Skip to content

Ysgrifenedig - Rali Cymru Prydain Fawr

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Ar 19 Chwefror eleni, ar sail cyngor gan swyddogion a thrafodaeth gyda’r Prif Weinidog, penderfynais, parthed noddi Rali Prydain Fawr yn y dyfodol, roi hysbysiad am derfynu’r contract gydag International Motor Sports Limited (IMS). Fodd bynnag, roeddwn hefyd yn fodlon cynnal trafodaethau gydag IMS ar y posibilrwydd o drefniant newydd ar sail gostyngiad yn y cyfraniad ariannol. Byddai unrhyw drafodaethau o’r fath yn digwydd heb unrhyw ragfarn, ac yn ôl y ddealltwriaeth glir bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cadw’i sefyllfa gyfreithiol (yn enwedig o ran ei phenderfyniad dilys i derfynu’r contract).

Gwnaethpwyd y penderfyniad i roi hysbysiad terfynu’r contract gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn sgil penderfyniad FIA, corff llywodraethu chwaraeon modur y byd, i newid statws Rali Cymru Prydain Fawr, gan ei dynnu o galendr Pencampwriaeth Rali’r Byd 2010.

Cyflwynodd IMS gynigion amgen i gynnal digwyddiad â statws llai wedi’i ategu gan rali ychwanegol yn y Gogledd bob yn ail flwyddyn. Y farn oedd nad oedd hyn yn addas o ystyried faint o gyllid sydd ynghlwm, a cholli statws Pencampwriaeth Rali’r Byd.

Ar 6 Mawrth, hysbysodd cyfreithwyr yn gweithredu ar ran IMS Lywodraeth Cynulliad Cymru am y bwriad i herio’r penderfyniad yn gyfreithiol, ac yn wir heddiw mae cyfreithwyr IMS wedi rhoi Ffurflen Hawlio i gyfreithwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru, a gyhoeddwyd ddoe, gydag arwydd y bydd Manylion yr Hawliad yn dilyn.

O ystyried y sylw diweddar yn y wasg, mae’n rhaid esbonio cefndir y penderfyniad. Ym mis Mawrth 2006, llofnododd Awdurdod Datblygu Cymru gynt gytundeb pum mlynedd gydag International Motor Sports Limited (IMS) fel prif noddwr Rali Prydain Fawr. Un o amodau’r cytundeb oedd mai un o gymalau Pencampwriaeth Rali’r Byd fyddai’r Rali ym mhob un o’r pum mlynedd o dan y cytundeb, hyd at a chan gynnwys digwyddiad 2011.

Ym mis Rhagfyr 2007, gwnaeth Cyngor FIA y penderfyniad (a gadarnhawyd gan FIA ym mis Mehefin 2008) i fabwysiadu calendr eilflwydd ar gyfer Pencampwriaeth Rali’r Byd, oedd yn golygu na fyddai Rali Cymru Prydain Fawr ar y calendr yn 2010.

Nid y sefyllfa hon oedd y sail i benderfyniad y WDA, ac yna Llywodraeth Cynulliad Cymru, i gefnogi’r digwyddiad. Dylid nodi na wnaeth FIA gysylltu â ni nac ymgynghori â ni, fel prif noddwr un o ddigwyddiadau blynyddol ‘rhuban glas’ y gamp, ar unrhyw adeg ynghylch y cynigion i newid calendr Pencampwriaeth Rali’r Byd.

Ym mis Mehefin 2008, fe’n hysbyswyd gan IMS fod FIA wedi cadarnhau’r calendr newydd ar gyfer Pencampwriaeth Rali’r Byd. Er gwaethaf hyn, dywedodd IMS yn ystod 2008 fod gobaith da y byddai FIA yn gwrthdroi’i benderfyniad er mwyn ailosod Rali Cymru Prydain Fawr fel cymal ar galendr Pencampwriaeth Rali’r Byd bob blwyddyn. Tua diwedd 2008, cyfaddefodd IMS ei bod yn fwyfwy annhebygol y byddai FIA yn gwrthdroi’i benderfyniad.

Hefyd, yn ystod misoedd diwethaf 2008, daeth yn amlwg y byddai penderfyniad FIA yn cael effaith ddofn a materol ar galendr Pencampwriaeth Rali’r Byd, y gwledydd, y noddwyr a’r rhanddeiliaid ledled y byd, nid lleiaf ar Gymru.

Ar ôl amlinellu’n pryderon yn amyneddgar ac yn ddyfal i IMS ym mis Chwefror eleni, penderfynwyd terfynu’n cytundeb gydag IMS eleni, yn unol â hawl Llywodraeth y Cynulliad o dan yr amgylchiadau.

O ran sgil-effeithiau economaidd y penderfyniad i derfynu’r contract, canfu adroddiad annibynnol a gynhaliwyd yn 2006 gan Uned Ymchwil Economi Cymru fod tystiolaeth i ddangos bod Rali Cymru Prydain Fawr wedi cael effaith gadarnhaol o ran arddangos Cymru fel lle i fynd iddo drwy ddarlledu byd-eang a sylw yn y cyfryngau. Fodd bynnag, nododd yr adroddiad hefyd fod y digwyddiad ond wedi cael effaith ymylol ar ddatblygu sector chwaraeon modur/peirianneg uwch Cymru, ac mai dim ond gwariant twristiaeth eithaf bach o oddeutu £1 miliwn y flwyddyn a geir drwy bobl yn ailymweld. Cadarnhaodd yr adroddiad fod Rali 2006 wedi rhoi gwerth ychwanegol crynswth o £3.3 miliwn, sef elw o lai na 2:1 ar y buddsoddiad. O’i gymharu, nod Event Scotland, yr asiantaeth ddigwyddiadau genedlaethol yn yr Alban, yw elw o 8:1 ar fuddsoddiad ar draws y portffolio o ddigwyddiadau a gefnogir.

Mewn ymateb i rai honiadau yn y cyfryngau, mae’n Huned Digwyddiadau Mawr yn fy sicrhau bod trafodaeth wedi cael ei gynnal gyda swyddogion Cyngor Caerdydd ar newid statws Rali Cymru Prydain Fawr a’r posibilrwydd o adolygu’r contract. Nid yw wedi bod yn bosibl i’r Gweinidogion wneud datganiadau cyhoeddus ar y mater hwn yn sgil y trafodaethau cyfreithiol cyfredol.

Gwnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ymrwymiad o filiynau o bunnoedd i gynnal cymal blynyddol Pencampwriaeth Rali’r Byd yng Nghymru, ac mae gennym ddyletswydd gofal clir i reoli buddiant y cyhoedd a buddsoddiad arian cyhoeddus yn y digwyddiad hwn a phob digwyddiad mawr arall yr ydym yn eu cefnogi.

Rwyf bellach wedi ysgrifennu at IMS i gadarnhau, er bod y contract wedi cael ei derfynu am resymau cwbl ddilys, bydd ein tîm yn barod i gynnal trafodaethau heb unrhyw ragfarn ar drefniadau newydd posibl, ar sail ailwerthusiad o gyfanswm y nawdd. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n aros am Fanylion yr Hawliad. Wedi hynny bydd yn cyflwyno Amddiffyniad yn erbyn yr achos cyfreithiol.