Skip to content

Ysgrifenedig - Addysg yn Sir Ddinbych

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Ym mis Tachwedd 2007, cyhoeddais ddatganiad am fy mhenderfyniad i ymyrryd yng ngwasanaeth addysg Sir Ddinbych ar ôl i Estyn arolygu’r awdurdod ym mis Gorffennaf 2007. Yr wyf bellach yn gallu rhoi gwybodaeth i’r Aelodau am y sefyllfa ddiweddaraf.

Ers i mi sefydlu’r Bwrdd Adfer Addysg Annibynnol o dan gadeiryddiaeth Roy James, mae’r Bwrdd wedi cyfarfod wyth gwaith. Yr wyf wedi cael cyngor rheolaidd, gan gynnwys adroddiadau oddi wrth Gadeirydd y Bwrdd, am y cynnydd y mae’r awdurdod wedi’i wneud o ran gwella’r gwasanaeth addysg. Mae adroddiad am bob cyfarfod wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.  

At hynny, mae Estyn wedi cynnal tri ymweliad monitro â’r awdurdod er mwyn arolygu’r cynnydd a wnaed ers yr arolygiad. Mae Estyn yn cadarnhau bod Awdurdod Addysg Lleol Sir Ddinbych yn gwneud cynnydd wrth fynd i’r afael â’r meysydd hynny lle mae gwendidau. Gwelwyd cynnydd mewn meysydd allweddol megis presenoldeb yn gyffredinol ar draws yr awdurdod a gostyngiad yn nifer y gwaharddiadau parhaol a’r gwaharddiadau cyfnod penodol.  

Er hynny, mae gwaith eto i’w wneud er mwyn sicrhau bod strategaethau a gwaith cynllunio yn cael eu cysylltu’n glir â chamau gweithredu sy’n esgor ar wasanaethau sydd bob amser o ansawdd da.

Mae Sir Ddinbych wedi penodi rhai uwch swyddogion allweddol. Mae hyn yn cynnwys Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a ddechreuodd yn ei swydd ar 23 Mawrth 2009, a’r Pennaeth Gwella Ysgolion sydd bellach yn ei swydd ers nifer o fisoedd. Er hynny, hyd yma, ni phenodwyd Prif Weithredwr newydd.

Mae’n amlwg mai dim ond megis dechrau y mae’r cynnydd a chyn i mi roi’r gorau i ymyrryd yng ngwasanaeth addysg yr awdurdod, yr wyf am fod yn ffyddiog bod gwelliannau wedi ymwreiddio ac yn cael eu cynnal. Hoffwn dalu teyrnged i’r modd y mae’r bwrdd adfer, o dan gadeiryddiaeth Roy James, wedi cyflawni ei swyddogaethau. Mae gwaith y Bwrdd wedi bod o fudd i’r awdurdod eisoes ac yr wyf o’r farn bod ganddo ran bwysig i’w chwarae o hyd o safbwynt galluogi Sir Ddinbych i chwarae rôl allweddol unwaith eto, gan gynnig arweinyddiaeth a gwasanaethau o ansawdd uchel er budd yr holl blant a phobl ifanc yn ardal yr awdurdod, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr addysg orau bosibl a’r gwasanaethau ehangaf posibl. O ystyried hyn, yr wyf wedi gwahodd y Bwrdd i barhau am gyfnod pellach o 12 mis.  

Yr wyf wedi hysbysu arweinydd yr awdurdod am fy mhenderfyniad i barhau â’r bwrdd adfer.

Cwblhaodd Estyn ailarolygiad llawn o Awdurdod Sir Ddinbych yn ddiweddar, gan gynnwys gwasanaethau Cymorth Ieuenctid ac yr wyf yn disgwyl cael eu cyngor am y canlyniadau ym mis Gorffennaf.