Pleser o’r mwyaf yw gwneud datganiad i’r Cynulliad Cenedlaethol ar adroddiad Confensiwn Cymru Gyfan. Croesawaf yr adroddiad hwn yn gynnes ac yr wyf yn llongyfarch y confensiwn ar ei waith caled yn ystod yr 16 mis diwethaf. Mae wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth o’r system bresennol o lywodraethu yng Nghymru, a hefyd i ddangos beth yw’r llwybrau sydd ar gael ar gyfer y dyfodol.
Mae’r adroddiad yn darparu dadansoddiad ac asesiad gofalus o lefel y gefnogaeth i roi mwy o bwerau deddfu i’r Cynulliad Cenedlaethol—pwerau deddfu y mae’r Senedd yn San Steffan eisoes wedi cytuno iddynt mewn egwyddor, wrth basio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, ond sydd angen pleidlais 'ie’ mewn refferendwm er mwyn eu gwireddu.
Yn gyntaf, rhoddaf deyrnged i Syr Emyr Jones Parry, a ymgymerodd â’r dasg, heb betruso, o gadeirio Confensiwn Cymru Gyfan, sy’n dangos ei fod yn ddyn nad yw’n ofni her. Mae’n wir wedi rhoi rhywbeth yn ôl i Gymru, ar ôl blynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus dramor dros y Deyrnas Unedig yn y Cenhedloedd Unedig ac mewn mannau eraill. Mae ei ymrwymiad i’r dasg hon wedi bod yn ddiwyro a diflino. Yr wyf yn ddiolchgar hefyd i aelodau eraill y pwyllgor gwaith am eu hymroddiad. Mae’n werth pwysleisio sbectrwm profiad eang y pwyllgor gwaith, yn ymestyn dros bob prif blaid wleidyddol, croestoriad o gymdeithas ddinesig Cymru ac unigolion a wirfoddolodd ac a benodwyd yn ôl teilyngdod. Diolch hefyd i’r ysgrifenyddiaeth am gyflawni ei chylch gwaith mor drwyadl a phroffesiynol.
O’r cychwyn cyntaf, cymeriad arbennig y confensiwn hwn fu’r modd y mae wedi ceisio ymgysylltu â chroestoriad cyffredinol y cyhoedd yng Nghymru, ac nid yr un hen wynebau ac anoracs cyfansoddiadol. Y cwestiwn oedd: beth mae hyn yn ei olygu i Mr a Mrs Jones a’r plant? Mae ceisio dod o hyd i’r Mr a Mrs Jones bondigrybwyll a siarad â nhw mewn iaith ddealladwy am y mater hwn—a ddylai Cymru aros ar Ran 3 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 neu fentro i Ran 4?—wedi bod yn anodd, fel yr wyf newydd ddangos drwy fethu defnyddio iaith ddealladwy.
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr asesiad allweddol hwn o gyflwr y genedl a ble’r awn yn y dyfodol. Yr wyf yn cynnwys aelodau a staff y confensiwn a feddyliodd am y syniad o gael nosweithiau cyri a dawnsfeydd amser te, yn ogystal â phob 'Mr a Mrs Jones’ a hudwyd i gymryd rhan gan y gobaith o gael cyri neu ddawns amser te. Mr a Mrs Jones yw meistri’r prosiect hwn; nid fi. Nid fi; nid fi a Ieuan; nid fi, Ieuan a Peter Hain; nid Syr Emyr a’i dîm; y meistri yw’r werin bobl ar hyd a lled Cymru. Efallai ein bod ni yn y Cynulliad hwn yn meddwl ein bod wedi cyflawni ein prentisiaeth wrth basio deddfau dros Gymru dan Ran 3, a’n bod yn barod felly i symud ymlaen i Ran 4, a phwerau deddfu sylfaenol, ond nid dyna’r cwestiwn; nid a ydym ni’n meddwl ein bod wedi cyflawni’r brentisiaeth honno, ond a ydyw pobl Cymru’n meddwl hynny. Wrth reswm, yr ydym ni’n rhagfarnllyd.
