Skip to content

Ysgrifenedig - Y Frech Goch ac MMR

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart , y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (NPHS) yn nodi, fel ag am 17.00 ar 15 Mehefin 2009, bod cyfanswm o 302 o achosion o’r frech goch yng Nghymru, gyda 36 o bobl yn gorfod mynd i’r ysbyty.

 

Brechlynnau yw un o gonglfeini amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond i raddau mae’r rhaglen i blant yn gorfod delio â sgil-effeithiau ei llwyddiant ei hun. Er enghraifft, nid yw llawer o rieni sy’n cael cais i frechu’u plant erioed wedi gweld y frech goch, felly nid oes ganddynt ddealltwriaeth uniongyrchol neu bersonol o’r niwed y gall y clefyd ei achosi. Mae’r rhan fwyaf yn derbyn y cyngor gan y GIG, ond mae rhai’n pryderu o hyd am wybodaeth sydd bellach wedi’i gwrthbrofi.

 

Bydd gan lawer o neiniau a theidiau ac arweinwyr hŷn y gymuned beth profiad o effaith clefydau difrifol. Hoffwn eu hannog i gefnogi rhieni i wneud penderfyniadau ar sail gwyddoniaeth gadarn yn hytrach nag ofergoelion ar wefannau amheus.

 

Yng Nghymru, cawn arweiniad cryf gan Raglen Clefydau y Gellir eu Hatal drwy Frechlynnau y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, a gweithwyr proffesiynol iechyd ymrwymedig mewn Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG, practisau meddygon teulu a fferyllfeydd. Maent yn cydweithio ar bob rhaglen imiwneiddio i gefnogi rhieni’n unigol a grwpiau sy’n agored i niwed fel pobl ddigartref, pobl lle nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, sipsiwn a theithwyr. Maent yn cymryd cyfleoedd i gyfathrebu â phawb sy’n gallu helpu i hyrwyddo ac annog brechu. Lle mae’r niferoedd sy’n cael eu brechu’n isel, mae mesurau ychwanegol wedi cael eu rhoi ar waith fel sesiynau clinig agored a hyrwyddo negeseuon gwybodaeth leol drwy’r wasg am ddim ac ar y radio. Mae’n bwysig iawn helpu’r cyfryngau i ddarlledu’n gyfrifol gan fod yr anawsterau ynghylch MMR wedi dangos sut gallant ddylanwadu ar ganfyddiadau’r cyhoedd am frechu plant.

 

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddatgan yn swyddogol fy niolch am ymdrechion pawb sy’n gweithio i gyflwyno rhaglenni imiwneiddio, yn enwedig yn y cyfnod anodd hwn.

 

Ers fy natganiad diwethaf, rwyf wedi bod yn ystyried yn ofalus nifer o faterion ynghylch brechu gorfodol, astudiaeth bosibl i agweddau rhieni mewn ardaloedd lle ceir achosion, a chyfathrebu’n gyffredinol am imiwneiddio.

 

Mae rhai wedi galw am imiwneiddio MMR gorfodol oherwydd y byddai’n sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru’n cael eu hamddiffyn rhag y tri clefyd am oes. Oherwydd y cynnydd yn nifer yr achosion o’r frech goch, bu’n rhaid edrych o’r newydd ar frechiadau MMR gorfodol. Rwyf wedi dod i’r casgliad y byddai gorfodaeth yn cael effaith andwyol ar yr ymddiriedaeth sydd gan y rhan fwyaf o rieni mewn gweithwyr iechyd proffesiynol lleol. Mae’n anochel y byddai hyn yn arwain at broblemau a byddai’n rhaid cymryd camau i ddelio â’r rheini a fyddai’n gwrthod cydymffurfio. Yn ôl y cyngor rwyf wedi’i dderbyn, byddai’n gwneud pethau’n waeth, yn hytrach nag yn well. Rwy’n meddwl felly bod angen i ni barhau i roi sicrwydd i rieni ar sail tystiolaeth wyddonol gadarn a chyngor meddygol. Rwy’n hyderus felly, ar sail hyn, y gallwn gyrraedd y lefel ofynnol o frechiadau MMR ar gyfer imiwneiddio cyffredinol.

