Skip to content

Ysgrifenedig - Cyllideb Atodol 2009-10

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Am 3.00pm heddiw, cyhoeddais ail Gyllideb Atodol Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2009-10.

Cyllideb sy’n ymwneud â’r gweinyddol yn bennaf yw’r Gyllideb Atodol ac mae’n adlewyrchu’r ailflaenoriaethu o fewn portffolios a nifer o achosion o drosglwyddo cyllidebau rhwng portffolios. Mae hefyd yn nodi nifer o ddyraniadau ychwanegol o’n cronfeydd.

Mae’r Gyllideb Atodol hon yn amlinellu sut y gall Llywodraeth y Cynulliad barhau i weithredu agenda Cymru’n Un drwy wneud y defnydd mwyaf o’n holl adnoddau – gan helpu i ddiogelu a gwella’r gwasanaethau cyhoeddus sy’n gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl.