Skip to content

Ysgrifenedig - Sefydlu un Tribiwnlys Prisio i Gymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cyfrifoldeb Tribiwnlysoedd Prisio yw gwrando apelau ynghylch prisiadau ac atebolrwydd at ddibenion y dreth gyngor, a phrisiadau at ddibenion ardrethi annomestig, ac Ardrethi Draenio Tir. Ar hyn o bryd, mae pedwar Tribiwnlys Prisio unigol ac annibynnol o safbwynt y gyfraith – yn y Dwyrain, y Gorllewin, y De a’r Gogledd.

 

Yn 2006, sefydlwyd Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru er mwyn darparu gwasanaeth gweinyddu canolog i’r Tribiwnlysoedd Prisio. Bellach hwn sy’n cyflogi’r holl staff a fu’n gweithio gynt i’r 4 tribiwnlys unigol. Mae Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru wedi sefydlu systemau gweinyddu unedig ac mae’n sefydlu polisïau corfforaethol er mwyn cynnig gwasanaeth cymorth effeithiol a chyson i’r Tribiwnlysoedd eu hunain, ac i aelodau’r cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu.

 

Cynhaliwyd adolygiad o’r Tribiwnlysoedd Prisio yn 2006-07 er mwyn pwyso a mesur yr opsiynau hirdymor o ran sut dylid darparu eu gwasanaethau yng Nghymru yn y dyfodol. Un o argymhellion yr adroddiad hwnnw oedd y dylid sefydlu un Tribiwnlys Prisio i Gymru, a fyddai’n debyg i’r tribiwnlysoedd eraill y mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyfrifoldeb polisi drostynt. Dylai creu un tribiwnlys sicrhau gwell arweiniad cyfreithiol, hyrwyddo gwell safonau o ran gwneud penderfyniadau, a chysoni’r dull o weithredu. Dylai hefyd ei gwneud yn haws rhannu’r arferion gorau. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn 2008 ar y cynnig hwn ac rwyf wedi ystyried yr atebion yn ofalus.

 

Pryder a fynegwyd yn aml yn ystod yr ymgynghoriad oedd y posibilrwydd o golli hunaniaeth leol, a hoffwn sicrhau pawb y bydd y Tribiwnlysoedd yn parhau i fod yn wasanaeth lleol i’r bobl sy’n eu defnyddio, a’r rheini sy’n aelodau o’r Tribiwnlysoedd. Wrth i’r rheoliadau gael eu drafftio, felly, byddaf yn sicrhau eu bod yn cynnwys amodau sy’n golygu na fydd yn ofynnol i aelodau’r tribiwnlys weithio mewn lleoliad sydd hyn a hyn o filltiroedd o’u cartref, gan sicrhau trwy hynny fod gwybodaeth leol a hunaniaeth leol yn cael eu diogelu. Bydd y gwasanaeth hefyd yn parhau i fod yn un lleol a chaiff gwrandawiadau eu cynnal mewn lleoliadau cyfleus i’r apelwyr.

 

Caiff Llywydd cenedlaethol ei ethol o blith aelodau’r Tribiwnlys gan yr aelodau eu hunain, a bydd gan gynrychiolwyr rhanbarthol etholedig seddau ar y Cyngor Llywodraethu, er mwyn cynrychioli barn pob aelod. Rwyf o’r farn y bydd y strwythur newydd arfaethedig yn helpu’r Tribiwnlysoedd Prisio i ymateb i heriau’r dyfodol, gan foderneiddio’r gwasanaeth ar yr un pryd a sicrhau ei fod yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i ddinasyddion Cymru.

 

Bydd y rheoliadau ar gyfer sefydlu un tribiwnlys a’r amodau eraill uchod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn y modd arferol.