 

Mae rhai wedi awgrymu y gellid cynnal ymchwil yn yr ardaloedd lle ceir achosion i gael dealltwriaeth well o’r rhesymau y tu ôl i’r penderfyniadau i beidio â rhoi’r brechlyn MMR i blant. Rwyf wedi ystyried hyn yn ddwys gan fod mod yn deall bod y sefyllfa’n sensitif yn ystod achos o’r frech goch. Nid wyf am ddiystyru ymchwil o’r fath wedi i’r achos ddod i ben gan fy mod o’r farn ei bod yn debygol bod modd cael safbwyntiau gwerthfawr o brofiad uniongyrchol y rhieni.

 

Rwyf wedi bod yn ystyried p’un a oes angen ymgyrch i roi gwybodaeth am bob brechlyn i blant, gan gynnwys MMR. Mae taflen newydd am y frech goch eisoes wedi cael ei dosbarthu i bractisau meddygon teulu, fferyllfeydd ac ymddiriedolaethau’r GIG. Mae taflenni bellach wedi cael eu hanfon i bob ysgol uwchradd yng Nghymru i ategu’r ailddosbarthiad gwreiddiol yn yr ardaloedd lle ceir achosion. Bydd y deunyddiau hyn yn cefnogi gwaith lleol i gynyddu’r niferoedd sy’n cael eu brechu.

 

Fodd bynnag, rwyf yn argyhoeddedig bod angen ymgyrch newydd, yn enwedig yng nghyd-destun ehangach y ffliw moch, a’r angen i sicrhau ein bod unwaith eto’n hyrwyddo manteision brechu rhag ffliw tymhorol yn yr hydref eleni. Fy mwriad yw datblygu taflen genedlaethol newydd a’i hanfon i bob cartref yng Nghymru, er mwyn magu hyder rhieni a chleifion yn yr wybodaeth y maent yn ei derbyn a phwysleisio pwysigrwydd brechu yn y sefyllfa bresennol. Bydd y daflen yn sôn am frechiadau MMR, ond bydd yn mynd ymhellach i roi gwybodaeth am frechiadau mewn ardaloedd eraill hefyd. Bydd hyn, wrth gwrs, ar ben y gwaith sy’n mynd rhagddo o hyd, drwy weithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymwneud ag imiwneiddio’n uniongyrchol a hefyd drwy sefydliadau partner sy’n gallu cael dylanwad. Mae gwaith eisoes wedi dechrau, er enghraifft, i sicrhau bod y canllawiau safonol ar weithdrefnau cofrestru ar gyfer meithrinfeydd yn cynnwys cwestiynau am statws brechu’r plentyn a phwyslais newydd ar bwysigrwydd cael yr wybodaeth ddiweddaraf am frechlynnau cyffredin.

 

Mae ymdrechion hefyd yn cael eu gwneud i annog colegau a phrifysgolion i sicrhau bod y daflen MMR ar gael i fyfyrwyr cyfredol a newydd a defnyddio dulliau electronig i gyfathrebu â myfyrwyr newydd i’w hatgoffa am bwysigrwydd imiwneiddio.

 

Yn fwy cyffredinol, mae ad-drefnu’r GIG wedi rhoi’r cyfle delfrydol i Fyrddau Iechyd Lleol gryfhau’u gallu i ddarparu gwasanaethau brechu a bodloni’r holl ofynion, gan gynnwys y targed o 95% ar gyfer y ddau frechlyn MMR. Erbyn mis Hydref 2009, dylai pob Bwrdd Iechyd Lleol fod yn cyflogi swyddog sydd â’r rôl benodol o gydlynu’r gwaith o roi’r polisi imiwneiddio ar waith, a gwneud y gorau o wasanaethau cyfredol a’r ddarpariaeth hyfforddiant mewn gofal sylfaenol a chymunedol ac ysbytai. Bydd y cydgysylltwyr hyn yn gweithio’n agos gyda phrif nyrs a phrif ddoctor ar gyfer iminwineiddio.

 

Mae’r niferoedd sy’n derbyn y brechlyn MMR wedi bod yn cynyddu’n raddol ers yr isafbwynt o 77% yn 2003. Yn fy natganiad diwethaf, dywedais fod y data COVER diweddaraf yn dangos bod 89.6% o blant dyflwydd yn derbyn y brechlyn MMR cyntaf. Mae hyn yn cynyddu ac mae gwaith penodol yn cael ei wneud i ymateb i’r achosion o’r frech goch a lleddfu pryderon rhieni. Rwy’n hyderus y bydd y camau gweithredu a amlinellir yn y datganiad yn cynyddu’r niferoedd sy’n derbyn y brechlyn MMR i’r targed o 95%.