Ym mis Ionawr 2008, cytunais i gydlynu gwaith gydag Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfrif Cymru (PACC) ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cododd yr ymgyrch nifer o bryderon yn ymwneud â gwasanaethau i blant a phobl ifanc anabl a oedd yn drawsbynciol o ran portffolio Gweinidogion. Ers hynny rwyf wedi parhau i gwrdd â chynrychiolwyr PACC yn rheolaidd. Rwyf hefyd wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl “Hawliau ar Waith i Blant a Phobl Ifanc Anabl,” sy’n cynnwys aelodau’r ymgyrch ac uwch-swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Rhoddais y diweddariad diwethaf ar weithgareddau’r Grŵp Gorchwyl ym mis Ionawr 2009 a bellach, chwe mis yn ddiweddarach, mae’n bleser gennyf adrodd am gynnydd pellach y grŵp a’r gwaith o gyflawni ein hagenda bolisi i blant a phobl ifanc anabl.
Mae darpariaeth i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn allweddol i’n hagenda bolisi ehangach i blant a phobl ifanc anabl ac yn ddiweddar bu datblygiadau cadarnhaol iawn yn y maes hwn. Hoffwn ddechrau drwy ganolbwyntio ar ddwy fenter ym maes darpariaeth anghenion addysgol arbennig: Datgloi Potensial Ysgolion Arbennig a’r Mesur Addysg (Cymru) arfaethedig.
Datgloi Potensial Ysgolion Arbennig
Yn 2006 gwnes £5.1miliwn ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru dros 3 blynedd i sefydlu prosiectau peilot o dan y fenter Datgloi Potensial Ysgolion Arbennig. Fel rhan o’r strategaeth ehangach i godi safonau i grwpiau difreintiedig, nod y rhaglenni peilot cyfatebol hyn oedd hyrwyddo cynhwysiant a datblygu rôl ysgolion arbennig drwy adnabod a lledaenu arfer da a datblygu cysylltiadau ymarferol ag ysgolion prif ffrwd. Bydd hyn yn hyrwyddo’r cyfraniad a wneir gan ysgolion arbennig i system addysg sy’n fwyfwy cynhwysol ac yn helpu i sicrhau, lle bynnag y bo’n bosibl, y caiff anghenion disgyblion eu hateb yn briodol o fewn eu hysgol brif ffrwd leol, gyda mynediad i ddarpariaeth arbenigol o ansawdd uchel lle y bo angen.
Ar ôl trafodaethau â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg yng Nghymru, gofynnwyd am geisiadau gan awdurdodau lleol ar y cyd ag ysgolion arbennig ar gynigion yn ymwneud ag amrediad o arferion allgymorth. Gofynnwyd i awdurdodau lleol ystyried datblygu gwasanaethau o’r math hwn yn rhanbarthol, gan gynyddu felly eu gallu a’u harbenigedd mewn gwahanol feysydd anghenion addysgol arbennig. Cymerodd pob awdurdod ran yn y rhaglen hon, gyda chyfanswm o 34 prosiect yn cael eu peilota.
Daeth y cyllid i’r prosiectau peilot i ben ym mis Mawrth 2009. Roedd hi’n galondid i mi glywed a darllen drwy ohebiaeth oddi wrth budd-ddeiliaid allweddol ledled Cymru am lwyddiant y cynllun hwn. Mae cefnogaeth i’r gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud o ganlyniad i’r cyllid hwn wedi’i lleisio gan athrawon, awdurdodau lleol, cymdeithasau ysgolion, rhieni a, a hyn sydd fwyaf calonogol, disgyblion. Yn ogystal, gofynnwyd i Estyn werthuso’r cynllun ym mis Ebrill 2009 a daethant i’r casgliad i’r peilot ‘Datgloi’r Potensial’ fod yn llwyddiannus iawn, gan nodi bod llawer o enghreifftiau o arfer da a manteision wedi deillio o’r cyllid. Mae’r adroddiad yn awgrymu bod y cyllid wedi codi ymwybyddiaeth o’r arbenigedd sydd mewn ysgolion arbennig a’i fod wedi hyrwyddo cyfnewid sgiliau da rhwng staff ysgolion arbennig a phrif ffrwd. Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu bod llawer o’r prosiectau oedd yn cynnwys gwaith allgymorth gan staff ysgolion arbennig wedi galluogi disgyblion i aros yn eu hysgol brif ffrwd gyda chymorth o ansawdd dda. Mae’r cymorth hwn wedi bod o fudd uniongyrchol i ddisgyblion unigol ac mae hefyd yn cyfrannu i adeiladu cymhwyster staff ysgolion prif ffrwd i wella’r ddarpariaeth i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Gan ystyried adroddiad Estyn ar lwyddiant y rhaglen Datgloi Potensial, rwyf wedi cytuno ar gyllid o £4m i estyn grant Datgloi Potensial am ddwy flynedd academaidd arall o fis Medi 2009.
