Skip to content

Ysgrifenedig - Addysg yn Sir Ddinbych

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Y Gweinidog Dros Blant, Addysg, Dysgu Gydal Oes a Sgiliau

Ym mis Mawrth 2009, cyhoeddais ddatganiad yn rhoi'r diweddaraf i'r Aelodau ar sefyllfa addysg yn Sir Ddinbych, a fy mhenderfyniad i estyn oes Bwrdd Annibynnol Adfer Addysg Sir Ddinbych am 12 mis arall.

 

Rhwng 16 Mawrth a 27 Mawrth 2009, cynhaliodd Estyn ailarolygiad llawn o Awdurdod Sir Ddinbych, gan gynnwys eu Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid. Gan fy mod bellach wedi derbyn adroddiad Estyn, rwyf mewn sefyllfa i roi'r diweddaraf i'r Aelodau ar gynnwys yr adroddiad hwnnw. Mae'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan Estyn heddiw (30 Mehefin).

 

Yn gyffredinol, mae Estyn yn nodi bod y cynnydd a chyflymdra'r gwelliant yng ngwasanaeth addysg Sir Ddinbych yn dda. Mewn rhai achosion, mae'r gwelliant hwn o sylfaen isel iawn. Mae'n amlwg bod addysg

yn flaenoriaeth uchel i'r awdurdod bellach. Cymerwyd penderfyniadau anodd er mwyn gwneud yn siŵr bod llwyfan cadarn ar gyfer sicrhau mwy o welliannau. Mae'r arweiniad ar lefel gwleidyddion a swyddogion uwch yn fwy effeithiol. Hefyd, mae enghreifftiau o arweiniad da, ac weithiau da iawn, ymysg timau gwasanaeth. O ganlyniad, mae gan y gwasanaethau addysg nifer o nodweddion canmoladwy. Serch hynny, mae'r awdurdod yn dal i wynebu heriau sylweddol. Yn eu plith mae: 

  • codi safonau mewn ysgolion, yn enwedig yng Nghyfnod Allweddol 4; 
  • sefydlu systemau cynllunio a rheoli perfformiad; 
  • moderneiddio adeiladau ysgolion; a 
  • gwella ansawdd y gwasanaethau cymorth i ysgolion.  

Mae'r gwasanaeth gwella ysgolion wedi gwneud cynnydd da yn sefydlu systemau i fynd i'r afael â'r materion y tynnwyd sylw atynt yn yr arolygiad diwethaf. Serch hynny, nid yw'r systemau hyn eto wedi cael digon o effaith ar y duedd o danberfformio. Yng Nghyfnod Allweddol 4, Sir Ddinbych yw un o'r awdurdodau sy'n perfformio waethaf o hyd ledled Cymru, yn ôl y rhan fwyaf o ddangosyddion. Mae hwn yn ddiffyg o bwys. Yn ogystal â hyn, mae perfformiad ysgolion uwchradd yng Nghyfnod Allweddol 3 islaw'r cyfartaledd ar gyfer Cymru. Mae perfformiad cyffredinol ysgolion cynradd yn Sir Ddinbych wedi gwella ers 2006. Mae canran y disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2 sy'n bodloni'r Dangosydd Pynciau Craidd bellach uwchlaw'r cyfartaledd ar gyfer Cymru.

 

Mae nifer o ddiffygion yn parhau yn y modd y mae Sir Ddinbych yn sicrhau gwasanaethau cymorth effeithiol ar gyfer ei hysgolion. Mae'r awdurdod wedi darparu rhy ychydig o gymorth i ysgolion i'w helpu i wneud penderfyniadau doeth wrth brynu gwasanaethau cymorth. Mae'r gwasanaethau y mae'r awdurdod yn eu darparu i ysgolion hefyd wedi bod yn araf i ddatblygu dull gweithredu sy'n galluogi ysgolion i weithio'n rhagweithiol gyda'r awdurdod i ddiwallu eu hanghenion ac ymateb i'r heriau sydd o'u blaen. Mae'r rhain hefyd yn ddiffygion o bwys.

 

Pan arolygodd Estyn wasanaethau Cymorth Ieuenctid Sir Ddinbych yn 2006, daethant o hyd i ddiffygion yn y modd yr oedd y gwasanaethau yn diwallu anghenion a buddiannau dysgwyr a'r gymuned ehangach. Roedd hefyd wendidau yn effeithiolrwydd yr arweiniad a'r rheolaeth strategol ar wasanaethau. Oherwydd bod y meysydd hyn wedi disgyn islaw'r trothwy ansawdd, cynhaliodd Estyn ailarolygiad ym mis Mawrth 2009.

 

Canfu'r tîm arolygu fod partneriaeth Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Sir Ddinbych, ar y cyfan, wedi gwneud cynnydd boddhaol yn erbyn argymhellion arolygiad 2006. Mae'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc yn nodi blaenoriaethau clir. Mae'r systemau rheoli perfformiad yn rhai cadarn, ond nid ydynt wedi'u sefydlu ers digon o amser i wella canlyniadau nac ystod ac ansawdd y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid. Mae'r bartneriaeth yn dal i fod heb orolwg digon da ar y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid na chanlyniadau pobl ifanc.

 

Mae pobl ifanc sy'n manteisio ar y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid yn cael cyfleoedd da i ddweud eu dweud ac maent yn gallu dylanwadu ar flaenoriaethau'r bartneriaeth. Serch hynny, mae bylchau o hyd yn y ddarpariaeth, gan gynnwys gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, cymorth i rai 16-25 mlwydd oed a gwasanaethau ieuenctid mewn ardaloedd gwledig. Nid yw'r bartneriaeth yn cynllunio'n ddigon da i gydlynu gwasanaethau gwybodaeth neu gymorth sgiliau sylfaenol ar gyfer pobl ifanc yn tu allan i leoliadau addysg ffurfiol.

 

Gellir gweld yr adroddiad ar Gyngor Sir Ddinbych yn: http://www.estyn.gov.uk/cy_inspection_reports.asp

 

Bydd Estyn yn cynnal ymweliad monitro â Chyngor Sir Ddinbych tua thri mis ar ôl i adroddiad yr arolygiad gael ei gyhoeddi, er mwyn asesu cynnydd yr awdurdod.

 

 

Fel y soniais yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mawrth, bydd gwaith Bwrdd Annibynnol Adfer Addysg Sir Ddinbych yn mynd yn ei flaen, o dan gadeiryddiaeth Roy James CBE. Mae eisoes wedi arwain at fanteision i'r awdurdod ac rwy'n credu bod gan y Bwrdd rôl bwysig i'w chwarae yn galluogi Sir Ddinbych i ddarparu arweiniad a gwasanaethau safonol unwaith eto. Bydd hynny er lles holl blant a phobl ifanc ardal yr awdurdod, fel eu bod yn derbyn yr addysg a'r gwasanaethau ehangach gorau posibl.