Skip to content

Ysgrifenedig - Y Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol – Penodi 4ydd Aelod

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol

Ar 17 Tachwedd 2009, ysgrifennais ynglŷn â phenodi Cadeirydd y Comisiwn, yr Athro Geoffrey Pearson, ynghyd â Julie Jones OBE a Rhian Huws Williams.

 

Nawr, mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod pedwerydd aelod yn cael ei benodi i'r Comisiwn, sef Mr Phillip Robson.

 

Gweithiwr cymdeithasol proffesiynol cymwysedig yw Phillip sydd wedi cael nifer o swyddi fel ymarferydd yn hen Gyngor Sir Gwent a hefyd ym Mhowys. Mae wedi arbenigo ym maes amddiffyn plant, ac roedd yn weithiwr cymdeithasol gweithredol am ddeuddeg mlynedd. Yn 2001, daeth Phillip yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Powys, ac fe'i penodwyd wedyn yn Gyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Lles yn 2005. Roedd y swydd yn cynnwys rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Swyddog Addysg.

 

Rwy'n hyderus y bydd profiad Phillip yn cyfrannu mewn ffordd amhrisiadwy i waith y Comisiwn.

 

Mae'r Comisiwn wedi dechrau ar ei waith, a gofynnir iddo roi adroddiad imi erbyn mis Tachwedd 2010.