Skip to content

Llafar - Adfywio Strategol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, Y Dirprwy Weinidog dros Adfywio

Heddiw hoffwn nodi rhai egwyddorion sy’n llywodraethu ein hymagwedd strategol tuag at adfywio. Yng nghytundeb 'Cymru’n Un’, mae Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud ymrwymiad i,

'sefydlu mentrau integredig a thrawsbynciol gyda’r nod o sicrhau datblygu economaidd ac adfywio, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd uchel - bydd modelau presennol Rhaglen Blaenau’r Cymoedd a Môn Menai yn enghreifftiau o arfer da.’

Gwna ymrwymiad hefyd i,

'fabwysiadu dull Cymru gyfan o sicrhau datblygiad economaidd, gan warantu buddsoddiad ym mhob ardal o Gymru a chan weithio o fewn fframwaith Cynllun Gofodol Cymru.’

Mae angen ymagwedd fwy strategol, hirdymor a chyfannol tuag at adfywio. Gallai ymagweddau tuag at adfywio nad ydynt yn mynd i’r afael ag anghenion sgiliau a chyflogadwyedd pobl a chymunedau ochr yn ochr â gwelliannau ffisegol ac amgylcheddol anwybyddul problemau cymdeithasol hirsefydlog fel anweithgarwch economaidd, tlodi ac allgáu cymdeithasol.

Er mwyn cyflawni’r ymrwymiadau hyn, mae angen inni gydgysylltu ein gweithgareddau adfywio mewn perthynas â buddsoddi mewn pobl a lleoedd. Mae pwyllgor y Cabinet ar adfywio, sgiliau a mynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd, dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Weinidog, wedi cael ei sefydlu i gynorthwyo gyda chydlyniant ar draws adrannau, ac mae bwrdd adfywio, yr wyf fi yn gadeirydd arno, wedi cael ei sefydlu i ddod â’r gwaith datblygu rhaglen ynghyd rhwng adrannau. Yr ydym felly’n ymateb i adroddiad 2005 Swyddfa Archwilio Cymru drwy gydweithio tuag at strategaeth unedig.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, yr ydym wedi dyfnhau ein hymrwymiad i raglen Blaenau’r Cymoedd. Yn erbyn cyllideb flynyddol gychwynnol o £10 miliwn, gwariwyd mwy na £15 miliwn gennym yn 2006-07 a mwy nag £16 miliwn yn 2007-08. Yr ydym wedi cyflwyno’r rhaglen JobMatch ar draws y pum awdurdod. Yr ydym wedi cyhoeddi ein cynllun gweithredu strategol tair blynedd, gwerth £15 miliwn, ar gyfer Môn a Menai. Yr ydym yn symud ein rhaglen Cymunedau yn gyntaf i gyfeiriad adfywio strategol gyda chronfa canlyniadau newydd gwerth o leiaf £25 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

Yr ydym yn ymchwilio i ddulliau ariannu newydd. Mae gennym ddiddordeb ym mhotensial y fenter cyd-gymorth Ewropeaidd ar gyfer buddsoddi cynaliadwy mewn ardaloedd dinesig, JESSICA, a ddatblygwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd mewn cydweithrediad â Banc Buddsoddi Ewrop.

Mae astudiaeth ddichonoldeb a gomisiynwyd gan Fanc Buddsoddi Ewrop ar ein rhan bellach wedi cael ei chwblhau. Bydd Gweinidogion yn gwneud penderfyniadau ar sut i fwrw ymlaen â hyn yn ystod yr wythnosau nesaf. Er bod llawer i’w wneud, yr wyf yn obeithiol y bydd hyn yn dangos inni sut y gallwn ddefnyddio arian Ewropeaidd ochr yn ochr â chronfeydd y sector preifat i sicrhau buddsoddiad ychwanegol ar gyfer adfywio.

Yr ydym wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar y posibiliadau ar gyfer canolfan ragoriaeth yn y maes adfywio yng Nghymru. Yr ydym yn cynnal uwchgynhadledd adfywio Cymru yr wythnos nesaf yn Abertawe, gyda siaradwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol o’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, a bydd 250 o gynadleddwyr yn bresennol. Yn fewnol, yr ydym wedi cynnal adolygiad o’n gwariant ar adfywio o fewn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth, i sicrhau ei fod yn canolbwyntio’n effeithiol ar flaenoriaethau 'Cymru’n Un’ a blaenoriaethau gweinidogol. Mae hynny’n ymwneud â chyllideb o fwy na £60 miliwn.

Rhaid inni wario ein buddsoddiad mewn adfywio yn ddoeth. Yr wyf am i’n partneriaid fod yn glir ynghylch ein hymagwedd. Ni fyddwn yn cyfnewid adfywio cyfannol ac effaith am barodrwydd i gadw pawb yn hapus. Ni fyddwn yn gweithredu’r diwylliant bargen rhwng cariadon sy’n endemig yng ngwladwriaeth y cwangos. Bydd hon yn broses fwy tryloyw. Gofynnwn gwestiynau anos i’n partneriaid, yn cynnwys awdurdodau lleol. Os yw ein partneriaid am gael cyllid adfywio gennym ar gyfer ardal, byddwn am weld eu hymrwymiad i adfywio’r ardal honno’n gyfannol. Bydd egwyddorion tebyg yn llywio ein cymorth ar gyfer prosiectau adfywio a gyflwynir drwy raglenni’r cronfeydd strwythurol.

Bu rhai adroddiadau camarweiniol ar ein hadolygiad mewnol o wariant ar adfywio. Yn groes i’r adroddiadau hynny, ni fwriadaf gyhoeddi 12 o ardaloedd adfywio strategol ledled Cymru. Fodd bynnag, bwriadaf ddatblygu rhagor o ardaloedd adfywio strategol dros amser. Pennir y nifer, eu maint a’u cyllidebau ar sail achosion unigol lle y credwn y gallwn ychwanegu gwerth sylweddol at gynlluniau adfywio presennol. Ffactorau allweddol ar gyfer nodi meysydd adfywio strategol fydd: y cyfraniad at amcanion 'Cymru’n Un’ a’r gyfatebiaeth â blaenoriaethau cynllun gofodol Cymru; trosoledd y sector preifat mewn sectorau sy’n bwysig i economi Cymru; cyfle economaidd, sy’n mynd i’r afael ag amddifadedd ar yr un pryd; gwariant ar gysylltiadau i drafnidiaeth gynaliadwy; y potensial ar gyfer tai fforddiadwy; effaith amgylcheddol a chynaliadwyedd; mynd i’r afael â’r cyflenwad sgiliau; a mynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd. Bydd gallu rhwydweithiau lleol i gyflawni hyn, yn cynnwys partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf ac awdurdodau lleol, hefyd yn cael ei ystyried. Mewn rhai ardaloedd, gallwn sefydlu timau prosiect penodol yn seiliedig ar fodel Blaenau’r Cymoedd, o blith adrannau perthnasol Llywodraeth y Cynulliad a rhanddeiliaid lleol.

Heddiw, yr wyf yn cyhoeddi un ardal adfywio strategol newydd, sy’n cwmpasu trefi glan môr y Rhyl a Bae Colwyn. Byddaf yn ymweld â’r ddwy dref ddydd Gwener i amlinellu’n fanylach sut y bwriadwn ddatblygu hyn. Bydd ein hymagwedd gyffredinol tuag at adfywio yn sicrhau bod rhaglenni adfywio’n cefnogi anghenion cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, yng ngoleuni adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol y llynedd. Bydd hefyd yn hybu mentrau a all gryfhau’r iaith Gymraeg, gan gefnogi ein hymrwymiad yn 'Cymru’n Un’ i’w hannog i ffynnu fel iaith llawer o gymunedau ledled Cymru. Bydd yr ymagwedd newydd hon yn golygu bod yn rhaid blaenoriaethu os ydym am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r cymunedau sydd ei angen fwyaf. Yr ydym yn benderfynol o sicrhau’r budd mwyaf a’r budd mwyaf effeithiol o fuddsoddiad Llywodraeth y Cynulliad. Byddwn yn parhau i gefnogi ystod eang o brosiectau adfywio ledled Cymru. Byddwn yn edrych yn barhaus am ardaloedd y gellid eu cynnwys fel ardaloedd adfywio strategol yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’n partneriaid i gyflawni’r ymagwedd hon.