Skip to content

Ysgrifenedig - Cyhoeddi Adroddiad o Ymchwiliad Bro Morgannwg i Reoli Achos

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol

Bydd Aelodau’r Cynulliad yn cofio pryder y cyhoedd ar ôl i ddyn ifanc a oedd wedi ei leoli gyda theulu gan Gynllun Lleoli Oedolion Bro Morgannwg gael ei gollfarnu. Ar yr adeg honno, cydnabu’r Awdurdod fod camgymeriadau wedi eu gwneud, gan ymddiheuro’n gyhoeddus i’r teulu dan sylw. Mewn ymateb i'r achos hwn, cychwynnodd yr Awdurdod ymchwiliad i reoli mewnol a darparwyd gwaith craffu a chyngor annibynnol ar ei gyfer gan yr NSPCC.    

Mae Bro Morgannwg wedi cyhoeddi ei Adroddiad o’r Ymchwiliad i Reoli Achos heddiw.

Hoffwn ddatgan fy nhristwch a’m pryder dwys fy hun ynglŷn â’r niwed a achoswyd o ganlyniad i fethu ag amddiffyn y plant yn y teulu hwn, a'r gofid y mae hyn wedi ei olygu iddynt hwy a’u rheini. Rwyf yn siŵr y bydd Aelodau’r Cynulliad yn dymuno ymuno â mi i fynegi ein cydymdeimlad â phawb yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol oherwydd iddynt orfod dioddef y fath drawma dan amgylchiadau lle yr oeddent yn darparu gwasanaeth i bobl  agored i niwed ar ran eu cymuned.

Byddaf yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i’r adroddiad hwn. Mae’n amlwg bod camgymeriadau wedi eu gwneud, ac rwyf wedi gofyn i Brif Arolygydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru roi gwybod i mi beth fydd y camau nesaf o ran y materion a godwyd gan yr adroddiad hwn. Rwyf yn deall bod yr Awdurdod wedi ailadrodd ei ymddiheuriad i’r teulu, a’i fod yn sefydlu cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r materion a ganfuwyd. Bydd Aelodau’r Cynulliad hefyd eisiau gwybod bod y Prif Arolygydd yn ysgrifennu heddiw at Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ym Mro Morgannwg ac yn gofyn am ymateb erbyn 29 Mai. Rwyf yn benderfynol o sicrhau y dysgir gwersi o’r digwyddiadau trychinebus hyn, ac y cymerir pob cam angenrheidiol i helpu i atal amgylchiadau o’r fath rhag digwydd eto.

Rwyf yn gwybod bod Aelodau’r Cynulliad yn rhannu fy nghred fod yn rhaid i bob asiantaeth statudol, sydd â chyfrifoldeb dros ddiogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed, gynnal safonau o’r lefel uchaf. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn cofio’r cyd-ddatganiad gweinidogaethol a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y llynedd yn dilyn marwolaeth y baban Peter yn Haringey, a osododd y sail ar gyfer y trefniadau diogelu plant a roddwyd ar waith gennym ni yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys yr adolygiad cenedlaethol o’r trefniadau ar gyfer diogelu plant a arweinir gan AGGCC, sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Bydd yr adolygiad hwn yn darparu’r sail ar gyfer adroddiad cyffredinol cenedlaethol ar ddiogelu plant yng Nghymru a gyhoeddir yn yr hydref. Bydd Aelodau’r Cynulliad hefyd yn gwybod am y gwaith tebyg sy’n canolbwyntio ar ddiogelu oedolion.

Byddaf hefyd yn sicrhau bod unrhyw wersi y dylid eu dysgu yn genedlaethol o adroddiad Bro Morgannwg, ac o’r camau y mae’r Prif Arolygydd yn eu cymryd, yn ennyn ymateb cyflym.