Mae awdurdodau lleol bellach wedi’u gwahodd i wneud cais am arian i estyn eu darpariaeth Datgloi Potensial Ysgolion Arbennig yn lleol a bydd swyddogion yn cysylltu â’r ymgeiswyr llwyddiannus cyn bo hir.
Mesur Addysg (Cymru) Arfaethedig – Hawl plentyn i wneud apêl AAA a/neu honiad gwahaniaethu ar sail anabledd yn ymwneud ag addysg i Dribiwnlys Anghenion Addysgu Arbennig Cymru
Rydym wedi ymrwymo i’r egwyddor o estyn hawl a chyfranogi plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau allweddol. Mae’r Mesur Addysg (Cymru) arfaethedig yn symud yr egwyddor hon ymlaen drwy roi’r hawl i blant a phobl ifanc sydd ag AAA a/neu anabledd gael apelio neu wneud honiad gwahaniaethu ar sail anabledd i’r Tribiwnlys. Mae’r Mesur arfaethedig yn adeiladu ar Hawliau Plentyn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig a Saith Nod Craidd Llywodraeth y Cynulliad.
Nid yw’r Mesur arfaethedig yn rhoi rhwystrau oedran na chymhwyster ar blant felly bydd gan blant hawliau cyfartal ag oedolion. Yn hynny o beth, bydd y Mesur arfaethedig yn estyn hawliau nad oes mo’u tebyg yn y DU a thu hwnt.
Er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc drwy’r prosesau hyn, mae’r Mesur arfaethedig yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i gynnig mynediad i blant a phobl ifanc i wybodaeth ddiduedd, gwasanaethau datrys anghytundebau ac eirioli annibynnol.
Cymeradwywyd egwyddorion cyffredinol Mesur Addysg (Cymru) arfaethedig mewn sesiwn lawn ar 14 Gorffennaf, fel y gallwn symud yn ein blaenau i’r cam nesaf yn y broses ddeddfwriaethol.
Ar y Trywydd Iawn: Agenda Bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru i Blant a Phobl Ifanc Anabl.
Ym mis Rhagfyr y llynedd, lansion ni “Ar y trywydd iawn”, agenda bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru i blant a phobl ifanc anabl. Am y tro cyntaf cyflwynwyd polisïau i wella cyflenwi gwasanaethau i blant a phobl ifanc anabl o wahanol Bortffolios Gweinidogion mewn un ddogfen. Cafodd yr agenda bolisi hon ei llunio a’i chynhyrchu gan Grŵp Gorchwyl Hawliau ar Waith i Blant a Phobl Ifanc Anabl. Cafodd groeso mawr ac mae’n cynnig fframwaith i’n gwaith i’r dyfodol.
Dewiswyd y teitl “Ar y trywydd iawn” i gydnabod ein bod yn credu, cyn belled ag y mae gwasanaethau i blant a phobl ifanc anabl yn bod, ein bod ar y trywydd cywir ond ein bod yn cydnabod bod peth ffordd i fynd eto. Rydym yn gwrando ac yn dysgu ac rwy’n credu ei bod hi’n hanfodol ein bod ni’n dangos sut rydyn ni’n symud yn ein blaenau.
Yn ganolog i’r gwaith hwn mae barn y bobl ifanc anabl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn. Ym mis Chwefror cyfarfûm â grŵp o bobl ifanc anabl mewn sesiwn holi ac ateb. Codon nhw nifer o faterion diddorol ac wedyn rhoddais ymateb ysgrifenedig i bob un o’r pryderon a gaiff eu cynnwys ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru. Rwy’n credu’n gryf fod gwrando ar bobl ifanc anabl yn hanfodol ac rwyf wedi cytuno i’r sesiwn holi ac ateb hon fod yn ddigwyddiad blynyddol.
