Ar 18 Mehefin cyhoeddwyd Amcanestyniadau Hinsawdd y DU 2009 (UKCP09), a luniwyd gan Ganolfan Hadley’r Swyddfa Dywydd. Roedd yr Amcanestyniadau yn nodi’r effeithiau y gallwn eu disgwyl yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Maent yn dangos y byddwn, yn y blynyddoedd i ddod, yn gweld hafau poethach sychach, gaeafau mwynach gwlypach, mwy o stormydd a glaw trwm, risg uwch o lifogydd a chynnydd yn lefel y môr.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais y Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd: Ymgynghoriad ar y Rhaglen Weithredu. Mae’n esbonio’r camau rydym yn bwriadu eu cymryd i sicrhau toriadau o 3 y cant yn ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr mewn ardaloedd datganoledig erbyn 2011 a fframwaith ar gyfer addasu i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd na allwn eu hosgoi.
Mae cynyddu ein gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn rhan allweddol o hyn. Fe wnawn hyn drwy wneud pobl yn ymwybodol o’r effeithiau a’u helpu i wneud penderfyniadau a fydd yn cynyddu ein gallu i’w gwrthsefyll a lleihau ein peryglon.
Rydym yn gwybod mai un o’r risgiau allweddol rydym yn eu hwynebu yw cynnydd yn nifer yr achosion o lifogydd ledled Cymru, pa mor aml y maent yn digwydd a’u difrifoldeb. Ddechrau Mehefin, gwelwyd cyfres o achosion o lifogydd lleol ledled Cymru. Rwy’n gwybod o siarad â phobl yr effeithiwyd yn uniongyrchol arnynt mor andwyol y gall llifogydd fod a chyn lleied o amser sydd gan bobl yn aml i baratoi am ddigwyddiad o’r fath.
Heddiw bydd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn cyhoeddi ei hadroddiad ar lifogydd yng Nghymru - asesiad cenedlaethol o’r perygl llifogydd. Mae’r adroddiad hwnnw yn rhoi cipolwg inni ar y perygl o lifogydd ledled Cymru ar hyn o bryd, gan ddangos pa mor agored iddo y mae ein cymunedau. Bydd yn cadarnhau nifer yr eiddo sydd mewn perygl o lifogydd o’r afon a’r arfordir ledled Cymru. Mae llawer o’r rhain yn agored i beryglon sylweddol gyda llawer mwy yn agored i lifogydd dŵr wyneb a mathau eraill o lifogydd.
Mae hyn yn ategu’r hyn rydym wedi bod yn ei ddweud ers peth amser bellach. Ni fydd dulliau traddodiadol o fynd i’r afael â llifogydd ac erydu arfordirol yn ddigon yn y dyfodol. Waeth pa mor uchel yw ein hamddiffynfeydd neu gapasiti ein systemau draenio, bydd digwyddiadau eithafol yn creu problemau fydd y tu hwnt i’w gallu i ddelio â nhw. Mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i’r afael â’r peryglon rydym yn eu hwynebu, gan symud i ddull rheoli risg fel yr amlinellir gyda’n Rhaglen Dulliau Newydd ac a argymhellir gan Adolygiad Pitt o lifogydd haf 2007 yn Lloegr.
Roedd Adolygiad Pitt yn tynnu sylw at:
- yr angen i fod yn glir ynghylch rolau a chyfrifoldebau
- bygythiad llifogydd dŵr wyneb i’n cymunedau trefol
- pa mor agored yw ein seilwaith i lifogydd
- yr angen am waith partneriaeth a rhannu gwybodaeth
- yr angen i randdeiliaid ymgysylltu â’r cymunedau sy’n wynebu perygl llifogydd.
Gwelwyd dryswch ynghylch rolau a chyfrifoldebau’r awdurdodau gweithredu o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ers peth amser bellach. Yn achos rhai ffynonellau llifogydd, fel afonydd, mae sawl awdurdod gweithredu sydd â chyfrifoldebau gwahanol. Yn achos ffynonellau llifogydd eraill, fel dŵr wyneb, nid oes gan unrhyw gorff gyfrifoldebau penodol. Mae angen cau’r bylchau hyn yn y ddeddfwriaeth a chreu llinellau cyfrifoldeb clir. Mae hyn yn ganolog i’r darpariaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol a nodir yn y Mesur Rheoli Llifogydd a Dŵr drafft.
