Skip to content

Ysgrifenedig - Y diweddaraf am y Strategaeth Integredig i fynd i’r afael a Thrais yn erbyn Menywod a Cham-Drin Domestig

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carl Sargeant, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Rwy’n gwybod bod llawer o drafodaeth wedi bod ar hyd a lled Cymru yn y misoedd diweddar ynghylch y ffordd orau i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig. Penderfynais gyhoeddi’r Datganiad Cabinet hwn yn fuan ar ôl cael fy mhenodi yn Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol er mwyn gwneud fy safbwynt ar y mater hwn yn glir. Rwyf am gadarnhau wrth yr Aelodau fy mod wedi ymrwymo’n llwyr i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn, a fydd yn un o’m prif flaenoriaethau. Rwy’n mynd ati’n ddi-oed i ystyried beth mwy y gallwn ei wneud yn y tymor byr a’r tymor canolig i sicrhau ein bod yn parhau i symud yr agenda pwysig hwn yn ei flaen.

 

Mae’n bwysig ein bod yn cydweithio i gael gwared ar drais yn erbyn menywod yn ein cymdeithas. Nid yw’n dderbyniol fod cymaint o fenywod yn dioddef cam-drin domestig ac ymosodiadau rhywiol. Rwy’n benderfynol o wneud mwy i atal hyn rhag digwydd ac i newid agweddau. Fel y gŵyr yr Aelodau, yn ddiweddar buom yn ymgynghori ynghylch cynllun gweithredu strategol newydd. Mae’r cynllun drafft newydd hwn yn ymdrin â mwy na cham-drin domestig yn unig. Mae’n mynd i’r afael â phroblemau fel puteindra, ymosodiadau rhywiol, anffurfio organau cenhedlu merched, priodas dan orfod a throsedd er anrhydedd.

 

Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus, a ddaeth i ben ar 21 Medi, yn ddefnyddiol iawn ac yn ein helpu i lunio fersiwn derfynol o’n strategaeth integredig newydd. Rydym wedi cael nifer o negeseuon cryf, gan gynnwys:

  • Galwadau cryf am strategaeth integredig i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod ac i ragor o adnoddau gael eu neilltuo.
  • Yr angen i wneud mwy i herio’r agweddau negyddol at fenywod sydd yn aml y tu ôl i’r trais a’r cam-drin, a bod rhaid i ni wneud mwy i atal hyn a hefyd gwella’r gefnogaeth sydd ar gael i’r rheini sy’n dioddef.
  • Yr angen am fwy o wasanaethau i ddynion sy’n dioddef cam-drin domestig.

Ystyriodd fy rhagflaenydd, Brian Gibbons, yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn ofalus, gan ddweud y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn datblygu strategaeth integredig a fyddai’n cwmpasu’r agenda ehangach ar drais yn erbyn menywod, yn unol â’r ymatebion hynny. Bydd y strategaeth hon yn ategu ac yn adeiladu ar ein strategaeth Cam-drin Domestig presennol a gyhoeddwyd yn 2004. Y nod fydd sicrhau ein bod yn darparu cefnogaeth i’r holl ddioddefwyr yng Nghymru. Rwy’n awyddus i flaenoriaethu’r gwaith o ddatblygu’r strategaeth hon, ac felly rwy’n disgwyl y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Chwefror 2009.  

 

Rwyf eisoes wedi gwrando ar y neges am yr angen i sicrhau rhagor o adnoddau a herio agweddau negyddol at fenywod. Felly, mae’n dda gennyf gyhoeddi y bydd arian ychwanegol yn cael ei roi eleni i sicrhau bod yr agenda hon yn symud yn ei blaen yn gynt. Rydym eisoes wedi lansio’n hymgyrch gyhoeddusrwydd ar gyfer adeg y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Cafodd yr ymgyrch hon ei datblygu gyda chymorth rhanddeiliaid, ac mae’n canolbwyntio ar gam-drin domestig ac adnabod y rhybuddion cynnar y gallai perthynas droi’n dreisgar. Bydd yr adnoddau ychwanegol a neilltuwyd gennyf yn cynnwys ymgyrch a fydd yn herio trais ehangach yn erbyn menywod, a bydd yn cael ei hymestyn i sicrhau bod y negeseuon yn cyrraedd pob rhan o Gymru, a hynny trwy ddefnyddio gwahanol gyfryngau.   

 

Hefyd rwyf wedi cymeradwyo arian ar gyfer Cymorth i Ferched Cymru er mwyn gosod system dechnoleg gwybodaeth a fydd yn cysylltu pob un o’u llochesau, iddynt allu rhannu gwybodaeth am ddioddefwyr yn hawdd ac yn gyflym. Bydd hynny’n eu helpu i gadw dioddefwyr a’u plant yn fwy diogel.

 

Mae cyllideb derfynol Llywodraeth y Cynulliad yn cynnwys £1 miliwn ychwanegol a ychwanegir at gyllideb y flwyddyn nesaf er mwyn mynd i'r afael â cham-drin domestig a thrais yn erbyn menywod. Bydd yn ein helpu i roi’r cynllun newydd ar waith. Dyma 33% o gynnydd yn y gyllideb refeniw ar gyfer y flwyddyn bresennol ac felly £4.7 miliwn fydd ein cyllideb refeniw a chyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf. Hyd yn oed yn ystod y trafferthion economaidd sydd ohoni, rydym wedi llwyddo i gael hyd i arian i wella’r gefnogaeth a roddir i’r rheini sy’n dioddef trais. Byddaf yn gwneud penderfyniadau ar sut i ddefnyddio’r arian ychwanegol hwn ar ôl cael mwy o amser i ystyried y blaenoriaethau a amlygwyd gan yr ymgynghoriad.

 

Byddaf yn rhoi gwybodaeth reolaidd i’r Aelodau ynghylch datblygiadau’r gwaith hwn.