Yn sail i’r holl waith hwn mae ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Roedd yr Argymhellion Terfynol o adolygiad cyfnodol pleidiau gwladwriaeth y DU gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ym mis Hydref 2008 (Paragraffau 45a a f, 53a, c-f, 69 a 81), yn amlygu eu pryderon fod plant ag anableddau’n parhau i wynebu rhwystrau o ran mwynhau eu hawliau o dan y Confensiwn (Erthyglau 12, 23, 26, 27 a 31).
Mae’n flaenoriaeth y cytunwyd arni fod Cymru’n gweithio tuag at gael gwared ar wahaniaethu yn erbyn plant a phobl ifanc ag anableddau a gwella’u mynediad i wasanaethau a chymorth. Atgyfnerthir hyn yn y Cynllun Gweithredu i Gymru ar gyfer gweithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn sydd ar y gweill ac y caiff ei lansio yn yr hydref.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cydnabod y manteision economaidd a chymdeithasol a all ddeillio o nam corfforol neu arall ac, fel rhan o’i hymrwymiad i gynhwysiant, mae’n dymuno lleihau’r rhwystrau y mae pobl ifanc a’u teuluoedd yn eu hwynebu o ran cyfranogi’n llawn ym mywyd cymdeithas sifil. Mae’r blaenoriaethau’n cynnwys sicrhau bod teuluoedd yn gwneud defnydd llawn o’r cymhorthdal incwm sydd ar gael a bod gwasanaethau chwarae, hamdden, adloniant, a chyfleoedd i gymryd rhan mewn penderfyniadau a all effeithio arnynt, ar gael yn yr un modd i bobl ifanc sydd ag anableddau ag y maent i blant a phobl ifanc eraill.
Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar i Blant Anabl
Mae mynediad i ofal plant blynyddoedd cynnar i blant anabl wedi bod yn faes pryder arbennig i’r Grŵp Gorchwyl. Y llynedd sefydlwyd is-grŵp o blith budd-ddeiliaid allweddol ledled Cymru, gan gynnwys darparwyr gofal plant, cynrychiolwyr cyrff gwirfoddol a swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cyflwynwyd adroddiad ar y dewisiadau i ddatblygiad yn y dyfodol yn y maes hwn i’r Grŵp Gorchwyl a’r prif swyddogion, ac mae’r gwaith yn y maes hwn ar y gweill. Yn arbennig, bydd y Grŵp Gorchwyl yn ystyried y ddarpariaeth i blant anabl sydd wedi’i chynnwys yn yr adroddiadau digonolrwydd gofal plant a gynhyrchir gan awdurdodau lleol. Bydd y Grŵp Gorchwyl yn defnyddio’r adroddiadau i nodi meysydd arfer da y gall swyddogion eu lledaenu ledled Cymru.
Ariannu cyfleoedd chwarae i blant anabl
Ym mis Hydref 2008, yn rhan o’r setliad cyllideb drafft i 2009/2010, cyhoeddais £250,000 y flwyddyn am dair blynedd ar gyfer cyfleoedd chwarae i blant anabl. Hefyd cyhoeddais y byddai disgwyl i awdurdodau lleol osod £250,000 y flwyddyn ychwanegol o’r neilltu o’r adnoddau a ddyrannwyd eisoes i greu cronfa o £500,000 y flwyddyn.
Rhoddodd y Grŵp Gorchwyl gyngor cynhwysfawr i mi ynglŷn â’r ffordd orau o ddefnyddio’r arian hwn. Wrth fynd â’u hargymhellion yn eu blaenau rwyf wedi cytuno y dylid ei ddefnyddio i gynyddu cyfleoedd chwarae cyn ysgol i blant anabl. Fodd bynnag, lle gall Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc adnabod bylchau ar gyfer darpariaeth chwarae’n lleol i blant anabl mewn grwpiau oedran eraill, ystyrir y rhain yn ogystal. Anfonwyd llythyr at holl Brif Weithredwyr Awdurdodau Lleol, Cyfarwyddwyr Arweiniol i Blant a Phobl Ifanc a Chydlynwyr Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc. Gofynnir i bob Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc lenwi ffurflen barod, i amlinellu sut maen nhw’n bwriadu defnyddio eu cyfran nhw o’r £250,000 o gyllid am y tair blynedd nesaf.
