Skip to content

Ysgrifenedig - Lansio’r Strategaeth Coetiroedd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, Y Gweinidog dros Faterion Gwledig

Ddydd Gwener 27 Mawrth, fe lansiais Strategaeth Coetiroedd i Gymru ar Fferm Carreg Cennen ger Llandeilo. Mae’r strategaeth yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer sut y bydd coetiroedd Cymru’n newid dros y 50 mlynedd nesaf er mwyn wynebu rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r byd. Mae nod y strategaeth o gynyddu gorchudd coetir Cymru yn cysylltu â’r ymrwymiad yn Cymru’n Un i greu Coedwig Genedlaethol o goed brodorol yng Nghymru a fydd yn gweithredu fel sinc carbon.

 

Noda Strategaeth Coetiroedd i Gymru weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer sut y gallai coetiroedd a choed gyfrannu mwy fyth pe baem yn gwneud penderfyniadau mentrus yn awr. Mae’r strategaeth yn ymdrin â sut y bydd bwriadau Cymru’n Un yn cael eu gwireddu ond mae hefyd yn egluro’r llu o wasanaethau eraill yr ydym am i goetiroedd a choed Cymru eu darparu.

 

Mae’r fersiwn newydd o Coetiroedd i Gymru yn edrych ar swyddogaeth coed y tu allan i goetiroedd, mewn trefi ac yng nghefn gwlad, ac mae’n cyflwyno’r achos dros gynyddu’r gorchudd coetir er mwyn darparu mwy fyth o wasanaethau i bobl Cymru. Mae’n nodi ein cynigion ar gyfer cynyddu amrywiaeth ein coetiroedd a’r dulliau o’u rheoli, ac yn egluro swyddogaeth rhywogaethau coed brodorol yn yr ymdrech hon. Mae’n dadlau o blaid cydnabod gwasanaethau amgylcheddol gan goetiroedd a fydd yn disodli tanwydd ffosil, yn storio carbon ac yn ein helpu ni i ymdopi ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Mae hefyd yn ceisio cael pobl i ymdrin mwy â’n coetiroedd a’n coed, er mwyn sicrhau bod yr holl gyfleodd a gwasanaethau ar gael i bob rhan o’n cymdeithas amrywiol mewn ffordd deg.

 

Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon bydd gofyn i ni gymryd rhai camau newydd a gweithio’n well mewn meysydd eraill. Dim ond bryd hynny y gallwn gael y cydbwysedd yr ydym yn chwilio amdano, sef cael coedwigoedd gwirioneddol amrywiol, amlbwrpas sy’n cael eu rheoli’n dda ac yn darparu ystod gytbwys o nwyddau a gwasanaethau.