Skip to content

Ysgrifenedig - Adolygiad o’r Contract Deintyddol Cenedlaethol yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Ar 13 Tachwedd 2007 cyhoeddais y byddwn yn cynnal adolygiad o'r contract â deintyddion ac i'r perwyl hwnnw, y byddwn yn sefydlu gr?p gorchwyl a gorffen i ystyried sut i wella'r ffordd y mae'r contract yn gweithio.

Mae adroddiad y Gr?p wedi cyrraedd heddiw, ac rwy'n ei groesawu.  Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, yr Athro Wayne Richards, ac i aelodau eraill y Gr?p a gynhaliodd yr adolygiad.  Mae'r adroddiad yn derbyn bod y contract deintyddol yn system ymarferol ar y cyfan ond y byddai newidiadau yn ei wella gan roi'r potensial iddo wella iechyd y geg ymhlith pobl Cymru.  Mae 24 argymhelliad ynddo, gyda rhai ohonynt yn gofyn am ragor o waith, i wneud y contract yn fwy effeithiol ac i wella iechyd cegau pobl Cymru.

Medraf gyhoeddi fy mod am dderbyn un o brif argymhellion yr Adroddiad heddiw trwy gadarnhau y caiff y dyraniadau o fewn cyllidebau Byrddau Iechyd Lleol sydd wedi'u neilltuo ar gyfer deintyddion eu hestyn am dair blynedd arall.  Roedd y trefniadau presennol i fod i ddod i ben ym mis Ebrill 2009 ac mae diogelu'r adnoddau sydd wedi'u neilltuo o fewn cyllidebau Byrddau Iechyd Lleol tan o leiaf 2012 yn anfon neges bwysig ynghylch y ddarpariaeth i ddeintyddion.

O ran yr Adroddiad llawn, mae'r Gr?p wedi gweithio'n galed iawn ac wedi treulio llawer o amser i'w gwblhau, ac rwy'n awyddus bod cymaint o bobl â phosibl yn cael cyfle i ystyried ei argymhellion.

Rwy'n bwriadu felly anfon copi dros yr haf o'r Adroddiad at bob deintyddfa yng Nghymru sy'n darparu gwasanaeth o dan y GIG, gan wahodd sylwadau ar ei gynnwys.  Bydd Aelodau'r Cynulliad yn cael copïau o Adroddiad Gr?p yr Adolygiad a bydd ar gael hefyd ar wefan Llywodraeth y Cynulliad i'r cyhoedd yn gyffredinol ei ystyried.

Unwaith y bydd y proffesiwn a charfanau ac unigolion perthnasol eraill wedi cael cyfle i ystyried argymhellion yr Adroddiad, a chynnig sylwadau arnynt, byddaf yn gwneud datganiad arall ar y mater yn y Cynulliad yn yr hydref.