Mae’r cyllid hwn yn galluogi awdurdodau lleol i gyflawni un o’u camau allweddol yn yr NSF Plant sy’n dweud Mae gan blant a phobl ifanc anabl yr un cyfleoedd i gael gwasanaethau hamdden a chwarae, gan gynnwys cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau, clybiau cyn ac ar ôl yr ysgol, gyda chymorth priodol fel bo’r angen.
Y Rhaglen Cefnogi Cynnar yng Nghymru
Yn agos gysylltiedig â diddordeb y Grŵp Gorchwyl mewn Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar i blant anabl mae datblygiad Rhaglen Cefnogi Cynnar i Gymru, ac mae aelodau’r Grŵp Gorchwyl yn weithgar gyda’r prosiect hwn. Yn wir, ar ôl cyfnod o dendro cystadleuol, bu Plant yng Nghymru’n llwyddiannus yn eu cais i arwain y datblygiad cyffrous hwn.
Nod y Rhaglen Cefnogi Cynnar yw sicrhau bod gwasanaethau y mae plant ifanc anabl a’u teuluoedd yn eu defnyddio’n cael eu cydlynu’n well a bydd yn cefnogi teuluoedd drwy roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt ar yr adeg gywir. Bydd hefyd yn darparu ystod eang o ddeunyddiau Cefnogi Cynnar sydd ar gael yn hawdd yn rhad ac am ddim a bydd hefyd, yn allweddol, yn datblygu trefniadau gweithio aml-asiantaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant anabl ifanc a’u teuluoedd. Rydym eisiau sicrhau bod Cefnogi Cynnar yn rhan annatod o arferion gweithio ledled Cymru ac felly, rhwng 2009 a 2011 bydd y gweithredu wedi’i gefnogi gan y canlynol:
Tîm o ymgynghorwyr i roi cymorth a chefnogaeth i bob parti aml-asiantaeth ynghylch gweithredu Cefnogi Cynnar.
Hyfforddiant a datblygu’r gweithlu ar gyfer Cefnogi Cynnar yn gyffredinol ac i weithwyr allweddol yn benodol.
Adnoddau i ddatblygiadau penodol, fel swm bychan o gyllid ychwanegol i ddatblygu arweiniad o ran yr hyn sy’n gweithio i wasanaethau gweithwyr allweddol.
Adnabod meysydd awdurdodau lleol lle mae’r gwaith o integreiddio gwasanaethau i blant anabl ifanc heb ei ddatblygu cystal, lle rhoddir help a chymorth wedi’i dargedu i roi’r dull Cefnogi Cynnar ar waith.
Cymorth ar-lein.
Mae cyllid o £2.2 miliwn wedi’i ddarparu dros y ddwy flynedd nesaf i gyflwyno’r rhaglen drawsbynciol hon. Yn ystod y chwe mis diwethaf, addaswyd deunyddiau i’r cyd-destun Cymreig ac mae’r gwaith cyfieithu’n mynd rhagddo. Mynychodd llawer o bobl dri digwyddiad codi ymwybyddiaeth yng Nghanolbarth, Gogledd a De Cymru ac rydym yn dilyn yr amserlen o ran lansio’r rhaglen yn swyddogol yng Nghaerdydd ar 29 Medi 2009.
Gwaith Allweddol Pontio
Mae plant, pobl ifanc anabl a’u teuluoedd yn aml yn wynebu heriau go iawn wrth gydlynu’r gwasanaethau y maen nhw’n eu defnyddio ac rydym yn cydnabod y gall y broblem hon fod yn arbennig o anodd yn ystod cyfnod pontio’r person ifanc i fod yn oedolyn. Gall bod â gweithiwr allweddol wneud gwahaniaeth go iawn.
Yng Nghymru rydym wrthi’n hybu’r model gweithiwr allweddol yn ddull ataliol, rhagweithiol ac amddiffynnol sy’n ganolog i gefnogi’r agenda bolisi i weddnewid bywydau plant a phobl ifanc anabl. Yn wir, gweithio allweddol/cydlynu gofal yw’r enghraifft arfer gorau o hyd o ran cydlynu gwasanaethau a chymorth i blant a phobl ifanc anabl a’u teuluoedd i gael y canlyniadau gorau posibl, yn seiliedig ar angen.
Yn 2007 cyhoeddais gyllid cychwynnol o £500,000 y flwyddyn am dair blynedd i ddarparu gweithwyr pontio allweddol ychwanegol yng Nghymru i bobl ifanc sydd ag anabledd. Mae gwaith bellach yn digwydd yn y pum ardal beilot: Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion, Sir Penfro a Sir Fynwy.
