Skip to content

Ysgrifenedig - Ymgynghoriad ar Strategaeth Wastraff Genedlaethol ddiwygiedig, Tuag at Ddyfodol Diwastraff - Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Rwy'n cyhoeddi heddiw ddechrau ymgynghoriad 12 wythnos ar Strategaeth Wastraff Genedlaethol ddiwygiedig Llywodraeth Cynulliad Cymru, Tuag at Ddyfodol Diwastraff - Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned.

 

Mae'n ddyletswydd ar Weinidogion Cymru o dan Adran 44(A) Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i baratoi datganiad ("y strategaeth") sy'n cynnwys eu polisïau mewn perthynas ag adfer a gwaredu gwastraff yng Nghymru. Mae'r Gweinidogion wedi cytuno i adolygu'r strategaeth wastraff gyfredol, Yn Gall gyda Gwastraff, a gyhoeddwyd yn 2002.

 

Yn fy marn i, mae'r strategaeth arfaethedig yn pennu gweledigaeth newydd, gadarn ar gyfer rheoli gwastraff cynaliadwy yng Nghymru. Mae'n nodi'r hyn sydd angen inni ei wneud er mwyn helpu Cymru i fod yn genedl un blaned erbyn 2050 drwy leihau'n sylweddol y cyfraniad y mae gwastraff yn ei wneud i'n hôl troed ecolegol. Fe'i cynlluniwyd i helpu i ymdrin â'r her sylweddol sy'n wynebu cymdeithas drwy egluro sut y gallwn sicrhau defnydd mwy teg o adnoddau'r byd. Mae hefyd yn esbonio sut y gall newidiadau yn y modd y rheolir gwastraff helpu i fynd i'r afael ag achosion newid hinsawdd. O ganlyniad, bydd angen rhwydwaith gwell ar gyfer casglu a thrin gwastraff, a chyfleusterau gwell ar gyfer gwaredu gwastraff. Bydd y systemau hyn, ynghyd â'r angen am well technolegau a chynllunio nwyddau, yn creu rhai cyfleoedd gwirioneddol am swyddi gwyrdd newydd yng Nghymru.

 

Mae'r strategaeth arfaethedig yn tynnu sylw at yr angen i gymryd safbwynt hirdymor, gan gyfeirio gwastraff i ffwrdd o dirlenwi a chynyddu'n sylweddol lefelau ailddefnyddio ac ailgylchu. Yn arwyddocaol, dim ond drwy leihau swm y gwastraff a gynhyrchwn y bydd lleihad gwirioneddol yn yr ôl troed ecolegol - nid yw ailgylchu'n unig yn ddigon. Bydd hyn yn gofyn am newid yn y modd y caiff nwyddau eu cynhyrchu a'u pecynnu ac yn yr hyn a brynwn a sut yr ydym yn paratoi ein gwastraff ar gyfer ei gasglu.

 

Cynhelir tri digwyddiad ymgynghori i randdeiliaid ledled Cymru, a bydd y ddogfen ymgynghori hefyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd Aelodau'r Cynulliad yn gallu rhoi eu safbwyntiau imi ar yr ymgynghoriad hwn yn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Mai 2009.