O fewn yr ymgynghoriad ar y Mesur drafft, rwyf wedi cynnig y dylai Asiantaeth yr Amgylchedd ymgymryd â rôl oruchwylio fwy sylweddol o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Bydd yn parhau i fod yn weithredol gyfrifol am reoli’r holl lifogydd o’r prif afonydd a’r môr. Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol mewn ffordd debyg am reoli pob mater llifogydd lleol. Er mwyn i hyn weithio’n effeithiol, rhaid i bob awdurdod gweithredu gydweithio mewn achos o lifogydd, gan rannu adnoddau ac arbenigedd. Mae’n amlwg bod cysylltiadau gwaith llawer agosach wedi datblygu rhwng cyrff cyflenwi yn y maes hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac rwy’n croesawu’r datblygiad hwn yn fawr. Fy mhrofiad i mewn llifogydd diweddar yw bod rhywfaint o ddryswch yn parhau ynghylch pwy y dylai pobl gysylltu â nhw os daw llifogydd ar eu traws. Rwy’n awyddus i gael gwared â’r dryswch hwn.
Un opsiwn i gyflawni hyn yw i awdurdodau lleol fod yn gyfrifol am ddelio â phob ymholiad ar achosion o lifogydd yn eu hardaloedd nhw, ac am gydgysylltu’r ymateb gan yr awdurdodau perthnasol; dim ond cysylltu â’r awdurdod lleol fyddai angen i’r cyhoedd ei wneud wedyn i gael esboniad manwl o’r sefyllfa. Rydym yn ymgynghori ynghylch hyn fel rhan o’r Mesur Rheoli Llifogydd a Dŵr drafft a byddwn yn croesawu barn pobl ar sut gallwn fynd i’r afael â hyn a sut gallwn ddatblygu system rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol sy’n briodol i Gymru.
Rhaid i’r system honno gydnabod bod y math o lifogydd rydym yn ei brofi yn newid, gyda phroblemau cynyddol o lifogydd dŵr wyneb yn sgil glaw trwm iawn sy’n creu problemau na all systemau draenio trefi ddelio â hwy ar hyn o bryd. Roedd ffocws cryf yn Adolygiad Pitt ar berygl llifogydd dŵr wyneb a’r camau y mae angen eu cymryd i fynd i’r afael ag ef.
Bydd deddfwriaeth newydd yn helpu i fynd i’r afael â’r problemau hyn, ond cyn y ddeddfwriaeth honno rydym yn cymryd camau i sicrhau bod llifogydd dŵr wyneb yn cael eu rheoli’n effeithiol yng Nghymru. Drwy ein prosiectau peilot yn y Barri, Prestatyn a Phwllheli rydym yn dysgu gwersi pwysig am reoli perygl llifogydd dŵr wyneb yn effeithiol a fydd yn llywio ymatebion polisi. Ym mhob achos, rydym yn ymgysylltu’n uniongyrchol â’r cymunedau yr effeithir arnynt wrth ddeall a rheoli’r perygl hwnnw’n fwy effeithiol.
Byddwn hefyd yn edrych ar fater palmantu dreifiau sy’n gwaethygu ein problemau llifogydd dŵr wyneb. Rwy’n bwriadu cynnwys y mater hwn mewn papur ymgynghori ehangach ar reoli datblygu a hawliau datblygu a ganiateir.
Rydym hefyd yn datblygu mapiau sy’n dangos lle mae problemau llifogydd dŵr wyneb yn codi a lle gallent godi. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei rhannu â Fforymau Lleol Cymru Gydnerth a chaiff ei defnyddio i wella’r cynlluniau brys sydd ganddynt ar hyn o bryd.