Rwyf wrth fy modd fod y Rhwydwaith Cydlynu Gofal Dros y DU (CCNUK) yn gweithio gyda ni ac yn cefnogi’r pum safle peilot yn agos, a bellach gydag awdurdodau eraill bellach yn dymuno datblygu eu strwythurau gweithwyr allweddol eu hunain, i fynd â datblygu gwaith allweddol pontio yng Nghymru yn ei flaen.
Yn ddiweddar ymwelodd CCNUK â phob un o’r safleoedd i gasglu gwybodaeth am eu profiadau hyd yma. Maen nhw’n adrodd bod pob un bellach wedi’u staffio’n gydategol a bod y safleoedd hynny sydd â gweithwyr allweddol pontio bellach yn gweithio’n uniongyrchol â phobl ifanc. Mae pob un wedi’i ymrwymo i gyflawni ar y camau meini prawf asesu allweddol y cytunwyd arnynt, gyda rhai eisoes yn cynhyrchu deunydd defnyddiol iawn. Enghreifftiau o hyn yw enghraifft arfer gorau o’r broses recriwtio ar gyfer gweithwyr allweddol pontio, a oedd yn cynnwys pobl ifanc yn cymryd rhan, a hefyd DVD pontio, eto gyda phobl ifanc yn cymryd rhan o’r dechrau i’r diwedd.
Mae’n bleser gennyf adrodd i ni gael cadarnhad ym mis Chwefror 2009 o’n cais llwyddiannus i gael arian cyfatebol yn rhan o gynllun grant Cronfa Gymdeithasol Ewrop ‘Cyrraedd y Nod’. Golyga hyn fod cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer gwaith allweddol pontio wedi mwy na dyblu i dros £3m. Mae trafodaethau pellach ar y gweill ynglŷn â sut caiff y cyllid ychwanegol ei ddyrannu a’i ddosbarthu.
Seibiant Byr i Blant Anabl
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu grant penodol anghylchol o £1.5 miliwn am drydedd flwyddyn i hyrwyddo a gwella gwasanaethau seibiant byr i blant a phobl ifanc anabl a’u teuluoedd yng Nghymru. Gwneir y taliad ar ôl i awdurdodau lleol arwyddo eu bod yn derbyn amodau a thelerau’r grant.
Disgwylir i awdurdodau lleol gydweithio â Phartneriaethau Plant a Phobl Ifanc a chyrff gwirfoddol, ac i gynnwys plant anabl a’u teuluoedd yn y math a’r ystod o wasanaethau seibiant byr a fydd ar gael o dan y grant hwn.
Adolygu Gwasanaethau Cadeiriau Olwyn
Ym mis Mai 2008, comisiynodd fy nghydweithwraig Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus, adolygiad o wasanaethau cadeiriau olwyn ledled Cymru. Diben yr adroddiad fu:
Ymchwilio i’r cyfleoedd i leihau amseroedd aros am asesu a darparu cyfarpar i ddefnyddwyr gwasanaethau cadeiriau olwyn plant ac oedolion;
Adolygu’r prosesau cyfredol yn y gwasanaethau cadeiriau olwyn o ran rheoli rhestrau aros i sicrhau y cânt eu rheoli o fewn canllawiau arfer da cyfredol;
Gwneud argymhellion am ffordd ymlaen a fydd yn arwain at welliant cynaliadwy i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn;
Yn olaf ystyried a oedd angen adolygiad ehangach o’r Gwasanaeth Aelodau Gosod ac Chyfarpar.
Bydd yr adroddiad ar gyfer cam un yr adolygiad yn gwneud argymhellion penodol i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnwys y llwybr cyfeirio ac asesu, polisi rheoli rhestrau aros, staffio gan gynnwys hyfforddi, rôl peirianneg adsefydlu a’r gwasanaeth cynnal a chadw a thrwsio yn ogystal â materion yn ymwneud ag ariannu ac ansawdd y gwasanaeth. Bydd y Gweinidog yn disgwyl derbyn yr adroddiad cyntaf o’r grŵp llywio’n nes ymlaen y mis hwn.
