Skip to content

Ydgrifenedig - Arian Ewropeaidd Newydd ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd ac Arfordiroedd yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Ym mis Rhagfyr 2008 fe gofiwch imi gyhoeddi ein bod wedi llwyddo i sicrhau £30m yn ychwanegol o gyllid Cydgyfeirio Ewropeaidd er mwyn buddsoddi mewn mesurau risg llifogydd ac erydu arfordirol o fewn ardaloedd awdurdodau lleol cymwys.  Bydd y cyllid hwnnw'n cefnogi rhaglen waith strategol gwerth £65 miliwn i wneud gwelliannau dros y chwe blynedd nesaf.

 

Bydd y cyllid ychwanegol hwn hefyd yn cael cyllid cyfatebol a fydd yn dod yn bennaf o'r cyllidebau rheoli llifogydd ac arfordiroedd cenedlaethol, gyda chyfraniadau hefyd oddi wrth awdurdodau lleol ac eraill ynghyd â'r £8 miliwn ychwanegol, a fydd ar gael dros y ddwy flynedd nesaf, wedi'i neilltuo o Gronfa Fuddsoddi Cyfalaf Strategol Llywodraeth y Cynulliad. 

 

Bydd y cronfeydd ychwanegol hyn yn mynd tuag at gynlluniau sy'n cefnogi dull eang o weithredu rheoli risg llifogydd.  Bydd y rhaglen chwe blynedd yn gweld creu amddiffynfeydd newydd a gwell rhag llifogydd ac amddiffyn yr arfordir. Bydd hefyd yn gweithredu ystod o fesurau eraill ar gyfer rheoli risg llifogydd megis systemau draenio trefol cynaliadwy, codi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd a chadernid adeiladau mewn cymunedau sy'n debygol o ddioddef llifogydd.

 

Yn dilyn gwaith a gynhaliwyd gan y Bwrdd Rhaglen Cyllid Cydgyfeirio i gasglu mwy o wybodaeth fanwl ar y cynlluniau hynny a ystyrir yn gymwys i'w cynnwys o fewn ein rhaglen strategol, rwyf bellach yn falch i gyhoeddi cynlluniau sydd wedi'u cymeradwyo i'w cynnwys yng ngham cyntaf y Rhaglen Strategol Rheoli Risg Llifogydd ac Arfordiroedd.

 

Bydd fy swyddogion yn cydweithio'n agos â swyddogion o awdurdodau lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd a Dŵr Cymru Welsh Water, sy'n arwain trwy ddarparu cynlluniau unigol i ddatblygu cynlluniau prosiect manwl ac i helpu gyda'r broses o sicrhau'r arian cyfatebol sy'n ofynnol. 

 

Bydd rhan gyntaf y cynlluniau yn tynnu i lawr £20m o'r cyllid Rhaglen Gydgyfeirio gwerth £30m sydd ar gael ar gyfer gweithgareddau rheoli risg llifogydd ac arfordiroedd yng Nghymru. Mae rhestr o'r cynlluniau yn Atodiad 1.

 

Bydd fy swyddogion yn cydweithio'n agos â'r awdurdodau hyrwyddo i gefnogi'r gwaith o gyflwyno pob un o'r prosiectau sy'n rhan o'r rhaglen uchelgeisiol hon o fuddsoddi mewn risg llifogydd.

 

 

Enw'r prosiect

Ardal Awdurdod Lleol

Amcangyfrif o Gost y Cynllun  £000

Y Rhyl

Sir Ddinbych

6,956

Dinbych

Sir Ddinbych

2,847

Dyffryn Conwy

Conwy

4,719

Bae Colwyn

Conwy

5,000

Y Fali

Ynys Môn

  840

Tywyn

Gwynedd

7,620

Borth

Ceredigion

7,000

Tregaron

Ceredigion

1,913

Newport Parrog Fluvial

Sir Benfro

     37

Jackson’s Way

Sir Benfro

  524

Rhydyfelin

Rhondda Cynon Taf

2,410

Bedlinog

Merthyr Tudful

   119

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn paratoi cynnig strategol am ragor o gyllid Ewropeaidd gan y Rhaglen Gystadleurwydd a fydd, os yw'n llwyddiannus, yn fanteisiol i gynlluniau rheoli risg llifogydd ac arfordiroedd yn yr ardaloedd awdurdod lleol hynny nad ydynt yn gymwys am gyllid cydgyfeirio.