Mae cynllunio brys o’r fath yn hanfodol er mwyn ein galluogi i ymateb yn effeithiol i lifogydd yn y dyfodol. Mae Grŵp Llifogydd Cymru yn gweithio ar ddatblygu Fframwaith Ymateb i Lifogydd Cymru sy’n targedu llywodraeth ar bob lefel a phartneriaid ymateb brys sy’n gysylltiedig â chynllunio brys. Bydd y Fframwaith yn nodi’r strwythurau a’r trefniadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol presennol i ddelio ag achos o lifogydd a bydd hefyd yn disgrifio’r gwelliannau arfaethedig. Sicrhau bod trefniadau ymateb effeithiol yn eu lle oedd un o negeseuon allweddol Adolygiad Pitt a bydd datblygu fframwaith llifogydd yn helpu i sicrhau bod ein hymateb i lifogydd wedi’i gydlynu.
Mae cynllunio brys hefyd yn allweddol i sicrhau bod ein gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys ein seilwaith ynni, dŵr, cyfathrebu a thrafnidiaeth yn cael eu diogelu. Gwnaeth Adolygiad Pitt argymhellion gyda’r nod o gynyddu gallu ein seilwaith i wrthsefyll llifogydd ac, ar 24 Mehefin 2009, cyhoeddodd y Sefydliad Peirianwyr Sifil ei adroddiad ‘State of the Nation: Defending Critical Infrastructure’ a oedd yn tynnu sylw at lifogydd fel risg benodol i seilwaith yng Nghymru.
Mae cynnydd yn digwydd yn y meysydd hyn. Grŵp Cyfleustodau Cymru sy’n darparu’r fforwm i Lywodraeth y Cynulliad, awdurdodau gweithredu a darparwyr cyfleustodau yng Nghymru rannu gwybodaeth a sicrhau y cyd-ddatblygir y gallu i wrthsefyll llifogydd ar safleoedd allweddol. Rhaid bod gennym hefyd ddull gweithredu cydgysylltiedig ar draws y DU i wneud ein seilwaith yn fwy abl i wrthsefyll effeithiau llifogydd ac rydym yn cydweithio’n agos â Swyddfa’r Cabinet i ddatblygu Argymhellion Pitt ar hyn.
Ymhellach, rwy’n cydnabod y gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud gan ein gwasanaethau brys a’n sefydliadau partner i ymateb i lifogydd. Rwyf am sicrhau bod ein hymatebwyr yn cael y cymorth angenrheidiol i wneud eu gwaith yn effeithiol ac yn ddiogel. Rwyf felly wedi rhoi’r dasg i Grŵp Llifogydd Cymru i gefnogi’r prosiectau i wella gweithdrefnau achub rhag llifogydd a arweinir gan Defra a Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru i sicrhau cymaint o fudd â phosibl o ran ein trefniadau ymateb yng Nghymru.
Yn ogystal â’r gwaith ar gynllunio ac ymateb brys, rydym hefyd yn gweithio ar wella ein dealltwriaeth o’r gwaith cynllunio ar gyfer peryglon llifogydd a’u rheoli nawr ac yn y dyfodol. Rydym hefyd yn ceisio datblygu’r trefniadau hynny. Er mwyn cyflawni hyn, rwy’n ariannu’r gwaith o baratoi rhaglen o Gynlluniau Reoli Llifogydd Dalgylch a Chynlluniau Rheoli Traethlin ledled Cymru. Bydd y cynlluniau strategol hyn yn nodi polisïau rheoli risg cynaliadwy ar gyfer pob rhan o’n harfordir ac ar gyfer pob dalgylch nawr ac yn y dyfodol hyd y ganrif nesaf. Bydd y cynlluniau strategol hyn yn llywio sut rydym yn addasu i beryglon llifogydd ac erydu arfodirol cynyddol yn sgil y newid yn yr hinsawdd.
Yn gysylltiedig â hyn, byddaf yn cyhoeddi cyn hir Fapiau Cyngor Datblygu wedi’u diweddaru i ddisodli’r rhai sydd eisoes yn rhan o TAN 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd. Bydd y mapiau wedi’u diweddaru yn sicrhau bod y gwaith o gynllunio datblygiadau newydd yn seiliedig ar ein dealltwriaeth ddiweddaraf o beryglon llifogydd afonydd ac arfordirol sy’n wynebu ein cymunedau.
