Skip to content

Ysgrifenedig - Treillio am Gregyn Bylchog ym Mae Ceredigion

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig

Ym mis Chwefror eleni, yn sgil pryderon cynyddol am dreillio am gregyn bylchog ym Mae Ceredigion, gwnes ddatganiad yn esbonio fy mod wedi gofyn i fy swyddogion weithio gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru, Ffederasiwn Cymdeithasau Pysgotwyr Cymru a rheolwyr pysgodfeydd eraill i adolygu’r trefniadau rheoli presennol ar gyfer y bysgodfa cregyn bylchog. Mae canfyddiadau’r Grŵp bellach wedi eu cyflwyno imi a bydd fy swyddogion yn awr yn cwrdd â’r rhanddeiliaid ym mis Gorffennaf i ymgynghori yn anffurfiol cyn cyhoeddi ymgynghoriad ffurfiol dros yr Haf ynghylch pecyn o fesurau a fydd, gobeithio, yn barod erbyn y tymor nesaf. Byddant hefyd yn ymgynghori ar drefniadau rheoli’r bysgodfa cregyn bylchog yn y tymor hwy.

 

Rwy’n dymuno gweld pysgota cregyn bylchog yn cael ei symud ymlaen mewn modd a fydd yn hyrwyddo pysgodfeydd cynaliadwy yng Nghymru.