Skip to content

Ysgrifenedig - Ffliw A H1N1, Ffliw Moch

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas â'r ffliw moch pandemig, sef Ffliw Math A (H1N1).

 

Yn ôl cyfraddau diweddaraf salwch tebyg i ffliw yng Nghymru, bu cynnydd bach yn nifer yr ymgyngoriadau â meddygon teulu yn sgil salwch tebyg i ffliw. Mae lefelau salwch tebyg i ffliw yn parhau'n uwch nag sy'n arferol ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn. Er bod y rhagdybiaethau cynllunio ar gyfer ffliw wedi cael eu hadolygu, a'u llacio, mae ffliw moch yn dal i fod yn fygythiad difrifol ac mae'n effeithio ar grwpiau o'r boblogaeth na fyddai fel arfer mewn llawer o berygl o ffliw tymhorol, fel plant ifanc a menywod beichiog. 

 

Erbyn hyn, mae'r ail don o ffliw pandemig wedi hen daro'r Deyrnas Unedig. Mae cyngor a dderbyniais yn ddiweddar yn awgrymu bod ffliw moch yn ymddwyn fel y disgwyl a bod pobl, ym mwyafrif helaeth yr achosion, yn gwella'n dda. Fodd bynnag, wrth i nifer yr achosion gynyddu, rydym yn debygol o weld mwy o bobl yn dioddef cymhlethdodau difrifol, mwy o bobl yn cael eu derbyn i gyfleusterau gofal critigol a mwy o farwolaethau. Erbyn hyn, bu 14 o farwolaethau yng Nghymru. Bydd y nifer hwn yn parhau i gynyddu dros amser.

 

Ysgrifennais atoch y mis diwethaf i esbonio'r rhaglen frechu, a lansiwyd ar 21 Hydref, mewn mwy o fanylder. Mae brechlynnau yn cael eu dosbarthu ledled Cymru ar hyn o bryd. Mae practisau meddygon teulu yn gefnogol iawn i'r angen am alw'r cleifion sydd â blaenoriaeth i gael eu brechu cyn gynted ag y bo modd.

 

 Mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi ysgrifennu at gydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd i roi'r diweddaraf iddynt am y trefniadau logisteg ar gyfer cynnal y rhaglen frechu. Mae'n bwysig i'r rheini sy'n perthyn i grwpiau â blaenoriaeth gael y brechlyn ar ôl derbyn eu gwahoddiad. Amcangyfrifir bod 750,000 o bobl yn perthyn i grwpiau â blaenoriaeth yng Nghymru, a'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cydnabod fel rhai sydd mewn perygl o ddioddef cymhlethdodau yn sgil y feirws.

 

Penderfynais yn ddiweddar y dylai pob plentyn a pherson ifanc ag anawsterau dysgu difrifol gael eu trin fel unigolion â blaenoriaeth uchel i gael eu brechu, gan eu bod hwy mewn perygl mawr o ddioddef cymhlethdodau difrifol. Bydd sesiynau brechu yn cael eu cynnal mewn ysgolion a cholegau arbennig, a bydd staff hefyd yn cael cynnig brechlyn oherwydd y lefel uchel o ofal personol y maent yn ei darparu. Mae trefniadau eisoes yn eu lle i bractisau meddygon teulu frechu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu difrifol sy'n mynychu ysgolion a cholegau prif ffrwd.

 

Yr wythnos ddiwethaf, ysgrifennodd y Prif Swyddog Meddygol at gydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd gyda chyngor hefyd i helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i gefnogi menywod beichiog wrth iddynt wneud penderfyniadau ynglŷn â’r brechlyn. Mae yna dystiolaeth gadarn, a thystiolaeth gynyddol, bod menywod beichiog mewn perygl mawr o ddioddef o ganlyniadau difrifol yn sgil ffliw moch. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi nodi bod 7 i 10% o bob claf sydd wedi bod yn yr ysbyty o ganlyniad i ffliw moch yn fenywod beichiog sydd yn eu hail neu drydydd tymor o feichiogrwydd. Mae llythyr y Prif Swyddog Meddygol yn cynnwys taflen Holi ac Ateb ar gyfer cynnal ymgyngoriadau â menywod beichiog â chanddynt gwestiynau a phryderon. Mae'r wybodaeth hefyd yn cynnwys y dystiolaeth glinigol, a'r sail resymegol, sydd y tu ôl i gyngor y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu i gynnwys menywod beichiog yn y grwpiau â blaenoriaeth i gael eu brechu.

 

Mae'n hynod bwysig bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen yn derbyn y brechlyn i amddiffyn cleifion, a hwy eu hunain, ac i sicrhau ein bod mewn sefyllfa ffafriol i gynnal ein gwasanaethau pe bai cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o ffliw moch. Bydd tua dwy filiwn o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen yn y DU yn cael cynnig y brechlyn.  Roeddwn yn falch o weld bod partneriaid allweddol, fel Cymdeithas Feddygol Prydain, Coleg Brenhinol y Nyrsys ac UNSAIN wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn ddiweddar a oedd yn cefnogi cychwyn y rhaglen brechu yn erbyn ffliw moch.

 

Cychwynnodd ymgyrch gyfathrebu i annog pobl i dderbyn y brechlyn ffliw moch yng Nghymru ar 9 Tachwedd. Mae'r ymgyrch gyhoeddusrwydd yn rhan o'r ymdrech i godi ymwybyddiaeth ledled y DU. Mae'n defnyddio dulliau cyfathrebu sydd wedi'u targedu at gynulleidfaoedd amrywiol, drwy gyfrwng radio, y wasg a chysylltiadau cyhoeddus.

 

Yng nghyd-destun adweithiau niweidiol posibl i'r brechlyn, mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi sefydlu trefniadau arbennig ar gyfer adrodd am sgil-effeithiau posibl y brechlyn ffliw moch. Cafodd Porthol Adweithiau Niweidiol i Gyffuriau Ffliw Moch ei lansio ym mis Gorffennaf ar gyfer adrodd am sgil-effeithiau posibl Tamiflu a Relenza.  Mae'r gwasanaeth hwn wedi cael ei ymestyn nawr er mwyn monitro pa mor ddiogel yw brechlynnau ffliw moch.

 

Mae'r Prif Swyddog Meddygol a finnau yn dal i gyfarfod â chynrychiolwyr o'r grwpiau proffesiynol yn fisol. Rydym wedi cael cadarnhad bod gwasanaethau gofal cychwynnol a gofal eilaidd yn ymdopi â'r galwadau sydd arnynt o ganlyniad i'r pandemig, a bod y cyrff proffesiynol yn cefnogi ein dull o fynd i'r afael â'r mater. Hoffwn ddiolch i'r holl staff sydd wedi ymateb mor gadarnhaol, yn arbennig ein gwasanaethau gofal cychwynnol, sydd wedi chwarae rôl allweddol yn y dasg o reoli'r achos o ffliw a'r rhaglen frechu, ac sydd wedi cario baich y gweithgarwch ychwanegol.

 

Byddaf yn parhau i adrodd yn rheolaidd i'r Cynulliad am y materion hyn, a byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf os bydd y sefyllfa bresennol yn newid mewn unrhyw ffordd.