Skip to content

Ysgrifenedig - Y Fenter Tocynnau Teithio Rhatach ar Gludiant Cymunedol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Lluniwyd y Fenter Tocynnau Teithio Rhatach ar Gludiant Cymunedol i dreialu cyfleoedd teithio mwy hygyrch ar gyfer pobl ag anableddau difrifol na all ddefnyddio gwasanaethau bysiau lleol confensiynol neu gael mynediad atynt.  Hyd yma, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu £3.9 miliwn i ariannu costau llawn y fenter hon.

Heddiw, rwy’n cyhoeddi fy mod wedi cytuno i roi £1 miliwn arall yn 2009-10 i fynd rhagddi â’r fenter. 

Gofynnwyd i Capita Symonds wneud astudiaeth annibynnol er mwyn pwyso a mesur llwyddiant y fenter ac mae copi o’r Crynodeb Gweithredol a’r Adroddiad Terfynol ar gael ar y Rhyngrwyd.

Daeth yr astudiaeth i’r casgliad fod nifer o fanteision amlwg i’r fenter, ond nododd hefyd fod angen mynd i’r afael â sawl mater cyn y gellid cyflwyno cynllun teithio rhatach cenedlaethol i bobl ag anableddau difrifol.  

Felly, mae’r dystiolaeth o’r astudiaeth yn awgrymu y byddai’n werth parhau â’r fenter am 3 blynedd arall tan 31 Mawrth 2012.  Drwy ymestyn y fenter gallwn adeiladu ar lwyddiant cynlluniau peilot y 3 blynedd diwethaf a gallwn hefyd fynd i’r afael â’r materion a ddaeth i’r amlwg yn ystod y gwerthusiad. 

Y nod cyffredinol fydd datblygu model sy’n darparu lefel dderbyniol o gyfleoedd teithio rhatach; sy’n cefnogi datblygiad y sector trafnidiaeth gymunedol yn fwy cyffredinol ac sy’n fwy cynaliadwy yn y tymor hir.

Maes o law byddaf yn cyflwyno cynlluniau manylach am y modd y bwriadwn fynd rhagddi â’r gwaith hwn.