Skip to content

Ysgrifenedig - Adroddiad Annibynnol ar Berfformiad a Rhagoriaeth mewn Chwaraeon yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae’r adroddiad yn cynnig cyfres o argymhellion i lywio’r gwaith o ddatblygu polisïau a strategaethau ar gyfer Perfformiad a Rhagoriaeth mewn Chwaraeon yng Nghymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth

Heddiw, rwy’n tynnu sylw y Cynulliad i adroddiad ar Berfformiad a Rhagoriaeth mewn Chwaraeon yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn deillio o adolygiad 6 mis a gynhaliwyd gan ymgynghorwyr annibynnol rhwng Ionawr a Gorffennaf 2009.  Yn ystod yr adolygiad, cyfwelodd yr ymgynghorwyr ag ystod o randdeiliaid yng Nghymru a ledled y DU, gan gynnwys Cyngor Chwaraeon Cymru, UK Sport, cyrff llywodraethu chwaraeon ar lefel Prydain/y DU ac ar lefel genedlaethol, ac athletwyr a hyfforddwyr. 

Mae’r adroddiad yn cynnig cyfres o argymhellion i lywio’r gwaith o ddatblygu polisïau a strategaethau ar gyfer Perfformiad a Rhagoriaeth mewn Chwaraeon yng Nghymru.  Ar 17 Tachwedd 2009, byddaf yn cyhoeddi gerbron y Cynulliad sut mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu ymateb i argymhellion yr adroddiad.