Un o’r prif ganlyniadau yng nghynllun gweithredu’r Strategaeth Amgylcheddol yw sicrhau bod y rhai sydd mewn perygl o lifogydd yn ymwybodol o’r risg, ei chanlyniadau a’r camau y mae angen iddynt eu cymryd i fynd i’r afael â’r peth. Rwyf wedi rhoi’r dasg i Grŵp Llifogydd Cymru i gydweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i ddatblygu menter sy’n ymchwilio i ddulliau o sicrhau bod y neges codi ymwybyddiaeth yn cyrraedd ein cymunedau sydd mewn perygl.
Mae’r cyllid ychwanegol a gyhoeddais ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd ym mis Rhagfyr 2008 wedi’i ddefnyddio’n gall ac roedd nifer y bobl a gofrestrwyd ar ei gwasanaeth rhybudd ffôn wedi cynyddu i 47,000 erbyn Mawrth 2009.
Ym mis Chwefror 2009, gwellwyd y gwasanaeth drwy gyflwyno cofrestru ar-lein o wefan Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae’r sawl a gofrestrir i’r gwasanaeth yn derbyn rhybuddion yn rhad ac am ddim ynghylch llifogydd afonydd ac arfordirol gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac yn gallu dewis eu derbyn dros y ffôn, ffôn symudol, e-bost, neges destun SMS neu ffacs.
Ym mis Ebrill eleni, es i lansiad y Ganolfan Rhagolygon Llifogydd newydd, sydd am y tro cyntaf yn cyfuno arbenigedd Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Swyddfa Dywydd mewn un lle. Wrth gefnogi’r Ganolfan hon, rydym yn sicrhau y bydd pobl Cymru yn derbyn rhagolygon gwell ynghylch llifogydd yn y dyfodol a fydd yn ei gwneud yn bosibl rhoi rhybuddion amserol a chywir. Bydd rhybuddion gwell yn sicrhau y gall y gwasanaethau brys wneud trefniadau cynnar i ymateb a fydd yn lliehau’r perygl i fywyd sy’n gallu dod yn sgil llifogydd. Mae’r Ganolfan hefyd ar flaen y gad o ran ymchwil a datblygu rhagolygon a modelu llifogydd, gan sicrhau y bydd y gwelliannau yn parhau.
Mae’r holl waith hwn yn hollbwysig i baratoi ar gyfer llifogydd a’u gwrthsefyll. Mae’n amlwg na allwn fynd i’r afael â’r peryglon hyn ar ein pennau ein hunain. Mae ein partneriaid yn hanfodol i gyflwyno system rheoli risg yn llwyddiannus ac rydym yn cydweithio’n agos â nifer o sefydliadau o bob rhan o Gymru a’r DU.
Mae rôlau hanfodol i awdurdodau lleol, gwasanaethau brys ac Asiantaeth yr Amgylchedd, ond rwy’n awyddus hefyd i gydweithio’n agosach â’r Trydydd Sector ac â grwpiau sy’n gweithio’n benodol i gefnogi pobl sy’n dioddef yn sgil llifogydd.
Yn ddiweddar, cyfarfûm â Phrif Weithredwr y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i drafod eu rôl o gefnogi a helpu cymunedau yng Nghymru y mae llifogydd wedi effeithio arnynt. Rwy’n ystyried y sefydliad yn allweddol gan roi cymorth uniongyrchol i gymunedau sydd mewn perygl yng Nghymru ac mae wedi cytuno i fod yn rhan o Astudiaeth Beilot newydd a sefydlir i ddysgu’r gwersi o’r llifogydd diweddar yng Nghymru.
Mae mynediad i gronfeydd i atgyweirio ac adfer eiddo sydd wedi’i niweidio yn allweddol ar ôl llifogydd. Yn ystod llifogydd haf 2007, chwaraeodd y diwydiant yswiriant rôl bwysig wrth helpu’r cymunedau i ddod dros eu colled.
