Skip to content

Ysgrifenedig - Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol – Lansio’r Bartneriaeth â Chronfa’r Loteri Fawr

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, y Dirprwy Weinidog dros Adfywio

Rwy'n falch o gyhoeddi fy mod i heddiw wedi lansio'r Cytundeb Partneriaeth swyddogol rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa'r Loteri Fawr er mwyn bwrw ymlaen â'r rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Bydd y rhaglen ar agor i geisiadau ym mis Hydref 2009.

Ar 18 Tachwedd 2008, yn ystod y Cyfarfod Llawn, nodais fod gwaith yn mynd yn ei flaen i ddatblygu'r rhaglen gyda Chronfa'r Loteri Fawr. Rydym wedi datblygu Partneriaeth gyffrous â'r Gronfa Loteri Fawr sy'n dangos ein bod ni'n canolbwyntio ar fuddsoddi cyllid yn ddoeth.
Mae'r partïon wedi cytuno mai gwerth y gronfa fydd £13 miliwn.

Nod y Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol fydd:

  • adeiladu cymunedau mentrus i ddatblygu asedau cymunedol sy'n gallu ateb yr heriau maen nhw'n eu hwynebu;
  • helpu i adfywio cymunedau a'u gwneud yn economaidd gynaliadwy;
  • hyrwyddo a chryfhau annibyniaeth Mudiadau'r Trydydd Sector drwy hyrwyddo menter gymdeithasol; a
  • gwella'r dull o weithio mewn partneriaeth rhwng y sector cyhoeddus, y Trydydd Sector, ac eraill.

Caiff y Gronfa ei hagor ar gyfer ceisiadau ym mis Hydref eleni. Hoffwn annog unrhyw ymgeiswyr posibl i'r Gronfa i gysylltu â'r Loteri Fawr i drafod eu syniadau.

Fel y gwyddoch, o bosibl, un o gronfeydd ategol Llywodraeth y Cynulliad yw'r  Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol. Cafodd y Rhaglen hon ei hadolygu'n ddiweddar i edrych ar gryfhau pwyslais y Gronfa ar adfywio. Rwy'n awyddus iawn i wneud yn si?r bod y Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol a'r Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn ategu ei gilydd.

Felly, rwyf wedi sicrhau y bydd:

  • y Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn cynnig grantiau cyfalaf a refeniw a chaiff eu dyfarnu gan un ffynhonnell ac yn ariannu ceisiadau sy'n cynnwys trosglwyddo perchnogaeth o Gyrff Sector Cyhoeddus.
  • Yn ogystal â darparu arian cyfalaf cyffredinol i wella cyfleusterau y mae cymunedau lleol yn berchen arnynt, bydd y Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol hefyd yn parhau i ariannu'r broses o drosglwyddo perchnogaeth (neu brydles) ar ased o Gyrff Sector Preifat, gyda grantiau cyfalaf gwerth hyd at £300,000 yn cael eu dyfarnu dros gyfnod o 3 blynedd ariannol.

Byddwn yn fodlon gwneud datganiad llafar ar y datganiad mor fuan â phosibl yn y sesiwn newydd, pe bai Aelodau'r Cynulliad am imi wneud hyn.