Skip to content

Ysgrifenedig - Cynllun Peilot Grantiau i Brynwyr am y Tro Cyntaf mewn Ardaloedd Adnewyddu a Hanner Ffordd i Sicrhau 6,500 o Dai Fforddiadwy

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai

 

Rwy’n falch o gyhoeddi heddiw, ar ail benblwydd cytundeb Cymru’n Un, ein bod disgwyl i ni sicrhau 6,500 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

 

Gall Llywodraeth Cynulliad Cymru ddangos yn glir ei chefnogaeth barhaus i ddatblygu tai cymdeithasol yn effeithiol, gan helpu i fynd i’r afael â’r angen am dai ledled Cymru.

 

Mae’r ffigurau cynnar yn awgrymu bod cymdeithasau tai wedi darparu 3,252 o dai dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn yn seiliedig ar ffigurau annibynnol gan Uned Ymchwil Economi Cymru (WERU).

 

Yn 2007-08, darparwyr 1,533 o dai fforddiadwy yn ôl Uned Ymchwil Economi Cymru (WERU). Mae ffigurau cychwynnol WERU yn awgrymu y darparwyd 1,700 yn ychwanegol yn 2008-09. Nid yw’r ffigurau hyn wedi’u cymeradwyo’n derfynol ac efallai y byddant yn newid. Bydd casgliad data Llywodraeth Cynulliad Cymru ar dai fforddiadwy, a gyflwynwyd ym mis Ebrill eleni, yn rhoi dadansoddiad cywir a manwl o’r ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru. Bydd hyn ar gael yn hydref 2009.

 

Mae hyn yn llwyddiant nodedig o ystyried yr amgylchiadau economaidd presennol, ac mae’n dangos ymrwymiad gan y Llywodraeth i gyrraedd targedau y cytunwyd arnynt drwy roi mwy o arian ar gyfer tai. Mae hefyd yn dangos llwyddiant amlwg gan Gymdeithasau Tai o ran ymrwymo’u hadnoddau eu hunain ar adeg lle mae benthyg yn ddrud ac yn anodd ei sicrhau.

 

Rwy’n falch hefyd o gyhoeddi heddiw estyniad i’r Cynllun Peilot Prynwyr am y Tro Cyntaf mewn Ardaloedd Adnewyddu.

 

Fel y bydd yr Aelodau’n gwybod, mae cynnig grantiau i brynwyr am y tro cyntaf hefyd yn un o ymrwymiadau Cymru’n Un. Cyflwynwyd cynllun peilot yn 2008-09 i dargedu grantiau i wella effeithlonrwydd ynni at brynwyr am y tro cyntaf mewn ardaloedd adnewyddu tai yn yr awdurdodau lleol hynny lle’r oedd y gymhareb incwm i bris tai yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru.

 

Dewiswyd Ardaloedd Adnewyddu fel yr ardaloedd i’w targedu oherwydd iddynt fod yn llwyddiannus iawn yng Nghymru, ers eu sefydlu ar ddechrau’r 1990au, o ran sicrhau adfywio tai cynaliadwy. Mae buddsoddiad mewn cynlluniau adfywio fesul ardal yn sicrhau gwelliannau i’r tai eu hunain, a hefyd yn cael effeithiau cymdeithasol-economaidd ac amgylcheddol er mwyn adfer hyder yn yr ardal.

 

Ym mlwyddyn gyntaf y cynllun peilot (2008-09), dyrannwyd £500,000 o gyllid Llywodraeth y Cynulliad i 9 awdurdod lleol cymwys, sef: Caerdydd; Ceredigion; Conwy; Sir Ddinbych; Gwynedd; Sir Benfro; Powys; Bro Morgannwg a Wrecsam.

 

Ar gyfer ail flwyddyn y peilot (2009-2010), mae’r cynllun yn cael ei ymestyn i bob ardal adnewyddu yng Nghymru, gyda £500,000 ychwanegol yn cael ei ddyrannu i 10 lleol, sef: Pen-y-bont ar Ogwr; Caerdydd; Caerffili; Sir Gaerfyrddin; Merthyr Tudful; Castell-nedd Port Talbot; Rhondda Cynon Taf; Abertawe; Tor-faen; Wrecsam