Skip to content

Ysgrifenedig - Y Mesur ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol

Dyma roi gwybod i'r Aelodau y bydd y Mesur arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) yn cael ei osod heddiw, 25 Ionawr 2010. Byddaf yn gwneud Datganiad Deddfwriaethol yn y cyfarfod llawn yfory, 26 Ionawr 2010, er mwyn cyflwyno'r Mesur arfaethedig.

Diben y Mesur arfaethedig hwn yw galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu i gyflwyno dyletswyddau cyfreithiol newydd ar y GIG ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru ("yr awdurdodau perthnasol") i weithio ar y cyd ac mewn ymgynghoriad â gofalwyr i baratoi, cyhoeddi a gweithredu strategaeth ar y cyd mewn perthynas â gofalwyr.  Mae'r Mesur arfaethedig yn berthnasol i bob gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan awdurdod lleol neu'r GIG, boed hynny'n uniongyrchol neu drwy gontract.

Bydd y Mesur arfaethedig yn caniatáu i ddarpariaeth fanwl gael ei nodi mewn rheoliadau ar gyfer paratoi a chyhoeddi'r strategaethau.   Bydd yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch y canlynol:

  1. y gwasanaethau y mae'r ddyletswydd i baratoi strategaeth yn gymwys iddynt;
  2. y materion sydd i'w trin yn y strategaeth;
  3. sut a phryd y mae'r strategaeth i'w chyhoeddi;
  4. adolygu'r strategaeth yn gyson (gan gynnwys pennu cyfnod y mae'n rhaid adolygu neu amnewid y strategaeth ar ei ôl);
  5. yr ymgynghori y mae'n rhaid ymgymryd ag ef cyn paratoi, gweithredu neu adolygu'r strategaeth, neu wrth wneud hynny;
  6. trefniadau i fonitro a gwerthuso'r broses o weithredu'r strategaeth;

Byddai modd i Weinidogion Cymru ddynodi, ar gyfer pob strategaeth, gorff GIG yn awdurdod arweiniol at ddibenion cydlynu a goruchwylio gwaith paratoi a chyhoeddi'r strategaeth, a chydlynu a goruchwylio unrhyw adolygiad dilynol ohoni.  

Hefyd, byddai'r Mesur arfaethedig yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod arweiniol neu, pan nad oes awdurdod wedi ei bennu i arwain, yr awdurdodau cyfrifol yn gweithredu ar y cyd, i gyflwyno'r strategaeth i Weinidogion Cymru.   Wedyn, byddai gofyn i Weinidogion Cymru hysbysu'r awdurdodau cyfrifol eu bod yn fodlon â'r strategaeth ddrafft neu, os nad oeddent yn fodlon, rhoi pa gyfarwyddiadau bynnag sydd eu hangen i'r awdurdodau er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn cydymffurfio â'u gofynion.  

Hoffwn ddiolch i aelodau Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid y Mesur Gofalwyr am eu cyngor clir a gofalus i Lywodraeth y Cynulliad ynghylch trywydd polisi’r Mesur Gofalwyr arfaethedig. Rwy’n cyhoeddi eu hadroddiad fel atodiad i’r datganiad hwn er mwyn cyfoethogi dealltwriaeth Aelodau’r Cynulliad wrth i’r gwaith o ystyried ein Mesur arfaethedig fynd rhagddo.

Rwy'n edrych ymlaen at y trafodaethau ag Aelodau’r Cynulliad dros y misoedd a ddaw wrth i'r Mesur arfaethedig fynd ar ei hynt drwy'r broses graffu.