Dyna’r cam nesaf. Cyn troi at fater allweddol y refferendwm, gadewch imi dynnu eich sylw am ennyd at syniadau’r adroddiad ynghylch sut y gallwn wella gweithrediad y system gyfredol. Mae’r argymhellion ynghylch darpariaethau fframwaith a phwerau llunio Mesurau yn amserol ynddynt eu hunain, a hwythau’n dod yn union cyn dadl y Cynulliad ar Araith y Frenhines yfory. Mae gan y confensiwn bethau pwysig i’w dweud ynglŷn â symleiddio’r system gyfreithiol yng Nghymru, a ffin gynaliadwy rhwng yr hyn sydd wedi’i ddatganoli a heb ei ddatganoli.
Daw hynny â mi at graidd yr adroddiad. Mae’n pwysleisio y byddai 'mantais sylweddol’ o symud o Ran 3 Deddf Llywodraeth Cymru 2006—hynny yw, y drefn Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol a weithredwn yn awr—i Ran 4, a phwerau deddfu llawn, neu lawnach. Daw i’r casgliad ymhellach fod pleidlais 'ie’ yn y refferendwm a fyddai’n allweddol i gyflwyno’r system hon yn 'gaffaeladwy’, er na ellir ei chymryd yn ganiataol. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd cael etholwyr gwybodus, a’r her o sut i gyflawni hynny—mewn geiriau eraill, sut i gyrraedd y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru na fyddai byth yn cael achos i ymchwilio i’r modd y gwneir deddfau ar addysg, iechyd, plant a theuluoedd ac ati yng Nghymru. Yn wir, pam y dylent? Rhywbeth i anoracs yw ymchwil i’r modd y caiff deddfau eu llunio. Mae perswadio pobl gyffredin i fagu digon o ddiddordeb i’w cymell i bleidleisio mewn refferendwm ie/na yn dasg fawr. Dim ond yn achlysurol iawn y gallwch wneud hynny. Mae’n tanlinellu’r angen am ofal ac eglurder wrth esbonio’r dewis sydd ar gael o ran i ba raddau y dylid deddfu yng Nghymru, a rolau’r Cynulliad a’r Llywodraeth yma, y Senedd a’r Llywodraeth yn San Steffan, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae angen peth wmbredd o egluro ar hynny os am gynhyrfu’r etholwyr ddigon i bleidleisio.
Wrth graidd y neges 'cadw pethau’n syml’ hon mae natur y cwestiwn y gellid ei ofyn mewn refferendwm, a’r rhagymadrodd a roddir cyn y cwestiwn ar y papur pleidleisio. Mae’n gwbl amlwg na fydd unrhyw gwestiwn refferendwm sydd ddim ond yn gofyn:
'A oes arnoch eisiau i Ran 4 Deddf Llywodraeth Cymru gael ei gweithredu? Oes neu Nac Oes’
ddim yn gwneud y tro. Fodd bynnag, os na fyddai hynny’n ddigon da, beth fyddai? Sut mae llunio cwestiwn hawdd ei ddeall a theg? Yn y pen draw, mater i’r Ysgrifennydd Gwladol yw hynny gyda chyngor gan y Comisiwn Etholiadol.
Mae’r bêl bellach yn ein cwrt ni. Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn y dasg o ddarllen yr adroddiad, ei drafod, a dod i gasgliad ynglŷn â’r ffordd ymlaen. Yn y flwyddyn newydd mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu cyflwyno cynnig am ddadl lawn ar adroddiad y confensiwn. Caf sicrwydd o’r ffaith fod y confensiwn yn credu bod ein cytundeb 'Cymru’n Un’ i gynnal refferendwm yn ystod y Cynulliad hwn yn ymarferol ac yn bosibl, er y gadawaf fanylion hynny i’m holynydd yn swydd y Prif Weinidog. Yn y cyfamser, treuliwch yr adroddiad hwn gyda’ch twrci a’ch pwdin Nadolig, a deuwn yn ôl at y pwnc yn y flwyddyn newydd.