Skip to content

Ysgrifenedig - Mesur y Mor a Mynediad at yr Arfordir; Rheoli Pysgodfeydd y Glannau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig

Bydd Aelodau yn ymwybodol bod Mesur y Môr a Mynediad at yr Arfordir nawr yn agosáu at ei gamau olaf drwy’r Senedd ac mae’n ddisgwyliedig y bydd yn derbyn y Cydsyniad Brenhinol yn yr hydref.  Mae’r Mesur yn ddarn o ddeddfwriaeth arwyddocaol i Bysgodfeydd Cymru a’r amgylchedd morol.

 

Bydd y Mesur yn creu Parth Pysgodfeydd Cymru, gan roi cymhwysedd i Weinidogion Cymru yng nghyd-destun pysgodfeydd y tu hwnt i foroedd tiriogaethol Cymru, hyd at Derfynau Pysgodfeydd Prydain, gan sicrhau cydraddoldeb gyda’r Alban a Gogledd Iwerddon.  Bydd hefyd yn caniatáu creu trefn unol ar gyfer rheoli pysgodfeydd a gorfodaeth forol ar draws Cymru.

 

Bydd y darpariaethau yn caniatáu Gweinidogion Cymru i reoli ein hamgylchedd morol a’n diwydiant pysgodfeydd mewn ffordd gynaliadwy ac effeithiol, yn unol â Strategaeth Pysgodfeydd Cymru a’r Cynllun Datblygu Cynaliadwy, Cymru’n Un, Cenedl Un Blaned.

 

Byddwch yn ymwybodol fy mod, fel rhan o’r prosiect i greu trefn newydd ar gyfer rheoli pysgodfeydd a gorfodaeth forol yng Nghymru, rwyf wedi sefydlu Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid.  Mae’r grŵp yma yn cynrychioli rheolwyr  pysgodfeydd, y diwydiant pysgodfeydd, a buddiannau amgylcheddol.  Rwyf wedi gofyn i'r grŵp ddarparu cyngor i’r prosiect a dylunio model ar gyfer cyfraniad lleol a chenedlaethol i reoli pysgodfeydd.

 

Rwyf nawr wedi gwneud ymrwymiad i adrodd yn ôl i’r Cynulliad yn flynyddol ar fy nefnydd o’m swyddogaethau newydd.  Credaf y bydd hyn yn darparu mwy o dryloywder yn y ffordd y byddwn yn rheoli pysgodfeydd ac rwyf wedi gofyn i'r Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid i’m cynghori ymhellach ar gynnwys yr adroddiad.