Skip to content

Ysgrifenedig - Adroddiad Blynyddol Iaith Pawb a’r Cynllun Iaith Gymraeg 2008-09

Dolenni perthnasol

Dyma'r chweched adroddiad blynyddol ar berfformiad Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â'r ymrwymiadau a geir yn Iaith Pawb a Chynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth

Rydym ni, fel Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi'r iaith Gymraeg ac i weithio tuag at y nod o greu Cymru cwbl ddwyieithog. 

 

Mae dogfen polisi ‘Cymru'n Un’ wedi datgan ein hymrwymiad yn barod fel Llywodraeth i ddatganoli pwerau deddfu ar yr iaith Gymraeg o San Steffan i'r Cynulliad Cenedlaethol ac rydym yn gweithio tuag at gyflwyno Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol, Mesur a Strategaeth Iaith newydd er mwyn gwneud hynny.

 

Wrth i ni ddatblygu'r Strategaeth, gallwn fod yn hyderus ein bod yn parhau i adeiladu ar y seiliau cadarn y mae dogfen Iaith Pawb wedi rhoi i ni.  Gallwn ymfalchïo yn yr hyn sydd eisoes wedi cael ei gyflawni fel y mae Adroddiad Blynyddol Iaith Pawb a'r Cynllun Iaith Gymraeg 2008-09 a gyhoeddir heddiw yn adlewyrchu. Mae’r Adroddiad yn cyfeirio at y gwasanaethau sydd nawr ar gael i’r cyhoedd yn ddwyieithog, a sut mae adrannau tu fewn i Lywodraeth y Cynulliad yn gweithredu’n ddwyieithog.

 

Mae'r Adroddiad Blynyddol hefyd yn cynnwys nifer o uchafbwyntiau sy'n dangos fod materion sy'n ymwneud â'r Gymraeg yn cael eu prif-ffrydio i mewn i waith y Llywodraeth a bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn parhau i wneud gwaith arloesol wrth hyrwyddo'r Gymraeg, trwy Gymru gyfan ac yn rhyngwladol.

 

Y mae heddiw, felly, yn gyfle i ddathlu'r hyn sydd wedi cael ei gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf wrth i ni weithio tuag at y nod o Gymru ddwyieithog.