costau gweinyddu’n cael eu cadw mor isel â phosibl.  Pe byddai Cymru’n dewis opsiwn gwahanol i weddill y DU, ni ellid gwarantu y byddai’r taliadau’n cael eu gwneud gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig erbyn y dyddiad cau sef 30 Mehefin 2010.  

 

Gofynnais i bobl gyflwyno’u sylwadau ar yr ymgynghoriad erbyn 17 Chwefror 2010 a daeth 4 ymateb i law.  Dewiswyd Opsiwn 1 gan fwyafrif y ffermwyr a chynrychiolwyr y diwydiant trwy weddill y DU, ond yng Nghymru, roedd ein hymateb yn dangos rhaniad 50/50 rhwng y ddau opsiwn.  Roedd y pwysau ychwanegol hefyd o wneud y taliadau erbyn y ddyddiad cau o 30 Mehefin, ac mae Opsiwn 1 yn rhoi gwarant inni o hyn, ac yn sicrhau bod ffermwyr yng Nghymru yn derbyn eu taliad ar yr un pryd â gweddill y DU.  Pe byddem yn dewis Opsiwn 2 a gweddill y DU yn dewis Opsiwn 1, roedd cryn bosibilrwydd y byddai ffermwyr Cymru yn derbyn eu taliadau’n hwyrach na gweddill y DU, a pherygl na fyddai digon o amser i wneud y taliad erbyn y dyddiad cau o 30 Mehefin, ac y byddai ffermwyr Cymru’n colli cyfle i elwa ar y gronfa.  

 

Wrth ystyried sut i ddosbarthu cyfran y DU o’r gronfa, cytunais ar y cyd â Defra a’r Gweinyddiaethau Datganoledig ar y meini prawf canlynol, a chytunodd y mwyafrif o’r ymatebwyr ar hyn:

  1. Dim ond cynhyrchwyr llaeth a gwerthwyr uniongyrchol a oedd wedi'u cofrestru gyda'r Asiantaeth Taliadau Gwledig yn ystod y cyfnod penodedig a fydd yn cael taliadau.
  2. Dim ond ar gyfer cynhyrchu gwirioneddol yn ystod y cyfnod penodedig y bydd taliad yn cael ei roi ac ni chaiff y cyfanswm a gynhyrchir ei addasu er mwyn ystyried braster menyn.
  3. Bydd unrhyw gynhyrchydd a roddodd y gorau i gynhyrchu yn ystod y cyfnod penodedig yn cael taliad ar gyfer yr hyn a gynhyrchwyd hyd at y dyddiad y rhoddodd y gorau i gynhyrchu.
  4. Er mwyn helpu i leihau costau gweinyddu, ni fydd unrhyw gynhyrchydd a gynhyrchodd lai na 50,000 o litrau (sy'n gyfwerth â 7 buwch) yn cael taliad.
  5. Bydd cais yn cael ei anfon at brynwyr llaeth yn gofyn iddynt roi manylion am faint o laeth a gynhyrchwyd gan gynhyrchwyr llaeth cyfanwerthu. Bydd gwerthwyr uniongyrchol yn cael cais uniongyrchol i anfon manylion am faint a gynhyrchwyd ganddynt.

Mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig wedi cysylltu â’r holl gynhyrchwyr i gadarnhau eu lefelau cynhyrchu o 1 Hydref 2008 hyd at 30 Medi 2009 ac maent ar hyn o bryd wrthi’n cadarnhau manylion banc ffermwyr.  O ganlyniad i ddewis Opsiwn 1, gall ffermwyr yng Nghymru ddisgwyl derbyn eu taliadau o ganol mis Ebrill ymlaen.