Mae’n bwysig bod yswiriant llifogydd yn parhau’n fforddiadwy a’i fod mor hawdd ei gael â phosibl fel bod perchnogion tai a busnesau bach yn parhau i allu eu gwarchod eu hunain rhag cost ariannol llifogydd. Heddiw rwy’n falch o allu cyhoeddi Datganiad Egwyddorion newydd rhwng Llywodraeth y Cynulliad a Chymdeithas Yswirwyr Prydain. Cytundeb yw hwn i Lywodraeth y Cynulliad ymrwymo i’r camau i leihau perygl llifogydd er mwyn i yswirwyr ymrwymo i barhau i ddarparu yswiriant i’r mwyafrif o gartrefi a busnesau sydd mewn perygl rhag llifogydd o dan amodau penodol.
Mae parhau i gynnig yswiriant yn hollbwysig i lawer, gan y gwyddom o brofiad mai ein cymunedau tlotaf, yn aml, yw’r ardaloedd yr effeithir fwyaf arnynt yn sgil llifogydd. Mae camau i hyrwyddo yswiriant cyffredinol ymhlith cartrefi incwm lefel isel eisoes yn cael eu cymryd gan Lywodraeth y Cynulliad drwy Gartrefi Cymunedol Cymru, y Sefydliad Tai Siartredig a thrwy ein Strategaeth Cynhwysiant Ariannol.
Yn ganolog i’r gwaith hwn mae arian. Yn gynharach eleni, roeddwn yn falch o gyhoeddi ein bod wedi sicrhau £30 miliwn o arian cronfeydd cydgyfeirio Ewropeaidd i fuddsoddi mewn gwaith i reoli perygl llifogydd ac arfordirol yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd. Caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio i hyrwyddo cynllun grantiau i gefnogi awdurdodau gweithredu i ddatblygu cynlluniau rheoli perygl llifogydd.
Hyd yn hyn, rydym wedi cadarnhau arian i’r deuddeg cynllun cyntaf elwa o’r arian newydd hwn, gan gynnwys ardaloedd risg uchel fel Tywyn, Conwy, Borth a Rhydyfelin. Disgwylir cymeradwyaeth bellach yn nes ymlaen yn y rhaglen. Bydd y cronfeydd yn cefnogi’r gwaith o adeiladu amddiffynfeydd llifogydd a ffyrdd eraill o leihau risg megis codi ymwybyddiaeth yn y cymunedau yr effeithir arnynt a meithrin eu gallu i wrthsefyll llifogydd er mwyn eu galluogi i adfer eu cymunedau’n gyflymach. Rwy’n arbennig o falch ynghylch y dull partneriaeth o fynd i’r afael â’r materion hyn ac rwy’n cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud gan awdurdodau lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Dŵr Cymru i ddatblygu’r cynlluniau hyn.
Mae arian sylweddol wedi’i ryddhau, sef arian cyfatebol ar gyfer y rhaglen waith hon, gan gynnwys cyfraniad £8 miliwn o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol Llywodraeth y Cynulliad, sy’n tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i fynd i’r afael â’r perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Rydym wrthi’n trafod ymhellach gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ynghylch ceisiadau posibl am arian ychwanegol ar ben yr arian sydd eisoes wedi’i addo.
I sicrhau ein bod yn buddsoddi’r arian sydd ar gael mewn ffordd ddoeth, rwyf wedi gofyn i Asiantaeth yr Amgylchedd ddatblygu Straegaeth Buddsoddi Hirdymor i Gymru. Bydd hyn yn gwneud ein dull o fuddsoddi yn fwy sicr a gweladwy, gan ein helpu i gynllunio ymateb effeithiol i effaith debygol y newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys tywydd eithafol. Bydd yn sicrhau defnydd mwy effeithlon o adnoddau er mwyn cyflawni’n effeithiol dros y tymor hwy. Bydd y strategaeth yn ei lle erbyn hydref 2009.
Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gwneud defnydd o amrywiaeth eang o fesurau ymyrryd i ategu amddiffynfeydd cadarn ar ein hafonydd a’n harfordir, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth o’r perygl o lifogydd ymhlith ein cymunedau sy’n agored i hyn a chynyddu eu gallu i wrthsefyll llifogydd. Mae cryn waith ar y gweill eisoes, a mwy i’w wneud os ydym i ddatblygu system rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol sy’n briodol i anghenion Cymru a chymunedau Cymru.