Cyfleusterau Toiled Mannau Newid
Ym mis Rhagfyr 2007, cyhoeddais £225,000 i ddarparu cyfleusterau toiled Mannau Newid. Mae toiledau Mannau Newid yn wahanol i doiledau anabl safonol gyda nodweddion ychwanegol a rhagor o le. Mae pob toiled Mannau Newid wedi’i ddylunio i gynnwys y cyfarpar cywir a lle priodol i gynnig amgylchedd diogel a glân i bobl anabl na all ddefnyddio toiledau hygyrch safonol a’u gofalwyr.
Mae dau gam i’r prosiect hwn. Mae cam un wedi darparu dau gyfleuster Mannau Newid symudol sydd eisoes yn cael eu defnyddio mewn digwyddiadau mawr ledled Cymru (fel yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd y llynedd). Bydd yr ail gam yn galluogi nifer o leoliadau diwylliannol presennol ledled Cymru i osod cyfleusterau Mannau Newid. Ar ôl ymgynghori â budd-ddeiliaid cynigiwyd hyd at chwe safle i doiledau Mannau Newid a chânt eu cyhoeddi cyn hir.
Nid sicrhau bod lleoliadau’n hygyrch a darparu gweithgareddau addas yn unig yw gwella mynediad i ddigwyddiadau hamdden, chwaraeon a diwylliannol i blant, pobl ifanc anabl a’u teuluoedd: mae hefyd yn cynnwys sicrhau bod cyfleusterau priodol ar gael, fel toiledau Mannau Newid.
Hefyd rydym wedi diweddaru polisi cynllunio cenedlaethol yn ddiweddar i annog cynnwys cyfleusterau toiled ‘Mannau Newid’ mewn cynlluniau ar gyfer adeiladau masnachol cyhoeddus a newydd. Dywed Nodyn Cynllunio Technegol 12: Dylunio (NCT12) Mehefin 2009 ym mharagraff 5.3.7 “Anogir y rhai sy’n ceisio caniatâd i godi adeiladau masnachol cyhoeddus a newydd i gynnwys cyfleusterau toiled ‘Mannau Newid’ hygyrch yn eu cynlluniau, yn ychwanegol at doiledau hygyrch safonol. Mae digon o le yn y toiledau hyn i bobl anabl a’u gofalwyr neu gynorthwyydd/wyr personol, ynghyd â’r cyfarpar priodol yn cynnwys mainc newid y gellir addasu ei huchder a theclyn codi”. Dylai awdurdodau lleol ystyried yr arweiniad hwn cyn rhoi caniatâd cynllunio i unrhyw adeiladau masnachol cyhoeddus a newydd a dylai hyn gynyddu’r ddarpariaeth i’r cyfleusterau hyn y mae eu hangen yn fawr.
Cynllun Cydraddoldeb Sengl
Rydym eisiau sicrhau bod pobl ifanc anabl yn cael eu trin â pharch ac yn hynny o beth cawn ein cefnogi gan ddatblygiad Cynllun Cydraddoldeb Sengl Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y cynllun sengl hwn yn cwmpasu’r cynlluniau presennol ar gyfer anabledd, rhyw a hil ac yn adeiladu arnynt drwy roi sylw hefyd i oedran, crefydd, cred a chyfeiriadedd rhywiol. Mae bellach yn ei le a bydd yn rhedeg tan 31 Mawrth 2012. Byddwn yn monitro ac yn cyhoeddi’r cynnydd a wneir bob chwe mis.
Cynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASD)
Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru bellach wedi nodi swyddog arweiniol ar gyfer ASD. Golyga hyn fod person amlwg ar lefel leol i deuluoedd plant sydd ag ASD.
Nodwyd £1.8m ar gyfer 2009-10 i ddatblygu a gweithredu camau allweddol o fewn y Strategaeth. O ganlyniad i’r Cynlluniau Gweithredu ASD lleol a gyflwynwyd gan bob awdurdod, a’r argymhellion gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Oedolion, mae’r diagnosis a’r cymorth yn union wedi’r diagnosis i blant ac oedolion sydd ag ASD yn cael ei werthuso ar hyn o bryd.
Mae cyhoeddi Safonau Ansawdd mewn Addysg i ddisgyblion sydd ag ASD yn gam gweithredu allweddol o fewn y strategaeth ac mae trafodaethau pellach wedi digwydd ag Awtistiaeth Cymru i ddiweddaru’r dogfennau drafft gwreiddiol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r cynllun ASD ei hun.
