Skip to content

Ysgrifenedig - Gwasanaethau Cymdeithasol Plant Abertawe

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant

Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y Grŵp Arbenigol ar Dlodi Plant ac am y rôl sydd ganddo i’w chwarae mewn perthynas â rhaglen weithredu Llywodraeth y Cynulliad i fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru.

 

Cafodd y Grŵp Arbenigol ar Dlodi Plant ei sefydlu er mwyn cynghori’r cyn Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol am y polisïau pellach ac ehangach y byddai angen eu cyflwyno er mwyn cyrraedd y cerrig milltir a’r targedau a nodir yn y ddogfen ‘Dileu Tlodi Plant yng Nghymru - Mesur Llwyddiant’, a gyhoeddwyd yn 2006.

 

Cyn i mi gael fy mhenodi’n Ddirprwy Weinidog dros Blant, fi oedd yn cadeirio’r Grŵp ar ran y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Gan ei fod yn Grŵp Cynghori annibynnol, roedd y Grŵp Arbenigol ar Dlodi Plant yn penderfynu ar ei gynllun gwaith ei hun, a hynny ar sail dealltwriaeth yr aelodau o’r materion sy’n gysylltiedig â Thlodi Plant. Bellach, mae’r Grŵp Arbenigol ar Dlodi Plant wedi cyfarfod wyth gwaith ac wedi cyflwyno pedair set o argymhellion polisi, sef Addysg 4-14 Mlwydd Oed, Addysg 14-19 Mlwydd Oed, Anweithgarwch Economaidd a Thlodi mewn Gwaith. Mae pumed set o argymhellion sy’n ymwneud ag Anghydraddoldebau Iechyd a Thlodi Plant wrthi’n cael ei datblygu ar hyn o bryd.   

 

Hyd yma, y broses adrodd ar gyfer y Grŵp Arbenigol ar Dlodi Plant oedd cyflwyno argymhellion polisi ar themâu penodol i Bwyllgor y Cabinet ar Blant a Phobl Ifanc, a hynny drwy’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Ym marn y Grŵp Arbenigol ar Dlodi Plant, ynghyd â swyddogion a’r cyn Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, roedd y weithdrefn adrodd a’r broses ar gyfer datblygu ymatebion yn cymryd llawer gormod o amser ac nid oedd yn manteisio i’r eithaf ar yr arbenigedd sydd gan aelodau’r Grŵp.  

 

Ar ôl i fi gael fy mhenodi’n Ddirprwy Weinidog dros Blant, rwyf wedi trafod y pryderon hyn gyda’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu, a chydag aelodau’r Grŵp Arbenigol ar Dlodi Plant er mwyn dod o hyd i ddull mwy effeithiol o sicrhau ein bod yn gallu manteisio i’r eithaf ar yr arbenigedd sydd gan aelodau’r Grŵp Arbenigol ar Dlodi Plant. Ar ôl i Bwyllgor y Cabinet ar Blant a Phobl Ifanc gymeradwyo hynny, mae’n dda gennyf fedru’ch hysbysu y bydd y Grŵp Arbenigol ar Dlodi Plant yn gweithredu bellach fel Grŵp Cynghori Gweinidogol. Fi fydd yn cadeirio’r Grŵp o hyd, a bydd yr aelodaeth yn ddigyfnewid. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gallu defnyddio’r grŵp mewn ffordd fwy rhagweithiol, gan nodi materion allweddol yr hoffai gael cyngor y grŵp yn eu cylch, yn hytrach nag adweithio yn unig i argymhellion y grŵp. 

 

Gan y bydd bellach yn Grŵp Cynghori Gweinidogol, bydd y Grŵp mewn gwell sefyllfa i gynorthwyo gyda’r gwaith o weithredu’r newidiadau polisi y bydd eu hangen er mwyn bodloni gofynion y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) ac er mwyn sicrhau bod Cymru’n arwain y ffordd o ran cyrraedd y targed o ddileu tlodi plant a gwella cyfleoedd bywyd ein plant erbyn 2020.