Skip to content

Ysgrifenedig - Adolygu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir Sydd Gan Weithredwyr Ffonau Symudol – Gweithredu ar Sail Casgliadau’r Adroddiad Ymchwil a Gomisiynwyd

Dolenni perthnasol

Adroddiad sy’n asesu’r opsiynau posibl i newid yr hawliau datblygu a ganiateir sydd gan weithredwyr ffonau symudol.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Ym Mehefin 2008, penodwyd ymchwilwyr o Brifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste i ddadansoddi’r opsiynau posibl ar gyfer newid yr hawliau datblygu hynny a ganiateir mewn perthynas â mastiau ffonau symudol fel y maent yn Rhan 24 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Roedd pob opsiwn i gael ei asesu o ran effeithiau technegol, economaidd a diogelwch gweithredu’r opsiwn hwnnw. Hefyd o ran unrhyw oblygiadau gwahaniaethu mewn perthynas â Chyfarwyddeb Fframwaith y CE ac egwyddorion y gyfraith gyhoeddus ddomestig.

 

Fel rhan o’r broses o gasglu gwybodaeth ar gyfer y prosiect, gwahoddodd yr ymchwilwyr dystiolaeth oddi wrth nifer fawr o gyrff ac yna cynhaliwyd cyfweliadau manwl gyda rhai rhanddeiliaid cyn llunio’r asesiad o’r opsiynau posibl ar gyfer newid. Derbyniwyd adroddiad cynhwysfawr yr ymchwilwyr, “Prosiect Ymchwil i Adolygu Hawliau Datblygu Caniataol Cwmnïau Ffôn Symudol” yn gynharach eleni ac mae ar gael ar wefan Llywodraeth y Cynulliad. Erbyn hyn, mae copïau wedi’u dosbarthu hefyd i holl Aelodau’r Cynulliad.

 

Mae Pennod 10 (tudalennau 41-76) yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad yr ymchwilwyr o’r opsiynau posibl ac mae Pennod 11 (tudalennau 77-82) yn nodi eu casgliadau a’u hargymhellion. Maent yn ystyried mai opsiynau 2 (rheoleiddio rhannol : cael gwared â chymeradwyaeth flaenorol, diwygio hawliau datblygu a ganiateir, gyda gofyniad mwy neu lai am ganiatâd cynllunio llawn) a 4 (cadw’r weithdrefn gymeradwyo flaenorol, a diwygio rhai agweddau ar ddatblygu a ganiateir i raddau mwy neu lai) yw’r prif opsiynau posibl, ond Opsiwn 2 yw eu hoff opsiwn.

 

Mae eu hadroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth ategol am ddefnyddio rhwydweithiau gweithredwyr yng Nghymru. Safbwynt yr ymchwilwyr yw y bydd y gofynion yn y dyfodol yn ffocysu ar ddiweddaru antenâu a chynyddu’r capasiti ac maent yn debygol o fod yn seiliedig ar ddefnyddio llawer o safleoedd y mae gweithredwyr yn berchen arnynt neu’n eu defnyddio eisoes. Maent yn disgwyl hefyd y bydd seilwaith rhwydweithiau ffonau symudol yn cael ei rannu fwyfwy. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cytundebau rhwng gweithredwyr penodol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf i rannu eu safleoedd/peth seilwaith a sefydlu cwmnïau mentrau ar y cyd.

 

Mae goblygiadau’r tueddiadau cyffredinol hyn a ddisgwylir i’w croesawu o gofio telerau canllawiau polisi cynllunio presennol Llywodraeth y Cynulliad yn Nodyn Cyngor Technegol 19 “Telathrebu”. Mae hwn yn cynnwys cyngor clir a chadarnhaol am yr angen i weithredwyr ystyried yn llawn y posibilrwydd o rannu mastiau a safleoedd. Yn benodol mae’n nodi:

  •  y gall awdurdodau cynllunio lleol ddisgwyl yn rhesymol i geisiadau ar gyfer mastiau newydd ddangos tystiolaeth eu bod wedi ystyried y posibilrwydd o godi antenâu ar adeilad, mast neu strwythur arall sydd eisoes yn bodoli.
  •  y dylid cynnwys tystiolaeth gydag unrhyw gais a wneir i’r awdurdod cynllunio lleol ac, os na ystyrir bod y dystiolaeth ynghylch ystyried safleoedd eraill o’r fath yn foddhaol, y gallai fod cyfiawnhad i’r awdurdod cynllunio (neu Weinidogion Cymru ar apêl) wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad.

Casgliad arall yw bod nifer y ceisiadau cymeradwyaeth flaenorol/cynllunio telathrebu yn isel ar hyn o bryd ac y disgwylir iddo barhau’n isel.

 

Cyhoeddais mewn datganiad Cabinet, dyddiedig 10 Rhagfyr 2009, fwriad Llywodraeth y Cynulliad i gynnal adolygiad cynhwysfawr o sut y gweithredir y broses gais gynllunio yng Nghymru, i sicrhau bod y system gynllunio yn addas i’r diben, yn enwedig yng ngoleuni amgylchiadau economaidd anodd.

 

Mae ymchwilwyr o GVA Grimley wedi’u penodi i gynnal astudiaeth ymchwil i edrych ar y broses gais gynllunio. Mae Grŵp Llywio Ymchwil annibynnol wedi’i ffurfio i oruchwylio’r prosiect hwn, dan gadeiryddiaeth Michael Sant, ymgynghorydd cynllunio tref sydd wedi ymddeol. Mae aelodau’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o CBI (Cymru), Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi (Cymru), Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (Cymru), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Swyddogion Cynllunio (Cymru), Cymorth Cynllunio Cymru, Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru a’r Panel Cynghori ar Safonau i’r Arolygiaeth Gynllunio.

 

Mae gwaith wedi dechrau yn ddiweddar ar yr astudiaeth ymchwil, a disgwylir adroddiad yn ystod Gwanwyn 2010. Bydd y gwaith hwn yn edrych ar yr hyn sy’n rhwystro penderfyniadau ar geisiadau cynllunio rhag cael eu gweithredu’n amserol ac yn effeithlon. Bydd yn tynnu ar dystiolaeth ledled Cymru a gweddill y DU, gan gynnwys adolygiad Killian Pretty a gwblhawyd yn ddiweddar yn Lloegr. Bydd canlyniadau’r astudiaeth ymchwil yn llywio ac yn cyfrannu at gynllun gweithredu ar gyfer gwella’r system gynllunio.

 

Rwy’n ymwybodol y gallai’r adolygiad o’r cais cynllunio arwain at argymhellion ar gyfer newid yr is-ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar hawliau datblygu a ganiateir. Mae’n bwysig felly bod materion hawliau datblygu a ganiateir sy’n ymwneud â mastiau ffonau symudol yn cael eu hystyried yn gyffredinol, ynghyd â’r holl ystyriaethau perthnasol eraill. Rwy’n cynnig, felly, ystyried casgliadau ac argymhellion adroddiad Prifysgol Gorllewin Lloegr yn y Gwanwyn ynghyd â chasgliadau ac argymhellion Astudiaeth Ymchwil yr Adolygiad o Geisiadau Cynllunio.