Mae ystod o becynnau codi ymwybyddiaeth o ASD yn cael eu datblygu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gan dargedu ymarferwyr y rheng flaen ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, ond hefyd y rhai sy’n cynnig gwasanaethau’r stryd fawr, fel deintyddion, optegwyr ac ati. Bydd y deunyddiau hyn ar gael i’r grwpiau proffesiynol hyn dros y flwyddyn nesaf drwy wefan gwybodaeth awtistiaeth gyhoeddus newydd o’r enw ‘Materion ASD’ sy’n cael ei sefydlu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth Iechyd Cymru.
Ymgyrch Ymwybyddiaeth o Fudd-daliadau
Ym mis Hydref 2008, ymrwymodd fy nghydweithiwr Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, swm o £500,000 dros 2 flynedd i godi ymwybyddiaeth o’r budd-daliadau y gallai fod gan rieni a gofalwyr plant sydd ag anableddau hawl iddynt.
Bellach gofynnwyd i Cyngor ar Bopeth Cymru gyflwyno’r ymgyrch fel peilot am 2009-10 a 2010-11 i gynyddu’r budd-daliadau sy’n cael eu cymryd yn rhan o’r fenter lwyddiannus bresennol Cyngor Da Iechyd Da. Mae’r fenter hon, sydd ar waith ym mhob un o’r 22 ardal awdurdod lleol, yn rhoi darpariaeth leol wedi’i chydlynu i gynnig cyngor cyffredinol a lles gan Ganolfannau Cyngor ar Bopeth mewn cydweithrediad â thimau iechyd sylfaenol. Bydd Cyngor ar Bopeth Cymru’n gweithio’n agos gyda mentrau a chyrff anabledd eraill ledled Cymru i sicrhau bod teuluoedd sydd â phlant anabl yn cael cyngor arbenigol priodol. Wrth gwrs, bydd sefydlu systemau atgyfeirio cadarn yn allweddol i hyn ac atgyfeirir cleientiaid i’r peilot mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys:
Atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu, Ymwelwyr Iechyd a Gweithwyr Cymdeithasol
Hunanatgyfeiriadau gan gleientiaid sy’n gweld y gwasanaeth wedi’i hysbysebu yn eu meddygfa leol
Atgyfeiriadau gan yr Awdurdod Addysg Lleol
Atgyfeiriadau gan Ysgolion Arbennig, Canolfannau Plant Integredig, Canolfannau Teulu, Partneriaethau Aml-asiantaeth, ee Cychwyn Cadarn, Dechrau’n Deg, Byrddau Lleol Diogelu Plant.
Atgyfeiriadau gan gyrff gofalwyr a grwpiau anabledd eraill, ee Anabledd Cymru, Macmillan, SNAP Cymru.
Hyrwyddir y prosiect ar lefel leol a chenedlaethol gyda budd-ddeiliaid a chyrff newydd a phresennol sy’n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sydd ag anableddau. Bydd Cyngor ar Bopeth Cymru’n cynhyrchu deunydd cyhoeddusrwydd priodol am yr ymgyrch, hawliau budd-daliadau a’r gwasanaethau y gall Canolfannau eu cynnig yng Nghymru. Hefyd bydd hyn yn ffordd effeithiol o dynnu sylw rhieni a gofalwyr at hawliau posibl eu plentyn. Yr hyn sy’n bwysig yw y bydd gwerthusiad allanol llawn o’r peilot dwy flynedd, y bydd ei ganlyniadau’n cyfoethogi’r ffordd y cyflwynir y cynllun yn y dyfodol.
Casgliad
Gan edrych ymlaen at y dyfodol, mae aelodau’r Grŵp Gorchwyl wedi cytuno i ddatblygu cynllun gwaith a fydd yn sicrhau bod ei waith yn cysylltu â gweithgareddau allweddol a pholisïau cenedlaethol. Er enghraifft, adolygir y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth cyn hir a bydd gan y Grŵp Gorchwyl ddiddordeb mawr mewn safonau’n ymwneud â phlant a phobl ifanc anabl, gan nodi meysydd o gryfderau a gwendidau.
Mae ein hymrwymiad i wella gwasanaethau i blant a phobl ifanc anabl yng Nghymru’n parhau a byddwn hefyd yn dal i weithio’n agos gydag ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru (PACC) i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant, pobl ifanc anabl a’u teuluoedd.